Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

perygl

perygl

Yna'n cael nerth o rywle a dweud wrthi am ffonio Elsie ei hun (dim perygl iddi hi wneud hynny), ac nad oedd angen fy nghludo pnawn 'fory am fy mod i'n mynd i'r Rhyl yn y bore.

Sylweddolais innau, er i bron ddeugain mlynedd fynd heibio, nad oedd digon o ddþr wedi cael ei dywallt ar y tân arbennig hwn, bod perygl o hyd fod rhywun yn credu fod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda chyllid yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli.

Gydag amseru mor berffaith, 'doedd dim perygl iddi fethu â chael y maen i'r wal.

Rwy'n amau a oes perygl i fywyd o gwbl pan yw'r dynion hyn ar y llongau."

Y perygl mwyaf i ni fyddai caniatáu i'r Bwrdd Iaith, Tai Cymru, Quangos Addysg ac yn y blaen fynnu cael hunan-lywodraeth.

Wedi'r cwbl, os ydi'r Beibl yn dweud bod 'Oen Duw' yn gallu gwneud 'hyd yn oed i'r gwynt a'r môr ufuddhau iddo', pwy ydan ni i feddwl mai dim ond ar gyfer dynol ryw y crewyd neges y Nadolig.perygl yn sbaen bob eynon tud.

Yr hyn a wnaeth yr arbenigwyr hyn oedd darganfod y ffyrdd gorau i "ddatblygu% ein darnau ar y cychwyn - er mwyn trefnu ein hymosodiad ar y Brenin, tra ar yr un pryd yn diogelu ein darnau ein hunain gan gynnwys y Brenin, wrth gwrs, rhag perygl.

Buan iawn y daw arwyddion perygl i'r amlwg, ond ymddengys Gwenan druan yn ddall i'r cyfan.

Mae perygl bob amser wrth edrych yn ôl, yn enwedig ar ddyddiau plentyndod, i ramantu.

Dyna oedd y perygl, fel heddiw, yng nghyffiniau porthladd Eilat.

Y mae perygl o hyd y gall ffactorau allanol, na all y tîm cynhyrchu eu rheoli, ddifetha'r ffilm.

I'w gwarchod rhag y perygl hwnnw gofalwyd bod ganddynt eu puteindai eu hunain, a byddai'r puteiniaid proffesiynol a gedwid yn y rheini'n cael archwiliad meddygol yn gyson.

Ond gwelodd y Brenin Affos y perygl.

Gellid gwrthod cyflogi rhywun os oedd perygl, yn nhyb yr awdurdodau, y byddai'r person hwnnw yn ymgymryd â gweithgareddau gwrth-gyfansoddiadol yn y dyfodol.

Y perygl mwyaf i Fidel yw'r ieuenctid.

Onid oedd perygl felly y gallai farw yn ystod un o'r ysbeidiau hyn, ac na ddylai'r mudiad gymryd ei atgofion yn ganiataol?

Bydd cnewyllyn o staff sy'n gweithio mewn swyddfeydd yn cael eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf sylfaenol yn ogystal ag Arolygwyr Cynllun a gweithwyr Prosiect a staff eraill sy'n debygol o fod mewn perygl, e.e.

Yno byddent mewn perygl o gael eu lladd, ond dyna'r unig le lle'r oedd rhyw obaith am fwyd, os caent drugaredd.

Dyfodol y Pincod Am nifer o resymau mae llawer o'r adar mewn perygl.

Y perygl amlwg o gyfyngu trafodaethau ar y Gymraeg i un Pwyllgor Pwnc yn unig yw mai dim ond trafodaethau yn ymwneud â statws yr iaith a hawliau ieithyddol siaradwyr unigol fyddai'n cael eu hamlygu.

Dyma rhywbeth a allai osod Cristnogion mewn perygl, ac nid gêm oedd yr hyn yr oeddwn am ei wneud.

Ymhlith y planhigion prin sydd mewn perygl, rhestrir lili'r Wyddfa, a'r lafant mor unigryw, Dewi Sant.GARDD SGWARIAU NEU ARDD AROGLAU

Y perygl amlwg yw fod y Ddeddf Seisnig hefyd yn cynnwys Cymru, sy'n golygu mai unig rôl y Cynulliad fydd gweinyddu polisiau wedi eu llunio yn Lloegr.

Gwir mai'r clwb lleol ple mae'r aelodau yn cyfarfod yn gyson o wythnos i wythnos yw pwerdy'r mudiad - yno y ceir y gyfathrach glos, yno y ceir y gwmni%aeth ddiddan, ond y perygl o gadw o fewn muriau'r clwb lleol yw i'r aelodaeth ddiflasu gan nad oes sialens ychwanegol iddynt.

A gweld yr ochr ddu i bethau a wnaeth ef mewn sylwadau ysgytwol wrth drafod y trysor gwerthfawr sy'n perthyn i ni Gymry Cymraeg a'r perygl o'i golli ef a'r iaith ei hun.

Y mae'r diwylliant Cymreig sydd, i raddau helaeth, yn un â'r iaith Gymraeg, mewn perygl einioes, fel y gwyddoch.

