Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

phwyso

phwyso

Hwyrach mae ein taflu at ein gilydd yn y ffordd fwyaf dinistriol ac annymunol fydd y canlyniad, wrth i ni fod yn esgymun gan weddill y byd, heb neb gan y naill ond y llall i afael ynddo a phwyso arno.

GWERTHUSO: Tuedda buddiannau adennill tir i or-bwyso'n erbyn y costau, yn amodol ar gorffori materion yr amgylchedd yn ystod y cyfnod o ddylunio a chynllunio, yn hytrach na meddwl amdanynt fel elfen atodol i'w chyplysu ar y diwedd, ac yn amodol hefyd ar werthuso effaith yr holl waith arfaethedig ar yr amgylchedd, a phwyso honno'n erbyn y defnydd terfynol arfaethedig cyn cychwyn, neu hyd yn oed gynllunio, unrhyw waith.

Fel y dynesai at y bargod gallem weld fod ganddi rywbeth yn ei llaw, a rhaid oedd mesur a phwyso'r sefyllfa'n bur gyflym.

Agorodd y ffenest a phwyso ar y rhan isaf i lenwi ei hysgyfaint ag awyr iach a dotio ar lesni tyner yr awyr.

Gellir dileu llythrennau hefyd trwy osod y cyrchwr i'r dde o'r llythrennau a phwyso DELETE (neu BACKSPACE).

Nid yw'n mesur a phwyso'n hamddenol pwy oedd y bardd rhamantaidd cyntaf yn Ewrop - dim ond dweud yn awdurdodol mai Pantycelyn ydoedd, fel petai'n gwbl sicr o hynny.

Caeodd y drws yn syth a phwyso yn ei erbyn.

A phwyso ar ei gilydd fyddai llawer o'r tai yno, am fod yr hen weithfeydd glo wedi tanseilio cynifer o adeiladau.

Gellirt cofnodi cynnyrch llaeth gyda jariau pwrpasol yn y parlwr godro a phwyso gwartheg a defaid gyda chloriannau.

ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn glynu at ei benderfyniad blaenorol y dylid rhoddi hawl i holl staff y cynghorau newydd i sefyll etholiad i fod yn aelodau ohonynt a phwyso am ddiddymu'r gwaharddiad sydd yn bodoli.

Roedd ei theyrngarwch yn mynnu ei bod yn cysylltu â hwy hefyd, felly ffoniodd hi Megan Harris, ei chymdoges, a phwyso arni i alw arnynt.

Gafaelodd Ifor yn ei llaw i'w thynnu yn ôl i'r presennol, a phwyso drosti.

Dim byd ond gwrando ar gwestiynau dwl a phwyso botwm nes roedd o wedi syrffedu'n lân.

Ymsythodd a phwyso yn erbyn ffrâm y ffenestr.

Anodd oedd cael amser i oedi a phwyso a mesur rhinweddau y gwahanol geffylau.

Ar hynny hyrddiodd ei hun arnaf fel ci a'r ennyd nesaf roedden ni'n dau yn ymdrybaeddu yn llwch yr iard, fy llaw dde fel crafanc yn tynnu yn ei wallt, a'i fysedd yntau'n bodio fy llygaid, a chledr ei law yn taro a phwyso nes bod y gwaed yn chwythu allan o'm trwyn.