Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phe

phe

Hynny yw, byddai unrhyw beth a ddywedid neu a ysgrifennid yn y naill iaith ag iddo'r un grym â phe bai wedi ei wneud yn yr iaith arall.

Dyma felly gyfeiriad sy'n nodi Arthur fel patrwm o'r milwr perffaith, a phe gallem gredu fod holl destun y Gododdin, fel y mae traddodiad yn honni, yn waith bardd o'r chweched ganrif, gallem ddweud fod gennym yma grybwylliad o Arthur o fewn canrif, neu lai, i'w gyfnod ei hyn.

Yn hardd a galluog ond heb un ffrind a allai fod wedi trafferthu digon i gyflawni'r ffafr syml o'i chadw'n fyw..." "Paid." "...All siarad o nawr hyd Ddydd y Farn newid dim ar y ffaith mod i wedi'i lladd hi, cyn sicred a phe bawn i wedi suddo cyllell ynddi a throi'n llafn yn y clwyf." "Roeddwn i'n amau.

Yn wir maen nhw'n hapusach, fel y dwedais i na phe byddai eu cyflog yn codi deirgwaith.

Bu'r Frenhines ei hun yma yn 1955 a phe bai aelod o'r staff wedi meiddio beirniadu'r ymweliad fe fyddai wedi colli ei swydd yn y fan ar lle.

Ymgymerir â'r draul yr un modd a phe deuai drosodd i'r wlad hon.' Yr oedd Philti i symud ar unwaith i ryw orsaf arall ar y Gwastadedd neu'r Bryniau.

Safai Lewis Olifer ac Enoc gyda'i gilydd, a Deilwen a gwraig Enoc yr ochr arall i'r bwrdd, a'r cwbl yn edrych mor anniddig a phe baent wedi cyfarfod â'i gilydd am y tro cyntaf mewn cynhebrwng.

Roedd o'n mynd i neud troli i symud y weldar o gwmpas y lle, trwshio'r cafn dŵr yn y beudy, trwshio'r lein ddillad a choncritio'r cowt i'r Wraig, a phe cai amsar byddai hyd yn oed yn rhoi hoelan yn y lechan rydd uwchben drws y beudy!

Ma nant barablus yn 'i ymyl e, a thylluanod yn pwyllgora yn coed-cefen-tŷ wedi iddi hi nosi, a phe bai popeth yn iawn, fe fyddwn i wedi cynghori Luned i adel y lle a mynd i fyw i rywle arall.

"A phe bai unrhyw un ar y rhostir yn ystod yr ychydig funudau hynny, mi allai weld yr olygfa ryfeddol hon a chael cip ar y trysor," meddai'r ych.

Yn wir, tybed beth fyddai barn David Hughes o'r Bala, dyfeisiwr y microffon ac un o arloeswyr radio, pe gwelai y newid a fu yn y maes mewn can mlynedd, a phe gwelai effaith y dyfeisiadau electronig a thrydanol ar ein cymdeithas.

Gan nad oedd ein gard ddim yno, annoethineb ar ein rhan fuasai rhedeg oddi yno; fe'n cyhuddid o geisio dianc, a phe gofynnid inni egluro pam yr oeddem yn rhedeg buasai'n ddiwedd y byd arnom: nid oedd gennym mo'r syniad lleiaf sut i gyfieithu, "Mae 'na butain yn yr iard," i Siapanaeg.

Caiff y Cynhyrchydd wneud Rhaglen Gyfansawdd o Raglen neu Raglenni a ddarlledwyd eisoes a phe defnyddir pwt o berfformiad yr Artist mewn Rhaglen Gyfansawdd o'r fath bydd gan yr Artist hawl i daliad ychwanegol nid llai na'r isafswm tal (gweler Atodlen A) a negydiad rhwng y Cynhyrchydd a'r Artist fydd yn cymryd i ystyriaeth hyd y Rhaglen Gyfansawdd a nifer a hyd y pytiau.

Gwrthodai ffermwyr ddefnyddio ffyn ysgawen i yrru eu gwartheg a phe curid plentyn â ffon o'r fath ni fyddai'n tyfu'n iawn wedyn.

Wn i ddim amdano chi ond yr ydw i wedi cael llond bol ar bwndit ar ôl pwndit yn siarad am gemau cyfartal gyda't un afiaith a phe bydden nhw yn gemau wedi eu hennill.

Ond ni waeth gennyf i; mae'n braf cael enwi Gwyn a dod ag ef i'r sgwrs mor naturiol â phe bai'n dal gyda mi.

A phe bai Ieuan Gwynedd wedi cael byw, efallai'n wir y byddai wedi cyfrannu'n helaethach i fywyd Cymru na Henry Richard a Thomas Gee.

A phe gwelid ein planed fechan ni gan rywbeth yn un o'r galaethau hyn, byddai hithau hefyd yn chwyrnellu draw oddi wrtho yr un mor chwim a'r un mor ddistaw, trwy'r 'mudandod mwyn'.

Trawsffurfiodd yr hen Gomisiwn Eglwysig a'i droi'n Llys yr Uchel Gomisiwn a hwnnw'n gwbl wynebgaled yn defnyddio ddulliau hen chwilys yr Oesoedd Canol, yn gorfodi pob cyhuddedig i gymryd y llw ex officio a oedd yn caniata/ u i esgob yn rhinwedd ei swydd ofyn unrhyw gwestiwn a fynnai i'r cyhuddedig a phe peidiai hwnnw ag ateb, gellid cymryd yn ganiataol ei fod yn euog, er nad oedd un ditment wedi ei chyhoeddi yn ei erbyn cyn hynny na thwrnai'n bresennol i'w gynorthwyo.

Pe baem yn caniata/ u iddi ddod i'r iard byddai bron yn amhosibl iddi fynd yn ôl, a phe gwelid hi yno efo Jock a minnau byddai ar ben arnom.

Wedi cael cefn y ddau aeth JR Jeremeia Hughes ati i ddad-bacio ei hoff drysor, a hynny mor dyner a gofalus a phe byddai'n fam ifanc yn diosg ei chyntafanedig.

Ond o ddifri, o fod wedi cael rhyw dywedwyd y byddai rhedwr yn cyrraedd diwedd y farathon gryn chwarter awr yn gynt na phe byddai wedi mynd yn syth i gysgu.

Er nad yw mam yn Eglwyswraig Sabothol selog, mae hi'n frwd dros y dathliadau mawr a phe byddai'n bwrw cathod a chŵn, ni chollai Gymundeb Bore Sul y Pasg.

Beth bynnag, dyma gyrraedd Llanfairfechan, ac roedd y lle mor ddiarth i mi â phe bawn i wedi glanio yn China.

Yr oedd yn waith gofalus, a phe byddai'r tyllau ychydig iawn o'u lle anodd oedd cael y camogau i mewn i'r cyrbau.

Fe hawliwyd mai mewn barddoniaeth Gymraeg y ceir y ddau gynharaf, a phe gellid bod yn sicr o hynafiaeth y testunau byddai'n hawdd credu hynny.

Does yr un chwaraewr yn hoffi chwarae gyda phêl a gafodd 'fault'.