Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plaid

plaid

Yn y blynyddoedd dirwasgedig hyn y daeth Plaid Cymru i'r maes gwleidyddol i ddwyn gwaredigaeth i'r genedl fach hon a oedd ar fin cael ei

Y mae'n bwysig cofnodi i'r Gymdeithas gael ei sefydlu gan fod Dawer iawn o aelodau teyrngar Plaid Cymru yn teimlo'r angen am fudiad iaith annibynnol.

Cofiwch am yr holl bobol sy o'ch plaid chi.

Ar y llaw arall cododd plaid gref o amddiffynwyr, yn ymestyn oddi wrth WJ Gruffydd a T.

Mae'r cyfarfod hwn yn un o gyfres o gyfarfodydd y mae'r Gymdeithas wedi eu cynnal gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, Plaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd.

O drwch blewyn yr wythnos hon, llwyddodd Plaid Unoliaethwyr Ulster i ddyrchafu eu llygaid uwchben greddfau hanesyddol y llwyth Protestannaidd.

Diffyg diddordeb oedd y peth tristaf am etholiad y Cynulliad ac onibai am lwyddiant rhyfeddol Plaid Cymru, yr unig stori fyddai wedi mynd a bryd y wasg oedd y nifer isel a bleidleisiodd.

Golygai hynny wneud yr Ymgyrch yn bwnc plaid.

Talwyd teyrnged iddo o gyfeiriad pob plaid.

Pe byddai Helen Mary Jones yn cyrraedd yr uchelfannau, felly, gallwn fod yn siwr y bydd llais yr ifanc yn cael ei glywed o fewn Plaid Cymru.

Mussolini yn sefydlu plaid Ffasgaidd yn Yr Eidal.

'Roedd yn rhaid sefydlu plaid wleidyddol newydd i amddiffyn yr Undebau.

Plaid fechan ac ifanc - "eithr gwyr trugarog oedd y rhai hyn, cyfiawnder y rhai nis anghofiwyd".

Anaml iawn mae'r bobol sydd â'r diddordeb gynnyn nhw'n newid 'u plaid.' 'Ia, ella.' 'Ia siwr.

Cynhaliwyd yr arddangosfa ynghyd â chyfarfod Plaid Cymru yn y dref a'r bwriad oedd dangos y posibiliadau o ddefnyddio safleoedd diffaith fel hwn i greu canolfannau celf a meithrinfeydd diwydiannau celf.'

Ethol Gwynfor Evans yn Llywydd Plaid Cymru.

Bu Plaid Cymru yn rhyddach i ganoli'n gyfan gwbl ar ei gwaith gwleidyddol, canys dyna ei gwir phwrpas.

Ceisia plaid wleidyddol feddiannu'r grym hwnnw iddi hi ei hun.

Mae Duw o'u plaid.

Un genedl fawr Brydeinig ydym, o dan yr un Llywodraeth, yn cael ein cynrychioli yn yr un senedd gyffredinol, ac y mae ein gwir nerth yn ein hunoliaeth... ac y mae'n rhaid imi ddweud nad oes ynof ond ychydig o gydymdeimlad â'r cri a godir yn y dyddiau hyn am gael Plaid Gymreig yn y senedd.

Er gwaethaf llwyddiant etholiadol y Bloc, ni all plaid ffederal ddod â sofraniaeth i Que/ bec yn uniongyrchol, dim ond y senedd yn ninas Que/ bec gwr busnes o Dwrci ac Iran eisoes yn y wlad yn elwa ar gysylltiadau oesol â'r hen ffordd sidan, ac yn awr yn sugno i'w côl fasnach oedd gynt dan reolaeth ganolog Moscow.

Plaid Cymru oedd y cyntaf i wneud datganiad cyhoeddus o blaid trefnu Ymgyrch am Senedd i Gymru, er bod Undeb Cymru Fydd dan arweiniad TI Ellis, Syr Ifan ab Owen Edwards, Moses Griffith, Dafydd Jenkins, Gwynfor Evans ac eraill yn cefnogi'r syniad.

