Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

perthynai

perthynai

Dyn cymesur a golygus oedd Daniel, ac ym mha le bynnag y gwelid ef, yn y gwaith tun neu yn y Sedd Fawr, perthynai rhyw urddas iddo, a rhoddai argraff dda ar bawb a gyfarfyddai ag ef.

Perthynai'r ddwy, yn eu ffyrdd gwahanol, i fudiad llenyddol pur boblogaidd yn Ffrainc tua dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg: mudiad a welai ar y naill law ymgais i gysylltu'r chwedl Arthuraidd (cyfraniad mwyaf Cymru i ddychymyg Ewrop, o bosibl) â chyfnod y Testament Newydd a sefydlu'r Greal Sanctaidd yn un o brif themâu llên Ffrainc, a mudiad a oedd yn dyst ar y llaw arall i symud pendant oddi wrth yr hen arfer Ffrengig o gyfansoddi naratif ar fesur ac odl i lunio stori%au rhyddiaith.

Perthynai iddi nifer o ganoniaid lleyg.

Perthynai iddo rhyw ddiniweidrwydd hoffus ryfeddol, a'i gonsern am eraill mor amlwg.

Perthynai deg o'r eglwysi hyn i'r rhodd honno.

Perthynai Cwm Tryweryn a Chapel Celyn i Benllyn, lle y mae'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn dal yn loyw

Er hynny, i Paul y perthynai'r egni a'r cyffro creadigol.

Perthynai i genhedlaeth nad oedd yn cydnabod Cymru a Chymraeg yn ddyletswydd.

Perthynai Bowser i deulu a ddeilliai o Swydd Efrog o ardal Castle Howard ond yn araf gwasgarodd y teulu fel y ceisiai'r aelodau ifanc ledu eu hesgyll i chwilio am borfeydd brasach.