Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plaen

plaen

Mae llawer iawn o wir - nid caswir, dim ond gwir plaen - yn yr erthygl ddewr hon, a gyffrodd hyd at eu sodlau nifer o arweinwyr Cymreig y dydd.

Gwyrdd plaen unlliw yw eu lindys hwy, yr unlliw ynhollol â'r dail a'u cynhaliant ac yn hoff o swatio ar brif wythiennau'r dail ac yn y cnewyllyn gan wledda ar y dail ifanc iraidd sydd yn y fan honno a difetha'r blagur tyfu (growing point) hefyd a thrwy hynny rwystro cynnydd y planhigyn.

Y gwir plaen yw nad oes gan fwyafrif y cwmni%au Cymraeg na'r ddisgyblaeth na'r grefft i gystadlu ar y lefel yma ar hyn o bryd.

Ac i'r rhai hynny ohona chi sydd wedi bod yn bwyta siocled plaen yn lle siocled llaeth gydol y blynyddoedd yn meddwl y gwnaiff o lai o gyfraniad i faint eich bol, does gen i ond dau air; Ha blydi ha.

Os plaen a syml oedd tai cyrddau'r cyfnod, felly hefyd oedd amryw o'r pregethwyr.

Defnyddiodd un dyn gyfres o ddarluniau ar gardiau chwarae plaen, gan ddefnyddio'r ddwy ochr.

Fe fyddai Emyr wedi medru dweud wrth ei fam-yng-nghyfraith yn ddigon plaen, er yn gwrtais, eu bod nhw wedi ailystyried ac na fyddent wedi'r cwbl yn dod i dreulio'r Nadolig yn Nhyddyn Ucha' eleni.

Mewn lle plaen uwchben un porsylîn mewn tū bach dynion, gwelwyd y llinell broffwydol "Mae dyfodol Cymru yn dy ddwylo di% a gwych iawn hefyd yw'r graffiti hwnnw sy'n magu cynffon wrth i eraill ychwanegu eu sylwadau ato.

Y gwir plaen amdani yw, mai ail orau y gwledydd hynny ydym ni yn eu cael drwy'r drefn bresennol.

Ond y mae'n deg amau'r gosodiad hwn, oherwydd y gwir plaen yw bod llawer o Saeson sy'n cychwyn yn ein hysgolion yn adran y babanod yn dila eu Cymraeg yn un ar ddeg oed.

O ddod yn nes adref, y gwir plaen oedd, gyda rhai eithriadau, mai rhywbeth i'r canol oed a'r hen oedd cyfarfod gweddi a seiat.

Yn wir, y mae'n gymaint o fyrdwn nes bod dyn heddiw - pan yw nifer o ddelfrydau'r cylchgrawn wedi eu sylweddoli i raddau yn tueddu i gydymdeimlo ag ateb y gwr plaen ei ymadrodd hwnnw, Iorwerth C.

Achos y mae yna lot fawr mwy o siwgwr mewn siocled plaen - neu byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei chael hi bron â bod yn amhosib ei fwyta fo am 'i fod o mor chwerw!