Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

peryg

peryg

`Gyda phleser,' ebe Harri, `ond i chwi fod yn gyfrifol i mi am ganpunt os digwyddiff rhwbeth iddo.' `Dim peryg,' ebe'r Yswain, ac ychwanegodd, `ond tyrd dy hun efo ni, mi fydd yn dda gen i dy weld yn y cwmni.' Diolchodd Harri iddo, a theimlai yn hynod o hapus fod ei feistr tir wedi ei wahodd i ymuno â'r boneddigion oedd yn myned ar ôl y cŵn ddydd Llun, ac ni wnaeth efe ddim arall bron hyd y dydd penodedig ond ei daclu ei hun a'i geffyl ar gyfer yr amgylchiad.

Gwaith unig, un yn erbyn un, a'r peryg y byddai'r un yr oedd yn ymosod arno yn gweld ei wyneb ac yn ei gofio.

Ym - o oes, mae'r iaith yn hwylus i'w ddarllen … a does dim peryg ichi ddatblygu DVT drwy ymgolli'n llwyr ynddo.

Mae Gareth Roberts yn llywio'r cwis yn ddiogel ac mae'r cwestiynau, yn ôl arfer cwisiau Cymraeg, yn gymharol hawdd fel nad oes peryg i'r un tim o gystadleuwyr orfod gadael heb wobr o ryw fath.

Peryg Mewn Ffrig - Pan glywson ni hon yn cael ei pherfformio'n fyw yn Sesiwn Fawr Dolgellau mi oedden ni'n gwybod ei bod yn mynd i fod yn un dda.

Ond, mae peryg i Lafur ddibynu'n ormodol arno, ac fel y dangosodd etholiadau'r Cynulliad, Senedd yr Alban a sawl gornest leol ar gynghorau Lloegr, all Mr Blair ddim perswadio pawb.

Efallai na cheir rhyw lawer o amrywiaeth ar yr EP Farming in Space, ond gyda'r bedair cân o dan bedair munud o hyd does dim peryg i unrhyw un ddiflasu arnynt.

Wedi byw am flynyddoedd fel chwarelwyr, arian bach, a gwaith peryg, bellach car yn ymddangos am y tro cyntaf mewn garej, a charped o wal i wal, a dyn yn cael cyflog teg am ddiwrnod gonest o waith.

Peryg iawn!

Ym mhob peth, roedd hi'n bosib' gweld sumbol; y peryg' oedd eu bod nhw'n fwy o sumbolau o dyb neu ramant y Gorllewin nag o realiti'r sefyllfa yno.

"Dim peryg," atebodd Douglas gan gipio'r bêl a rhedeg fel milgi i sgorio unwaith eto.

Achos y mae peryg i berfformiad fod yn drech na'r neges.

Dyma'r dip gorau ar gyfer trin defaid ond yr un mwyaf peryg i ddyn.

Y peryg yw, y bydd yntau hefyd yn methu a gwrthsefyll y demtasiwn i gydio yng nghynffon yr un teigr a'i fam.

Ond byddai hwnnw yn gyhoeddiad gwahanol ac mewn peryg o ddyddio.

Peth peryg i'w wneud uwch ben cannwyll!