Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pheri

pheri

Un peth ydi bod yn fwriadol ddigri a pheri i eraill chwerthin þ mae yna orchest a boddhad yn hynny.

Dyna'u cyfrinach, rwy'n meddwl, sef eu bod yn deffro pobl o'u trwmgwsg a pheri iddynt ail-fyw profiadau cyffrous.

A theulu Thomas Edward Lloyd, Coedmor, a theulu Cilbronne "Mae Lady Coedmor yn fenyw fawr er pan enillodd ei gŵr sedd Shir Aberteifi yn ôl i'r Tori%aid ddwy flynedd yn ôl a pheri'r fath syndod i bawb trwy fwrw E. M. Richards ma's!"

Honnai hwnnw, meddai, fod y fwyell yr oedd y mab yn ei thrwsio ar y pryd wedi cyffwrdd rywsut â'r gwn a pheri i hwnnw danio.

Apeliodd ar bawb i beidio ag yngan gair am y peth, ac yr oedd sail ei apêl yn un o'r datganiadau mwyaf annoeth a glywswn yn fy myw, sef na ddylem mewn unrhyw ffordd sôn am y daith nac am nifer y dynion oedd yn yr uned rhag ennyn drwgdybiaeth y Rwsiaid a pheri iddynt gredu ein bod yn danfon nifer luosog o filwyr i Rwmania.

Edrychid ar briodas, nid fel modd i barhau gweddau materol ar y teulu'n unig, ond hefyd fel disgyblaeth y byddid drwyddi yn cryfhau cyfathrach deuluol a pheri bod sadrwydd oddi mewn iddo.

Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen.

Mae gwladwriaethau newydd yr Arabiaid o'r gorau os llwyddant i godi hunanbarch yn y bobl a pheri iddynt ddatblygu'.

Gwyddom ninnau am beryglon gaeaf - am y rhew caled sy'n dod â rhyndod ac angau i'r hen, neu'r gwyntoedd nerthol sy'n corddi'r môr a pheri iddo orlifo'r tir.

Mae Cristionogion wedi cyffesu erioed mai Duw yw awdur popeth sydd a'n bod ninnau wedi ein gosod ar y blaned i'w gwarchod a pheri iddi ffynnu.

Gofynnodd iddi a âi at y saer a pheri iddo agor bedd o'r newydd gan nad oedd am i'r cythral gael ei gladdu efo'i fam.

Rhag i neb fedru gwneud ensyniadau fel hyn amdano, rwy'n siwr y medr dderbyn fy awgrym caredig, a pheri ail-hysbysebu'r swyddi hyn, gan ddwyn y gwynt o hwyliau pob beirniaid drwgdybus ac anwybodus ohono, drwy fynegi yn glir y bydd gwybodaeth o'r Gymraeg yn hanfodol i unrhyw benodiad.