Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pheth

pheth

Heb os roedd yna agweddau moesol i'r bwriadau hirben, ond fe bwysleisiwyd bod dyletswyddau gan berchnogion eiddo yn ogystal â hawliau, a pheth cywilyddus oedd esgeuluso lles y rheini oedd yn ddibynnol arnynt.

Wedi blynyddoedd o fywyd trefol collodd JR lawer o'i archwaeth at fwyd cyntefig fel stwnsh rwdan a pheth dieithr iddo bellach oedd gweld sosban ddu wedi ei gorseddu ar ganol bwrdd y gegin, ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd sylwi ar Hywal y mab yn pigo'i drwyn bobo yn ail cegiad.

Gan fod cymaint ohonom, cymaint o unedau gweddol unffurf, mae yna debygolrwydd fod y rhan fwyaf o'r hil yn mynd i ymateb mewn modd y gellir ei ragfynegi gyda pheth sicrwydd.

Yn ôl y Corff, yr oedd traethawd Edwards wedi cyfeiliorni mewn tri pheth, sef:

Mae Gogledd India o ffenestri'r tren yn hollol fflat, gyda pheth coed, ond hefyd yn dangos cryn effaith y 'Chwyldro Gwyrdd', oherwydd mae'r rhan fwyaf o'r tir yn dir ar.

Pan ddeuai'r rheolwr wyneb yn wyneb â Phil gellid meddwl fod dau gydradd wedi cyfarfod â'i gilydd, a pheth cwbl haeddiannol oedd barn y rheolwr mai Phil oedd y gweithiwr gorau yn y gwaith.

Ar ei ddychweliad i Fangor gofynnwyd i'r darlithydd newydd draethu ar amryw bynciau, gan gynnwys Gramadeg Hanesyddol, y chwedlau canoloesol a pheth o lenyddiaeth Oes Victoria.

Ni ellid ymddiried mewn lleygwr, hyd yn oed pe medrai'r iaith Ladin - a pheth prin i'w ryfeddu oedd hynny, i fyfyrio arno a'i ddehongli drosto'i hun.

Erbyn heddiw gwyddom fod sicori'n cynnwys fitamin A, fitamin B potasiwm, haearn, calsiwm a pheth ffibr yn ogystal â rhyw hanfod chwerw.

Dywedais gyda pheth petruster - 'Preseli'.

Peth ffwrdd-a-hi yw pethynas plant ysgol at ei gilydd, er y gall fod yn boenus o angerddol ar brydiau, a pheth i'w daflu heibio wedi dod i oedran gŵr - neu wraig!

Ond wrth gwrs dwg unrhyw gyfnewid fel hyn ei broblemau, ac yn fuan cafwyd cyfres ohonynt, a bu rhaid penderfynu ynglŷn a thri pheth hanfodol, tair sialens y bu rhaid eu ,hwynebu.

O'i chyferbynu ag eiddo ei gþr, syml a phlaen oedd gwisg lwyd Lowri Vaughan, sylwodd Meg gyda pheth malais, a dygwyd pob mymryn o liw o'i hwyneb main a hir gan y ffisiw brown a fradychai yn hytrach na chuddio teneurwydd ei bronnau.

Dyna'r fan lle bu : y côr segur, a'r aerwy oer ynghrog ar y buddel, a pheth blew coch yn glynu o hyd wrth ei ddolennau.

Ydy'r grant yn ddigon i dalu'r cwbwl o'r costau, e?" "Wel, nid y cwbwl efalla', ond..." "A pheth arall!

Cadwodd ei air, a daeth â pheth o'r bwyd hwn imi dair gwaith i gyd, ac yna collais olwg arno ac ni welais ef byth wedyn.

Dyna un rheswm pam roedd ei rhieni'n gwrthwynebu'n chwyrn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith : ni welent ddim o'i le ar Saeson, a pheth ffôl oedd eu tynnu i'w pen heb eisiau.

A pheth arall þ i be mae isio darnio'r holl dir yna yr ochr bella?

Yn y cyfryngau darlledu, fel ar bapurau newydd, fe dâl i'r golygyddion fod â pheth o'r elfen amheus neu anghrediniol honno sy'n nodweddu'r newyddiadurwr da.

Sen ar ddeallusrwydd a hunan-barch unrhyw newyddiadurwr profiadol fyddai cael ei gyflogi'n unig i ddarllen sgriptiau a baratoir gan rywun arall -: does dim rhyfedd felly fod yr ysgrifenwyr yn tueddu i edrych ar y rhai a gyflogir fel darllenwyr yn unig - â pheth dirmyg nawddogol Sylweddolir nad oes cyfle i ymarfer rhyw lawer o ddawn greadigol wrth ysgrifennu newyddion ­ credir fod angen llai fyth o ddychymyg i'w darllen.

A pheth arall - tŷ i rywrai o staff yr Orsaf 'ma yw e ...

Flynyddoedd yn ôl, roedd cael mynd i Ysgol Feddygol yn dibynnu ar dri pheth.

"A pheth arall," medda fi, ar ôl iddo fo gael cyfla i ddþad i lawr o ben ei gawall, "lle mae'r lechan las honno oedd yn y clawdd yn deud fod yna dros hannar cant o filltiroedd dros ddeugant i Lundan?" Wydda fo ddim, a doedd dim gwahaniaeth gynno fo chwaith.