Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phwysig

phwysig

Erbyn y cyfnod, hwn, wrth gwrs, er bod y traddodiad llafar yn ffynnu o hyd, ochr yn ochr ag ef daeth y testun ysgrifenedig yn fwyfwy cyffredin a phwysig, yr hyn a olygai datblygiadau newydd yn natur y testun naratif a'i dechnegau.

Cyn hir dechreuodd ysgrifennu'r llyfrau hynny a ddaeth yn rhan mor ddiddorol a phwysig o ryddiaith lenyddol Gymraeg, llyfrau gŵr dysgedig o lenor yn ysgrifennu ar gyfer y genedl fach y cododd ef ohoni.

Sylwyd eisoes mor effro oedd i broblemau a digwyddiadau cyfoes, a rhoes arweiniad sicr o'i gadair olygyddol i'w fudiad ar gwestiynau llosg a phwysig ym meysydd gwleidyddiaeth, cymdeithas a chrefydd.

Yr oedd yr achosion yn y llys yn ddiddorol a phwysig.

Oedd, roedd Siarad Cyhoeddus ar bedestl cadarn yn y Sir erbyn canol y chwedegau ac y mae'n parhau mor fyw a phwysig heddiw yn yr wythdegau.

Dyma'r ail noson RAP I'w chynnal ac mae'n prysur dyfu i fod yn ddigwyddiad cyffrous a phwysig iawn yng nghalendr y Sîn Roc yng Nghymru.

Menter blaengar a phwysig yw'r strategaeth hon, a adwaenir wrth y term All Wales Strategy (AWS).

Os oedd obsesiynau enwadol yn fynegiant o egni ar y naill law, roeddent hefyd ar y llall yn awgrym o bobl oedd o ddifrif am bethau llai na phwysig.

Y ffaith fod yn ei lyfr awgrym o'r holl ddamcaniaethau diweddarach am y Derwyddon sy'n peri ei fod yn ddogfen tra phwysig wrth inni olrhain hanes syniadau'r ddeunawfed ganrif am y cynoesoedd, a bod Rowlands yn ffigur arwyddocaol yn yr hanes hwnnw.

Wedi dychwelyd i'w lety llwm y noson honno y buasai yn nhŷ braf Mrs Paton Jones teimlai Hector dipyn yn fwy hyderus a phwysig.

Ffenomen ddiddorol a phwysig arall ym maes cyhoeddi yng Nghymru yw'r papurau bro.

Nid yw o bwys iddo ef gael cyhoeddi cyfrol i gyrraedd cylch eang a phwysig: yn wir, darfodedig, lleol, a thymhorol yw llawer o'i gynnyrch - englynion neu faledi am ddigwyddiadau'r foment.