Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

picl

picl

Mi ddaethon ni â llond basged fawr o benwaig yn ôl yma efo ni, achos mae hi'n noson gneud pennog picl heno, medda' Anti Nel, iddi gael mynd â nhw allan i'w gwerthu fory.

Ma' gin Anti Nel ei strydoedd - rhai fydd hi'n mynd iddyn nhw bob wsnos - ac mae'n rhaid bod y bobol yn disgwl amdani hi, achos gynta roedd hi'n dechra' gweiddi, "Picl, picl, pennog, pennog picl," mi oedd plant a phobol yn rhedag allan o'u drysa', a dysgla' yn 'u llaw, i brynu rhai.