Rydan ni mewn perygl, perygl gwirioneddol.

'Perygl i mi gael diffyg traul, Miss Richards.

Mae Crystal Palace - sydd mewn perygl o syrthio o'r Adran Gyntaf - wedi diswyddo'u tîm rheoli, sef Alan Smith a Ray Houghton.

Mrs Thatcher yn dweud fod perygl i ddiwylliant gael ei foddi gan ddylanwad estroniaid.

Os pery'r sefyllfa fel ag y mae yna mae perygl dybryd na ddefnyddir y Gymraeg o gwbl gan yr aelodau.

Y perygl arall gyda nawdd, ychwanega Gruffydd, yw gwneud pobl yn ddiog a bodlon eu byd.

"Wyddoch chi ddim eich bod chi mewn perygl bywyd yn nofio ar eich pen eich hun yn hwyr y nos?" "Perygl?

Fyddai neb wedi dychmygu'r gallu a'r grym a'r perygl oedd y tu ol i'r sgrin a'r tu mewn i'r bocs pren caboledig, melfedaidd.

Un canlyniad i hyn yw fod perygl datgymalu'r rhwydwaith o athrawon cynhaliol a sefydlwyd dros nifer o flynyddoedd mewn awdurdodau addysg lleol.

Er bod lle i ddal fod Traed mewn Cyffion yn rhy gynnil mewn mannau, ac mewn perygl o droi'n gronicl moel, rhaid derbyn yn gyffredinol nad yw Lewis Jones ddim yn yr un cae a Kate Roberts lle mae celfyddyd lenyddol yn y cwestiwn.

Perygl rhai beirniaid fu dibrisio'r emynau oherwydd hynny.

Cred y Gymdeithas fod perygl i'r Byd Addysg Gymraeg ddatblygu'n beiriant hunan-gynhaliol, a bod angen hybu'n bennaf y datblygiad hynny lle mae'r drefn addysg yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymuned yn hytrach na hybu'r defnydd o'r Gymraeg tu fewn i'r ysgol neu'r coleg yn unig.

Rydym yn ymrwymo i weithredu gydag unrhyw gymuned sydd ag ysgol mewn perygl o gael ei chau.

Iddynt hwy yr oedd peryglon rhyfel, - sef y perygl o ddifodiant llwyr, - yn anfeidrol fwy na'r peryglon i'r pwerau mawr.

Nid yw swydd Joe Royle, rheolwr Manchester City, mewn perygl yn ôl cadeirydd y clwb, David Bernstein.

'Gwranda! Dwyt ti ddim yn deall. Rydan ni mewn perygl, perygl gwirioneddol."

Nesaf at berygl rhyfel rhwng y Dwyrain a'r Gorllewin barnaf mai cenedlaetholdeb yw'r perygl mwyaf sy'n wynebu dyn ar hyn o bryd.

Mae perygl y gallai'r clwb fynd i'r wal.

Ac felly mae'r ddeddf a gafodd ei phasio'n ddiweddar yn cyfyngu'r hawl gyfansoddiadol i loches yn yr Almaen i'r bobl hynny sy'n cyrraedd yn syth o'r wlad lle roeddent mewn perygl.

Ymhlith yr aberoedd sydd mewn perygl mae Dyfrdwy, a Hafren yr olaf wrth gwrs yn yn fannau bwydo o bwys rhyngwladol i adar megis y gylfinir, a hwyaid a gwyddau gwyllt.

Y perygl amlwg yw y bydd y Ddeddf Seisnig hefyd yn cynnwys Cymru, sy'n golygu mai unig rol y Cynulliad fydd gweinyddu polisiau wedi eu llunio yn Lloegr.

'Dim perygl yn y byd.

'Mae syrthio mewn cariad yn bur debyg i syrthio oddi wrth ras', meddai Mrs Elias, a 'caru ydy'r perygl mwyaf i weddio'.

Onid oedd perygl i gynulleidfa droi'n dorf ddi-reol?

Dylent fod yn ymwybodol yn bennaf o:  sicrhau diogelwch ac amddiffyniad  trafod ymosodiadau fel troseddau  eu gallu i restio tramgwyddwyr a'u cymryd i'r ddalfa  cyhuddo tramgwyddwyr - perygl ceisio cymodi  cadw gwell cofnodion  cydgysylltu ag asiantaethau meddygol a chynorthwyol Y rheswm mai croeso pwyllog a roddir gennym i'r mesur hwn, heb law am resynu'r ffaith nad ymgynghorwyd â ni cyn ei gyhoeddi, yw ein bod yn ymwybodol iawn o'r angen am adnoddau ychwanegol - i'r awdurdodau heddlu er mwyn gweithredu'r canllawiau, ac i asiantaethau eraill fel ninnau i ymateb i'r cynnydd tebygol a fydd yn y galw am ein gwasanaethau.

Sut bynnag, oherwydd yr oediadau sydd ynghlwm wrth bolisi%au economaidd, y mae perygl i fesurau gwrthgylchol y llywodraeth gynyddu yn hytrach na lleihau osgled y toniannau, ac, fel canlyniad, ansefydlogi yn hytrach na sefydlogi'r economi.