Ffowc Elis oedd y nofelydd cyntaf mewn gwirionedd i ymdrin â gwleidyddiaeth plaid.

Plaid y Senedd a enillodd y Rhyfel Cartref.

Fel mater o ffaith, cafodd Plaid Cymru ei thrin rywbeth yn debyg.

Yn y cyfarfod rhybuddiodd DJ Williams, Abergwaun, dan gyfarwyddyd JE yn ddiau: "Pe byddem ni ym Mhlaid Cymru, neu unrhyw blaid arall, yn gwneud y Ddeiseb yn fater plaid,-byddai'n ddinistr sicr i'r ddeiseb honno%.

Cynrychiolir Ceredigion yn y Senedd gan Aelod Seneddol Plaid Cymru ac mae caffis y dre yn llawn o bobl ifanc radicalaidd sy'n trafod syniadau gweriniaethol.

Aelodau Plaid Cymru oedd barotaf i siarad Cymraeg (40.5% dros y flwyddyn i gyd) er bod yna gwymp o 10% dros y flwyddyn.

Ym mis Rhagfyr fe gododd arweinydd Plaid Cymru yn y Cynulliad gwestiwn diwygio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Chwalodd y blaid newydd yng nghanol y 50au, ond 'roedd ei dylanwad ar syniadau Plaid Cymru yn bellgyrhaeddol.

Ac weithiau meddyliaf ein bod wrth gwyno am y cam a ddioddefwn fel Plaid, megis ynglŷn â darllediadau gwleidyddol, er enghraifft, yn methu â dirnad yn llawn y bygythiad a wnawn i lawer o'r buddiannau breiniol yn Llundain, ac fe fyddai'n achos pryder mawr i mi pe na bai'r llywodraeth ganol yn ceisio llesteirio'n cynnydd.

Yn wyneb y dehongliad "treisgar" a roddai rhai pobl barchus ar dân Penyberth, yr oedd e'n tybio mai da fyddai pwysleisio'n gyhoeddus mai plaid gyfansoddiadol a heddychol oedd y Blaid; ond yn ôl y cof sydd gennyf i, nid oedd e'n sicr mai doeth fyddai codi'r mater i'r gwynt yn y Gynhadledd: tebyg ei fod yn ofni yr ai'n ddadl fawr ar y cynnig, a hynny'n fel ar fysedd y collfeirniaid o'r tu allan.

Jones, y chwarelwr a ddaeth yn Ysgrifennydd cyntaf Plaid Genedlaethol Cymru, a J.

Meuryn, golygydd Yr Herald, oedd y cadeirydd, a'r cyntaf i draddodi araith yn un o gyfarfodydd cyhoeddus Plaid Cymru oedd D.l.

Beth bynnag, yn swyddfa plaid genedlaethol yr Alban - yr SNP - yn y senedd yng Nghaeredin gosodwyd blwch rhegi gydag aelodau yn talu rhwng pump ac ugain ceiniog o ddirwy gan ddibynnu ar y rheg.

Dau ohonon ni oedd ar y daith, golygydd cylchgrawn Cymraeg (fi) ac un o gynghorwyr Plaid Cymru (Gareth Butler o Aberystwyth).

Bron na fyddwn i'n dweud fod perfformiadau byw Chouchen yn rhagori ar yr hyn sydd i'w glywed ar eu crynoddisgiau, a fedr hynny ond bod o'u plaid nhw.

Yr oedd cryn ddadlau ynglŷn â'r ffordd yr oedd Plaid Cymru ynghlwm wrth fudiadau rhyngblaid fel CND, nad oeddynt yn uniongyrchol berthnasol i genedl aetholdeb Cymreig.

Tra'r oedd arweinwyr y tair plaid Brydeinig yn dod i'n haelwydydd sawl gwaith bob dydd, doedd dim sôn am Blaid Cymru o gwbl.

Y mae rhai yn gweld gobaith yn llwyddiannau Plaid Cymru mewn etholiadau seneddol megis eleni ym Merthyr Tudful.

Yn awr, wedi i Gwyn fynd y tu hwnt i obaith, hwyrach y byddai pethau'n troi o'n plaid.

