Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phoced

phoced

Gwenodd ar Leusa Parry, a oedd wrth ei phleser yn llnau'r brasus: llawenydd ei bywyd hi oedd y sglein ar yr allor: Talai o'i phoced ei hun am y Brasso ar ôl i Undeb y Mamau gwyno ei bod yn defnyddio gormod ohono; ond ni ddychwelodd Leusa Parry ei gwên, ac roedd hynny'n brifo o gofio fel y bu hi'n ddadlau drosti.

Awgrymodd y dylai Fred wybod bod gan Mary gariad arall - rhywun o Gaerllion - a'i bod yn bwriadu cwrdd ag ef am un o'r gloch y prynhawn hwnnw, a'i fod ef (Ali) wedi rhoi decpunt iddi yn ei phoced a'i chynghori i fynd i ffwrdd i ystyried y peth.

Tynnodd yr allwedd o'i phoced ond cyn ei rhoi yn nhwll y clo canodd y gloch fel y gwnâi bob tro ym mhob tŷ i ddangos ei bod wedi cyrraedd.

"Mi fyddwn yn siwr o besgi yn dda." Yna tynnodd bistol bychan o'i phoced a dechreuodd ei lanhau yn ofalus.