Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phlwc

phlwc

Wedi chwythu ei phlwc yr oedd yr hen wraig ac eto yr oedd hi fel pe bai hi'n methu â gollwng ei gafael.

Bu methiant y myfyrwyr i gyd-weithio'n effeithiol gyda'r gweithwyr a'r modd y bu i brotest y chwedegau chwythu'i phlwc yn gryn siom i Schneider a nifer o'i gyfoedion.

Cerddodd yn araf ar draws y llawr tuag atom a symudodd y ferch oddiwrthyf gyda phlwc sydyn.

Gobeithient y byddai'r storm wedi chwythu ei phlwc erbyn y bore.

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn perthyn i oes a fu - i'r ganrif ddiwethaf - ac mae bellach wedi colli ei phlwc a'i pherthnasedd i fywyd pobl Cymru heddiw.

Cred y Cyfarfod Cyffredinol fod Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn perthyn i oes a fu - i'r ganrif ddiwethaf - a'i bod bellach wedi colli ei phlwc a'i pherthnasedd i fywyd pobl Cymru heddiw.

Roedd hynny'n ddigon i ddod â phlwc arall o chwerthin.