Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phleser

phleser

`Gyda phleser,' ebe Harri, `ond i chwi fod yn gyfrifol i mi am ganpunt os digwyddiff rhwbeth iddo.' `Dim peryg,' ebe'r Yswain, ac ychwanegodd, `ond tyrd dy hun efo ni, mi fydd yn dda gen i dy weld yn y cwmni.' Diolchodd Harri iddo, a theimlai yn hynod o hapus fod ei feistr tir wedi ei wahodd i ymuno â'r boneddigion oedd yn myned ar ôl y cŵn ddydd Llun, ac ni wnaeth efe ddim arall bron hyd y dydd penodedig ond ei daclu ei hun a'i geffyl ar gyfer yr amgylchiad.

Gwerthfawrogir eu presenodeb gan blant y Gateway ac mae'r ymweliad bob amser yn rhoi boddhad a phleser i bobl ifanc Penuel.

Gwenodd ar Leusa Parry, a oedd wrth ei phleser yn llnau'r brasus: llawenydd ei bywyd hi oedd y sglein ar yr allor: Talai o'i phoced ei hun am y Brasso ar ôl i Undeb y Mamau gwyno ei bod yn defnyddio gormod ohono; ond ni ddychwelodd Leusa Parry ei gwên, ac roedd hynny'n brifo o gofio fel y bu hi'n ddadlau drosti.

Roedd hi newydd fod am dro yn y berllan gan sylwi gyda phleser fod y coed ffrwythau'n llawn blodau - argoel y byddai yna gnwd da yn yr hydref.

Ceir yr argraff fod yr adeilad hwn i'w gysylltu â hamdden a phleser.

Does dim rhesymeg na thefn i'r nodiadau hyn, dim ond mympwy a phleser.

a mynegodd ei phleser mewn bod a chysylltiad clos a CCPC.

Mae ei unig fab a'r unig Ferch o hyd yn byw yn yr hen gartref a phleser i mi yw mynd yn ôl ar dro yno a gweld ein hen fferm ninnau ar y llechwedd gyferbyn.