Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pha

pha

"Yr un siap â phâr o drôns," meddyliodd Morfudd.

A pha un bynnag, roedd ganddo reitiach pethau i feddwl amdanynt.

A pha mor flinedig ydoedd.

Gwelsom Mr Jones, Dolwar, yn croesi'r cae â phâl yn ei law, wedi bod yn chwilio am ddiferyn o ddŵr i'w ddiadell, ac yr oedd honno'n ei ddilyn gan frefu mor daer â'r hydd a glywsai'r Salmydd gynt yn brefu am yr afonydd dyfroedd.

A pha amodau cyfreithiol y gellid eu gosod?

Fe ofynnai RT yn syml, dybiwn i, pa bryd y bu Cymru'n gannwyll brenhinoedd a pha bryd y bu ei gwerin hi'n rhydd.

Ar ambell fore Llun gellid gweld tua dwsin o ffermwyr gyda phâr o geffylau yn disgwyl eu pedoli, a gallai rhai fod yno hyd y prynhawn.

Roedd yn hapus â'r pethau hyn ac fel yr oedd yn cerdded nôl i'w dþ, ystyriodd ble y gallai eu dodi nhw a pha mor neis y bydden nhw'n edrych.

Ar yr ochr agosaf o'r saith safai porth mawr sgwâr gyda phâr o dyrau main, isel wrth yr ystlysau.

Yn hwyrach y noson honno a ninnau ar ein trydydd peint edrychasom eto ar Iwerddon a chofio mai arweinydd mudiad yr iaith a ddewiswyd yn Llywydd cyntaf y Weriniaeth, ac yna treuliasom noswaith ddifyr yn dyfalu pa un o'r tai bonheddig yng Nghymru a fyddai orau gennym fel plas i'n llywydd, a pha un ohonynt a ddylai fod yn Chequers Cymru.

Siaradodd y Cadfridog eto, yn araf deg, gan ddefnyddio ei nerth mor ofalus â dawnswraig ddi-waith yn defnyddio ei phâr olaf o sanau gorau.

Gallai gwneuthurwr unigol neu stociwr roi gwybodaeth bellach yngl^yn a manylion technegol y gwahanol fodelau a manylion yngl^yn a phris, faint sydd ar gael, a pha mor hawdd y mae ei gael.

Mae'r mesuriadau yma yn rhoi syniad da pa anifeiliaid sydd dewaf a pha rai y dylid cadw ar gyfer magu.

Er, ar yr un pryd dydw i ddim yn siwr gyda pha awdurdod y mae on medru dweud yr hyn y maen ei ddweud ar wahan i'r ffaith ei fod o pwy ydi o.

A phan weli'n dda ganiatâu i'r stormydd ein taro ac i'r gwyntoedd ruo o'n cwmpas, fe'n gorfodir i sylweddoli pa mor wan yw nerthoedd dyn er ei holl wyddoniaeth a pha mor frau yw ein bywyd ninnau.

A pha ddefnydd a wnawn ohono?

Mae Emma yn disgwyl a pha beth gwell na babi i ddod a theulu ynghyd?

'A bydd pobol yn dechrau holi'r hyfforddwr ynglyn â'i gyflog enfawr a pha wobrwyon mae e'n ddwyn i Gymru.

adeiladau ac ystafelloedd - y defnydd a wneir o'r adeiladau a'r ystafelloedd presennol, effeithiolrwydd rheolaeth unrhyw arian sydd ar gael ar gyfer eu gwella fel amgylchedd dysgu a pha mor briodol ydynt yn gyffredinol ar gyfer y cwricwlwm y mae'r ysgol am ei gynnig.

Y cwbwl oedd ynddo oedd crys nos, brwsh dannedd, taclau shafio a phâr o slipers.

Amcan gweddill y papur hwn yw ystyried yn fwy manwl, yn nghyd- destun gwasanaethau addysgol, pa unigolion a sefydliadau sy'n cyflawni gwaith o natur cyhoeddus a pha ystyriaethau ddylai lywio ffurf a chynnwys y cynlluniau iaith a ddarperir ganddynt.

Yno y cawsant eu geni a'u magu a'u hyfforddi i'r diben o wasanaethu'r tylwyth a'r llwyth hyd eu marw, a phâr ifanc yn eu dilyn i wneud yr un peth wedyn.

a meddyliasom pa dda a pha ddrwg ddoi o gymdeithas Gymreig yn Rhydychen.

* pa mor gyfforddus ydi o i bobl efo'ch math chi o amhariad; * a ellid ei ddefnyddio'n hawdd ar gyfer gweithgareddau megis, er enghraifft, chwaraeon neu ddawnsio cadair olwyn; * faint yw ei bwysau a pha mor hawdd y gellir ei godi i mewn a'i storio yn eich car; * pa mor hawdd y gellir ei symud ar wahanol wynebau; * pa ddewis mewn lliwiau a defnydd sydd ar gael.

A pha ddwy enghraifft a roddir gan Lingen o'r tueddfryd yma?

A pha ryfedd.