Ond yr wyf yr un mor ymwybodol o'r perygl i genedl fach longyfarch ei hawduron am yr unig reswm eu bod yn sgrifennu yn y famiaith.

Ddaeth yna ddim da o symud y ffon oddi yno; mi fu fy nhad farw ac mi fu+m innau mewn perygl einioes hefyd, ac mi fu Maes y Carneddau mewn perygl." "O Alun dydw i ddim yn dy ddeall di weithiau, dyma ti eto'n rhamantu ac yn byw mewn byd o ffantasi." "Efallai'n wir.

Gan fod i Ddinbych, a'r Capel Mawr yn arbennig, le mor gynnes yn fy nghalon y mae perygl fy mod yn syrthio i fagl rhamantu.

Mae'r gallu i weld yn ein helpu i ganfod lloches, bwyd a dwr, ac i adnabod perygl.

Perygl yw iddi fynd yn rhy hwyr bellach i droi'r llanw ond yn sicr dylai hwn fod yn fater a fydd yn uchel ar restr blaenoriaethau Huw Jones.

Yn ystod y cyfnod yma o tua deng wythnos pan gollent eu plu a thyfu rhai newydd, maent yn ddistaw a llechwraidd gan eu bod mewn perygl oddi wrth pob math o elynion.

Tystiodd y caplaniaid fod y bechgyn hynny a fagwyd yn yr Eglwys, wedi cydymddwyn â'u cyflwr yn well na'r lleill, ond yr oedd perygl iddynt hwythau, hefyd, ymbellhau oddi wrthi.

Roberts am y trwbwl a ddaeth arno, am fyrhau ei fywyd, rhoi ei fywyd mewn perygl, etc.' Yr oedd cenhadwr Maulvi Bazaar hefyd i fod i gymryd rhan yng ngwasanaeth ordeinio Badshah yn y sasiwn yn Sylhet ym mis Mawrth.

Yr oedd nifer yn eu plith yng nghylch Northampton a ymawyddai am ddymchwelyd y drefn esgobyddol ac yr oedd perygl gwirioneddol i'r hyn a fu hyd yma'n anghydweld y tu mewn i gorlan yr Eglwys droi'n rhwyg a yrrai rai i ymneilltuo ohoni.

Y mae'r penwyr polisi%au, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r perygl hwn, ac wrth lunio polisi%au cyweiriol maent yn ceisio rhagweld yr hyn sy'n debyg o ddigwydd yn ystod y misoedd sydd i ddod yn hytrach na hoelio eu sylw ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y misoedd a aeth heibio.

Cymharol ddibrofiad oeddwn i yn y gwaith o brynu llyfrau bryd hynny, ond doedd dim perygl imi wneud camgymeriad y tro hwn.

Yr oedd holl wareiddiad a diwylliant Ewrop mewn perygl enbyd, meddai, ac eto prin y mae eco o'r holl broblemau hyn ym marddoniaeth gyfoes Cymru.

Drannoeth, wedi i'r perygl gilio, aeth yr hen ŵr am dro at y ffynnon unwaith eto, gan ddal i bwyso'n drwm ar ei bastwn.

A phwy arall sydd mewn perygl?

Yr ail beth sy'n destun pryder i ni yw'r "cofrestri menywod mewn perygl" y rhoddwyd cymaint o gyhoeddusrwydd iddynt.

Os yw plentyn yn gwisgo breichled ddu, mae'n golygu nad yw bellach mewn perygl o farw.

Pwysleisiwyd hyd yma ddylanwad y Mudiad Gwyrdd ar ein hymwybyddiaeth o'r perygl i ecoleg y byd.

Gwelsant hyn fel perygl real iawn i ddemocratiaeth.

Y mae hi mewn perygl o droi'n wlad gref a gwahanol, ac felly rhaid cynllwynio i atal hyn, a honiad un o'r cythreuliaid yw ei fod wedi rhoi'r syniad ym mhen y Llywodraeth bod yn rhaid dyfeisio cyfundrefn o addysg (t.

Ymgyrchu dros fywyd gwyllt Cymru MAE perygl i lafant y môr prin, lili Eryri a phlanhigion ac anifeiliaid eraill ddiflannu am byth o Gymru os na fydd ymdrechion newydd i amddiffyn ein harfordir a'n cefn gwlad.

Ymladdasai drwy'r holl ryfel bu ei fywyd mewn perygl mawr bob dydd.

Ond gyda'r mewnlifiad priodasau cymysg, trai ar grefydd ac ymyrraeth sefydliadol yn bygwth chwalu'r peuoedd cynhaliol hyn y mae perygl i'r Gymraeg, onid ail sefydlir y peuoedd hyn a'u hymestyn i feysydd newydd, gael ei gadael yn noeth yn nannedd y ddrycin.

Pe bai merch ddi-briod yn neidio drosti, roedd perygl iddi ddod yn feichiog cyn priodi.

Enghraifft o hyn yw'r sefyllfa a welir yng Ngholeg Ceredigion ar hyn o bryd sydd mewn perygl o gael ei gau oherwydd diffyg ariannu.