Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

perswadio

perswadio

Mae Morgan Pelagiws, y mynach o'r bumed ganrif, wedi'n perswadio'n ddidrafferth y gallwn fyw heb addoli a heb ofidio am bechod na cheisio gras a maddeuant.

Ond, mae peryg i Lafur ddibynu'n ormodol arno, ac fel y dangosodd etholiadau'r Cynulliad, Senedd yr Alban a sawl gornest leol ar gynghorau Lloegr, all Mr Blair ddim perswadio pawb.

Doedd dim eisiau perswadio'r criw i hel eu pac oddi yno, a dwy' ddim wedi gweld dyn camera yn symud mor gyflym yn fy myw!

'Ac os na fedra i eich perswadio, mi fydd f'ewyrth ...

Y byd ar drothwy rhyfel ond Kennedy yn perswadio Rwsia i droi'n ôl.

A gwaetha'r modd, y mae Saeson yn rhai hawdd iawn i'w perswadio i edrych gyda dirmyg ar bawb nad ydynt yn Saeson.

Yr oeddwn i wedi ceisio perswadio Cyngor Sir Gaerfyrddin o'r angen hwn am flynyddoedd, ac wedi llwyddo o'r diwedd i'w cael i wneud arbrawf yn y pwyllgor addysg, mewn un o'r cyrddau lle y digwyddem fod yn trafod cwestiwn ysgolion cyfun dwyieithog.

Rhaid darbwyllo'r rhieni glastwraidd fod argyfwng ar yr iaith Gymraeg ond anodd iawn ydyw eu perswadio heb sôn am law eu hargyhoeddi.