Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phump

phump

Pe deuai gwybodaeth am ddamwain mewn pwll glo, dyweder, mor ddiweddar â phump o'r gloch y prynhawn, fe âi'r tîm newyddion ati ar amrant i ganfod peth o gefndir y lofa, yn ogystal ag anfon uned ffilmio allan ar unwaith.

Dilynais gyfarwyddiadau Bryn Roberts pan osododd ef ei ddwylo ar fy mhen a phump o weinidogion eu dwylo ar fy nghefn.

Oedd y ddau deulu yn ffrindiau erioed a phump oed oedd fy nhad pan dorrodd y dant cynta i fy mam.

Gan amlaf, rhyw ddau neu dri a enir, er y gellir cael cynifer â phump mewn gwâl.

Yn y dre, mi aethon nhw i siop fawr a phrynu pump cadair newydd a phump gwely newydd.

Byddwn yn aml yn mynd gyda'r pysgotwyr ben bore, tua phump o'r gloch fel arfer yn yr haf i ddal mecryll.Dysgais y gamp o ddal pollock a sut i 'redeg rhwydi' a dal sgadan hefyd.

Pan ddaeth adref tua phump o'r gloch roedd Mary yn y fflat yn ei ddisgwyl.

Ac yn y fan fawr roedd pump cadair, pump gwely, pump beic, a phump cwpan mewn bocs.

Roedd o tua phump ar hugain, mor dal â chre%yr glas, yn ddwys ac yn meddu ar groen swyddfa.

Yr argraff a gawn i oedd eu bod i gyd ymhell dros eu hanner cant a phump oed.

Bu naw yn Glasgow a phump yng Nghaeredin.

Cymerid yn ganiataol fod cyfnod Cristionogaeth ar ben, ac ategwyd y farn honno gan un o'r caplaniaid a adnabu pan ddywedodd fod wyth deg a phump y cant o'r bechgyn dan ei ofal heb un arlliw o gysylltiad â chrefydd.

Does dim siopau yma i'w cymharu â gwleddoedd Dubai ond mae'r ardal yn dod yn fwy a mwy poblogaidd gyda phum gwesty pedair a phump seren ar y gweill dros y flwyddyn nesa.

Byddai rhaglenni tri, pedwar a phump yn manylu ar y themâu hyn, gan ymdrin â ffermio, cludiad a datblygu diwydiannol.