Pasiwyd Deddf Iaith 1993 gan y Torïaid heb gefnogaeth unrhyw un o'r pleidiau eraill yn San Steffan - i ddweud y gwir pleidleisiodd Plaid Cymru a 'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei herbyn.

ddymunai weld Plaid Cymru yn gweithredu'n uniongyrchol.

Roedd rhestr faith o gwestiynau i fwrw trwyddynt ac aelodau Plaid Cymru wedi bod yn fwy cydwybodol na neb gyda'u gwaith cartref yn yr awydd i faglu Alun Michael, y Prif Ysgrifennydd.

Yn gyntaf, beth oedd lle priodol Plaid Cymru?

Gyda cynhadledd pob plaid ond yn parhau am wythnos does neb wedi egluron iawn pam y maen rhaid i bob aelod unigol gael tair wythnos i fynychu ei gynhadledd.

Wedi clywed negeseuon o gefnogaeth cafwyd gorymdaith o ganol y dref at y mast ffôn lle cafwyd anerchiad gan Hywel Williams, darpar-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Arfon.

Sefydlu'r Drydedd Reich yn Yr Almaen, Hitler yn ffurfio baner swastika newydd i'w blaid, Plaid Sosialaidd Genedlaethol Yr Almaen, sef y Blaid Natsïaidd.

Ethol Dafydd Wigley yn Llywydd Plaid Cymru.

Mae Abertawe yn obeithiol y bydd y canlyniad o'u plaid nhw.

Yr ydym yn gadael rhigolau plaid am ein bod o'r farn mai mater tyngedfennol o bwys mawr yw sicrhau hunan lywodraeth ar fyrder" Dyna osod y pwnc yn ei le, ynghanol cymeradwyaeth frwdfrydig.

Mae Plaid Cymru yn ymdrechu'n galed i fachu ei lle wrth y bwrdd mawr newydd yn y gobaith y bydd hwnnw'n Ewropeaidd ei natur.

Ar fore hynod o braf yn y Brifddinas, fe benderfynodd Plaid Cymru agor yr ymgyrch yn yr awyr agored.

Wrth edrych yn ôl ar flynyddoedd cynnar Plaid Cymru fe'n hargyhoeddir ar unwaith mai gwyr glew a gwragedd dewr a'i sylfaenodd, H. R. Jones, Saunders Lewis, Lewis Valentine, D. J. Williams, J. E. Jones, Kate Roberts; amser a ballai i mi fynegi am J. P. Davies, Ben Owen, Ambrose Bebb, Mai Roberts, Cassie Davies ac eraill, y rhai a roddodd fudiad rhyddid Cymru ar sylfaen ddiogel.

Yn y cyfamser yn Llundain, mae Simon Thomas aelod seneddol Plaid Cymru dros Geredigion wedi galw am weithredu'n erbyn cnydau GM - ond nid yn erbyn safle Sealand ar hyn o bryd.

Gwynedd Syniad o gyfarfod â grwp cynghorwyr Plaid Cymru sy'n rheoli'r Cyngor -- dim symud ffurfiol eto.

Dyna pam y gweithiodd mor galed ac yr aberthodd gymaint wrth gynorthwyo i sefydlu a datblygu Plaid Genedlaethol Cymru.

Mewn cyfarfod cyhoeddus drefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Ngwesty'r Angel Caerdydd nos Fawrth Mai 16eg - cyfarfod i lansio deiseb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith Newydd, deddf a fyddai yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg - fe gafwyd cefnogaeth gref gan Elin Jones, llefarydd Plaid Cymru ar yr iaith Gymraeg, a Christine Humphreys ar ran y Rhyddfrydwyr Democrataidd.

Nes y ceith plaid Cymru driniaeth deg a chyfartal â'r pleidiau Prydeinig -- yma yng Nghymru o leiaf -- anodd gweld y Blaid yn torri trwodd yn fuan trwy Gymru.

Ac yma yng Nghymru fe ddylai Llywydd y Blaid gael lle cymharol i'r hyn mae arweinwyr y tair plaid yn el gael.

