Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pharhad

pharhad

Yn fyr, felly, beth sy'n esbonio coelion gwerin ein cyndadau a pharhad llawer o'r coelion hyn heddiw?

Does dim budd na pharhad i'w ddisgwyl o'r fath ymdeithio.

Daliodd y bywyd gwledig, gyda'i gysylltiad uniongyrchol a'r gwerthoedd Cymreig ac a pharhad yr iaith Gymraeg, yn ganolbwynt eu canu.

Hyd yn oed os na allwn dderbyn fod y gymdeithas ganoloesol mor ddigyfnewid ag y maentumia rhai, yr oedd iddi'n ddiau y sefydlogrwydd diwylliannol a sicrhâi barhad syniadau a pharhad œurfiau llenyddol.

Tanlinellir yn gyson fod y tebygrwydd rhwng Harri a i dad yn cryfhau o hyd (yn enwedig yn y dilyniant lle mae'r syniad cyfarwydd o linach a pharhad yn arf grymus i ddwysa/ u apêl emosiynol yr holl saga).

Ni fynnaf drafod yma odid ddim ar yr Oesau Canol a pharhad y math (neu'r mathau) o genedlaetholdeb a geid yno, am y rheswm syml fy mod o'r farn inni gael yn rhan o'n cynhysgaeth o'r unfed ganrif ar bymtheg i lawr lun ar genedlaetholdeb diwylliadol 'newydd', cenedlaetholdeb ag iddo nodweddion anfediefal, cenedlaetholdeb yn y meddwl a'r dychymyg a oedd yn ymgais i wrthsefyll nerth y dylanwad allanol a oedd arnom.

Dywed Maniffesto Cymdeithas yr Iaith fod yn rhaid wrth bolisïau newydd — o ran tai, cynllunio a'r economi — wedi'u hanelu at sicrhau bywyd a pharhâd i gymunedau lleol a rhyddid iddynt lunio'u dyfodol eu hunain.

Nid oes amheuaeth nad yw'r duedd i 'feddwl yn gam' yn parhau i'n blino ni fel cenedl heddiw, a bod hynny nid yn unig yn bygwth ffyniant a pharhad yr iaith Gymraeg, ond hefyd yn creu rhwyg ac anghydfod yn ein plith.

Ond roedd y gobaith yn dal, roedd rhyw fymryn o obaith am adferiad a pharhad y Ffydd a'r achos, hyd yn oed os mai cul ydoedd fel y stribedi o olau a ddihangai rhag caethiwed y llenni duon, trwchus, dros y ffenestri.

Hanfod gwinllan yw ei pharhad o flwyddyn i flwyddyn ac o genhedlaeth.

Mae'r cysylltiad rhwng yr economi a pharhad yr cymunedau yn amlwg, ac felly mae'n gwbl glir y dylai'r Gymdeithas fod yn weithredol mewn ymgyrchoedd yn ymwenud â'r economi.