Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phosibl

phosibl

Gan ystyried pwysigrwydd y sylwadau hyn, cytunwyd mai'r nod o ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol gynradd oedd: "rhoi amrywiaeth o brofiadau addysgol yn y Gymraeg am gyfnod helaeth o bob dydd, o'r flwyddyn gyntaf yn yr ysgol gan gymryd i ystyriaeth gyraeddiadau gwahaniaethol y disgyblion" Cytunwyd: a) bod angen rhagor o fyfyrwyr yn y Colegau Addysg â diddordeb mewn dysgu ail iaith; b) bod angen trochiant llwyr yn yr ail iaith mor gynnar â phosibl ac nad yw ugain munud y dydd o ddysgu ail iaith yn ddigonol; c) bod angen gosod lefelau cyrhaeddiad graddedig a fyddai'n sicrhau dilyniant a chynnydd.

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Prif Swyddog Cynllunio i ymdrin â'r cais diwygiedig cyn gynted â phosibl.

Mae'n fwy na phosibl fod geiriad y salmau hyfryd hyn o dan ddylanwad cenadwri Iesu ei hun ond i fesur y maent yn adlewyrchu mudiad o dduwioldeb gwlatgar wedi ei liwio gan ddyhead y proffwydi gynt am gyfiawnder.

Hysbysodd y byddai'n ymateb cyn gynted â phosibl.

Gan fod y tafarndai a chlybiau yn fannau cyfarfod mor boblogaidd i ieuenctid y fro mae'n hanfodol bwysig i ni geisio cyflwyno'r Gymraeg mewn modd mor ddeniadol â phosibl i'r cylchoedd hyn.

Mae hi yn ei helfen yn nofio tanddþr, gan blymio i'r dyfnderoedd mor aml â phosibl oddi ar arfordir Ynys Môn.

Yn ei galon, gwyddai Capten Timothy mai hwn oedd y cyfle olaf iddo fod gyda'i wraig a'i bum plentyn - naw mis oed oedd Jane, yr ieuengaf - a hynny am hir, hir amser; llythyrent â'i gilydd mor gyson â phosibl yn ôl y cyfleustra a hyd yn oed anfon ambell gerdd i'r naill a'r llall: May Guardian Angels their soft wings display And guide you safe thro' every dangerous way.

Pwysleisiodd Kay-Shuttleworth fod rhaid i'r Dirprwywyr fod mor '...' â phosibl yn eu sylwadau os oedd yr Adroddiadau i fod o unrhyw werth.

(i) Sicrhau bod dyddiad yr etholiad cyntaf mor fuan â phosibl ar ôl derbyn sêl bendith y Frenhines, er mwyn rhoddi mwy o amser i'r Cyngor cysgodol i wneud penderfyniadau ynglŷn â fframwaith staff a system cyflawn gwasanaethau a.y.

Dyn ar 'i linia, gefn dydd gola.' Cydiodd Obadeia Gruffudd ym mraich y setl, yn ffrwcslyd, a thynnu'i hun i godi mor frysiog â phosibl.

Does neb sy'n edrych arno'i hun fel bod yn gorfforol annibynnol isio dibynnu ar bethau fel cadeiriau olwyn, calipr, fframiau Zimmer, baglau neu ffyn cerdded, felly fe allen nhw benderfynu eu defnyddio gyn lleied a phosibl neu eu gwrthod yn llwyr.

(i) Bod y Cyngor newydd yn datganoli cyn gymaint â phosibl o'i weithgareddau i swyddfeydd rhanbarthol.

PENDERFYNWYD pwyso ar y Cyngor Sir i uwchraddio'r bont cyn gynted â phosibl oherwydd y drafnidiaeth drom a ddefnyddia'r ffordd.

Ac yn sicr, ddim os oeddwch chi am gael eich enw a'ch rhif i fyny ar y bwrdd mor aml â phosibl i atgoffa pobl eich bod chi'n ddefnyddiol, yn llwyddiannus - ac ar gael o hyd.