Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phren

phren

O'i flaen, cyn belled ag y gallai weld, ymestynnai anialwch hirfaith, heb fod yno na phren na llwyn nac afon na llyn na diferyn o ddŵr - dim o gwbl ond tywod melyn a chreigiau noeth.

"Oes gen ti fap a Phren mesur?" "Oes, dacw fo." Roedd map crand iawn gan Lludd yn hongian ar y pared.

Cofiwn am bren y bywyd a phren gwybodaeth da a drwg oedd yng ngardd Eden.

Dewis March yw'r tymor pan na fydd dail ar y coed, a chân Esyllt englyn gorfoleddus, yn llawenhau y bydd hi'n gallu treulio pob tymor yng nghwmni ei chariad, gan fod tri phren, y gelynnen, yr ywen a'r eiddew, â dail ir trwy gydol y flwyddyn.

Gweld 'Eryr Pengwern pengarn llwyd', ei glywed yn 'aruchel ei adlais', blasu 'afallen beren a phren melyn' teimlo Dafydd ap Gwilym pan drawodd ei 'grimog .

Er mwyn ennyn bendith y duw hwn roedd hi'n arfer gynt i 'gyffwrdd â phren' - i gusanu neu gofleidio'r goeden.

Camgymeriad mawr fyddai trwsio crud gyda phren ysgawen gan y gallai gwrachod wedyn niweidio'r plentyn.

Wnaiff cyffwrdd â phren marw, fel bwrdd neu ddrws mo'r tro gan fod hynny yn anlwcus iawn - y marw at y marw megis, a'r byw er mwyn byw.

Cyrhaeddodd ei fywyd o ufudd-dod ei uchafbwynt yn yr hunanymroddiad llwyr a wnaed ar bren er mwyn diddymu anufudd-dod Adda mewn cyswllt â phren.