Boed a fo am hynny, yr oedd DM Jones bron ar derfyn ei gwrs yng Ngholeg Worcester pan sefydlwyd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, a pha ran bynnag a fu iddo yn ei sefydlu, ni bu iddo ond y nesaf peth i ddim dylanwad ar ei datblygiad; yn wir, hyd y sylwais, nid yw ei enw yn ymddangos fwy na rhyw ddwy waith yn y cofnodion ar ôl cofnodion y cyfarfod sefydlu.

Gwyddom y pryd hynny pa mor brin yw ein nerth a pha mor dlawd yw ein hadnoddau.

Dau beth oedd yn cael sylw papurau a theledur wlad - y digwyddiad hwn a pha mor amhosib o annheg oedd maes golff Carnoustie i chwarae arno.

Yn llong fudr mewn môr a pha hwyliau oedd hi yn eu cario orau mewn tywydd mawr?

Daw'r wybodaeth ynglŷn â pha glybiau fydd yn creu hanes trwy ffurfio Cynghrair Cenedlaethol cynta Cymru yn fuan.

Dau cyn debyced i'w gilydd â phâr o gwn tegan ar y silff ben tân yw Nel a'i gwr 'ond bod pennau'r ddau yn troi'r un ffordd yn lle at ei gilydd ('Y Wraig Weddw').

Ar fraich y gadair esmwyth roedd papur newydd, a phâr o esgidiau ar y llawr yn ei hymyl.

Pa gynllun afiach sydd ar y gweill a pha mor isel medra o suddo ac yna ei gyfiawnhau ei hun.

ansawdd y dysgu - gan gynnwys cyflymdra cynnydd y disgyblion, maint eu cymhelliant wrth weithio a pha mor dda y maent yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt wrth astudio.

Rhoddai Daniel gyfrif da ohono'i hun, â pha fesur bynnag y mesurid ef.

A pha mor bwysig oedd twyllo yn ystod y seremoni yfed hefyd.

Yn ail, ym mhle a pha mor aml y mae'r amodau hyn yn bod?

Canu wnaf a bod yn llawen, Fel y gog ar frig y gangen; A pha beth bynnag ddaw i'm blino, Canu wnaf, a gadael iddo.

Fe fyddai yntau'n sôn am ryddid, ond nid eu rhyddid hwy eu dau a fynnai ef ond rhyddid i'r Cymry wneud yr hyn a fynnent â'u treftadaeth; yr oeddent hwy eu dau yn Gymry, a pha fath o dreftadaeth oedd ganddynt?

A pha laethwr ffyddiog a allasai wrthsefyll y fath ben a chroen a phwrs - holl deithi amlwg Seren?

'Does dim rhyfedd eu bod â chysylltiadau agos â Tseina,' meddai cadeirydd y siambr, 'gwþr busnes llwyddiannus ydyn nhw bob un; a pha ystyr sydd i fod yn bleidiol dros Tseina?

Yr ieithwyr/- wragedd a oedd yn gweithio ar y Catalan a'r Occitan oedd y rhai cyntaf i wneud hyn - yn ogystal ^a gofyn beth oedd sefyllfa'r ddwy iaith mewn cymuned ddwyieithog, a pha un oedd yn cael ei defnyddio i ba pwrpasau, aeth y rhain ati i ofyn pam bod yr ieithoedd yn rhannu fel ag yr oeddynt, a sut yr oedd hyn yn newid dros gyfnod o amser.

A pha fodd yr ydych chwi, frawd?' Anwybyddodd yr hwsmon y cyfle i ysgwyd llaw â'r person a'i gyfarch â geiriau yn unig.

Ar ôl i'r pylors ddiasbedain yn y graig a'r cerrig rhyddion, ychydig feddyliai y dynion hynny beth a pha fodd yr oedd y pylor Ysbrydol yn ymyl ffrwydro.

Yn achos Ysgolion Uwchradd (Y Llyffant) yr oedd pawb wedi gweld y deunydd, medden nhw, ond yr oedd cryn ddryswch yngln â pha ddeunydd yn union oedd dan sylw; cafwyd un yn holi Buom yn trafod "Pobol Y Cwm"...

Mae'r delwedd ar eich retina hefyd ar ei phen i lawr, ond mae'r ymennydd yn dehongli hyn a gwybodaeth arall ar ein cyfer, ac yn dweud wrthym pa mor fawr yw pethau a pha mor bell i ffwrdd y maent.

"Ia i hon," medda fi, a dyma fi'n dangos fy mhib iddi hi, ac mi ddeudais hanas y plisman hwnnw a phob dim - fel yr oedd o wedi gyrru dau foto i wyneba'i gilydd, a pha mor uchal oedd y trethi, i edrych fasa hynny'n tynnu deigryn o'i chalon hi.

Cariai'r tad fwndel o ddillad carpiog, a phâr o goesau tenau a wellingtons yn ymwthio allan ohono.

Wrth gwrs, mae yna reolau caeth ynglŷn â phwy sy'n cael rheoli'r arian, a pha gyfrifon sy'n rhaid eu cadw, ond mae digon o dystiolaeth fod yr Undebau hyn yn gweithredu'n effeithiol mewn dinasoedd mawrion gan gynnwys Caerdydd.