Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pilat

pilat

Wrth eirio'r arysgrif gwawdiai Pilat y genedl wrthnysig trwy sgrifennu'n foel fod y truan gwrthodedig yn 'Frenin yr Iddewon'.

Fy nehongliad i o'r bradychiad a'r dienyddiad (os caf roi fy nghasgliadau'n foel, heb ymhelaethu dim yma) yw i Jwdas Isgariot benderfynu traddodi Iesu i ddwylo'r awdurdodau yn y gobaith y byddai terfysg yn codi yn y ddinas o'i blaid ac y byddai'r rhyfel mesianaidd yn dilyn; i'r terfysg ddyfod o dan arweiniad Barabas a'i drechu'n ddigon buan gan filwyr Pilat; i Iesu wrthod yn y brawdlys a cherbron y dyrfa arddel y fesianaeth filwrol a'r deyrnas ddaearol wedi ei seilio ar rym arfau; ac i'r gwrthodiad hwn beri siom chwerw i'r bobl.

Arweiniodd y cymhelliad olaf hwn at dueddiad cryf i esgusodi Pilat, y procwrator ymerodrol, ac i roi'r bai am y croeshoeliad ar yr Iddewon.

Rhaid bod Iesu wedi collfarnu Pilat fel y collfarnodd Herod; rhaid hefyd ei fod wedi dinoethi hunangais ac anghyfiawnder gwleidyddol yn llawer helaethach a manylach nag y gwelir ef yn gwneud yn ei sylwadau (ar y ffordd i Jerwsalem, megis ym Marc x.

Ni fynnai'r rhan fwyaf o'r Cristnogion yn yr ail hanner o'r ganrif gyntaf gyflwyno Iesu'n elyn i Rufain, a hyn sy'n egluro'r ffaith nad oes yn yr efengylau ddim condemniad agored ar ormes Pilat ac ar gamwedd caethwasiaeth.