Caiff ei llywodraethu gan glymblaid Llafur/Plaid Werdd, a'i hunig enwogrwydd hyd eleni oedd y ffaith fod llafnau cyllyll o safon yn cael eu cynhyrchu yno.

"Dydach chi ddim wedi newid ych plaid, gobeithio?' 'Na, 'dydw i ddim yn cofio imi wneud.' 'Cellwair o'n i, wrth gwrs.' Gwasgarodd Rhodri dipyn go lew o 'i gwrw ar hyd y bwrdd a' ddillad wrth i'r chwerthin chwalu allan pan oedd ar ganol cymryd llwnc.

rhwng aelod blaenllaw o'n Plaid Genedlaethol ni a dysgawdwr mawr o wlad fechan sy'n enwog am ei hysgolion a'i dramâu, ei hymenyn a'i chig moch rhown arni'r enw Baconia'.

Pan fo un plaid mewn awdurdod am ddegawd a rhagor yn ddi-dor gall y gweision sifil mewn adran gymharol fychan lithro i rigol meddwl sy'n eu dallu rhag gweld rhinweddau'r gwrthddadleuon.

Cyfarfod sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru yng ngwesty'r Maesgwyn, Pwllheli.

Yr etholiad hwnnw, mewn gwirionedd, oedd dechrau ei gyrfa fel plaid wleidyddol yn anelu at gyrraedd ei nod trwy gyfrwng etholiadau.

Fel yr oedd teimladau'n poethi, a pherygl i'r Rhyddfrydwyr dynnu'n ôl, daeth yr Henadur William George i'r adwy ac apelio at ei blaid ail ystyried a rhoi'r Ymgyrch, fel yr awgrymasai Plaid Cymru, yn llaw mudiad unol nad oedd yn rhwym wrth na phlaid nac enwad, cyngor na mudiad o unrhyw fath.

Gellid dweud yn ddibetrus mai profiad sobreiddiol fyddai i brif weinidog unrhyw wlad edrych dros lawr y T a syllu i fyw llygaid arweinydd yr Wrthblaid gan wybod fo dhwnnw yn cynrychioli plaid sy'n dymuno arwain rhan o'r wlad i annibyniaeth.

Cydnabuwyd mewn ysbryd hael iddo ymestyn dylanwad Plaid Cymru o ffiniau cyfyng y Gymru Gymraeg i weddill y wlad.

Edrychai pethau'n addawol dros ben iddo ef - pobl o bob plaid ac enwad a chyngor yn fodlon cydweithio a'i gilydd i ennill rhywbeth mawr, sylweddol i Gymru.

Cenedlaetholwyr Ffrainc yw'r blaid geidwadol yno, plaid Charles Maurras a'r Action Francaise.

Yr argraff a gefais yn fy Ysgol Haf gyntaf oedd ei bod yn ddealledig y dylai holl sbectrwm gweithgarwch cenedlaethol fynd trwy unig sianel Plaid Cymru, a chredaf i hynny fod yn briodol yn y tridegau a'r pedwardegau pan oedd holl ddyfodol Cymru fel cenedl yn dibynnu ar lwyr ymroddiad dyrnaid bychan o bobl, ac mai felly'n unig y gellid gwneud pryd hynny.

Bydd David Davies ynghŷd â Carwyn Jones (Llafur), Elin Jones (Plaid Cymru), a Christine Humphreys (Rhyddfrydwr Democrataidd). Bydd Cynog Dafis yno fel Cadeirydd y Pwyllgor Addysg ôl 16.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Y 'gang o bedwar', Shirley Williams, Bill Rogers, David Owen a Roy Jenkins, cyn-aelodau o'r Llywodraeth Lafur, yn ffurfio plaid newydd, y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol, yr SDP. Naw aelod seneddol yn eu dilyn.

Roedd yn glir yn ystod yr etholiad bod yr SNP hyd yn oed wedi cael llawer mwy o sylw ar y BBC Prydeinig nag a gafodd Plaid Cymru.

Rhaid son am un cyfarfod; cyfarfod cyhoeddus cyntaf Plaid Cymru yn Ne Cymru.

Marw Megan Lloyd George A.S. Caerfyrddin, a Gwynfor Evans, Plaid Cymru, yn ennill yr is-etholiad.

Dydw i ddim yn gweld hyn yn digwydd o fewn Plaid Cymru.

Fe'm trawyd yn rhyfedd ar fy ymweliad cyntaf ag Ysgol Haf o'r Blaid fod pobl yn tybio mai plaid wleidyddol oedd y cyfrwng priodol ar gyfer gweithredu uniongyrchiol, pa un a oedd y weithred honno yn un y gellid ei chyfiawnhau ai peidio.

Y mae'n werth cofio bod llawer yng Nghaerdydd heddiw a all ddiolch am eu swyddi breision i weithgarwch Plaid Cymru fel grŵp ymwthiol.

Prif Ddigwyddiadau Hanesyddol Sefydlu'r Drydedd Reich yn Yr Almaen, Hitler yn ffurfio baner swastika newydd i'w blaid, Plaid Sosialaidd Genedlaethol Yr Almaen, sef y Blaid Natsïaidd.

Anffawd ac anhawddfyd o'r math gwaetha', a doedd un dim wedi mynd o'u plaid er y noson honno.

Yr oedd yr etholiad hwnnw yn drobwynt yn hanes gwleidyddiaeth Gymreig, ac ni bu etholiad wedyn heb ymgeisydd neu ymgeiswyr Plaid Cymru ar y maes.

Roedd nifer o bobl o'r blaen wedi dweud "Rhaid cael Plaid Genedlaethol" ond heb wneud dim.

Termau a glywid yn aml mewn cynadleddau rhanbarthol ac yn nhrafodaethau Ysgolion Haf Plaid Cymru ydoedd annibyniaeth, rhyddid, perchentyaeth, cydweithrediad mewn diwydiant, datganoli, gwasgaru diwydiant a dangos mai un o amodau gwarineb yw osgoi mawrdra.

Golygai mai dim ond un blaid fechan, plaid y Democratiaid Annibynnol (FDP), oedd llais yr wrthblaid o fewn y senedd, llais a oedd yn rhy wan i fod yn effeithiol.

Camgymeriad, er hynny, fyddai credu bod Unbennaeth Oleuedig bob tro yn niweidiol i ieithoedd lleiafrifol, a'r meddylfryd Herderaidd bob amser yn arf gadarn o'u plaid.

Oherwydd hyn bu i ni, fel Aelodau Seneddol Plaid Cymru, bleidleisio yn ei erbyn fel protest.

Er lleied yw Plaid Cymru, ac er y gall hi gael mwy na'i rhan o glwyfau a siomedigaethau politicaidd, y mae'n anninistriadwy oblegid ei bod wedi ei hadeiladu ar graig teyrngarwch i'r genedl Gymreig.

Pan sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru ym Mhwllheli ym 1925 symbylwyd ei sefydlwyr a'i harweinwyr gan safiad y Gwyddelod ym 1916.

Dafydd Elis Thomas yn Llywydd Plaid Cymru.

Tra bo Plaid Cymru mewn penbleth nid yn unig pwy a gaiff i'w harwain ond sut y caiff ei harwain y mae ei chefnder yn yr Alban yn paratoi i ddathlu.

Pleidleisiodd Plaid Cymru a'r Rhyddfrydwyr yn erbyn.

Go brin y bydd hynny yn wir am Helen Mary Jones os y bydd hi'n cael ei dyrchafu o fewn Plaid Cymru.

Mabwysiadodd y cyfarfod hefyd deitl newydd - Plaid Genedlaethol Cymru - yn lle teitl Caernarfon.

Ond nid oedd ar unrhyw adeg am weld plaid wleidyddol gwir Gymreig yn cau'r drws ar y posibilrwydd o weithredu'n aghyfansoddiadol ddi-drais.

Gellir edrych yn ôl ar y blynyddoedd hyn fel yr ail gyfnod yn hanes Plaid Cymru.

Dafydd Wigley yn cadw ei sedd, a Dafydd Elis Thomas yn dod yn drydydd Aelod Seneddol Plaid Cymru trwy drechu Wil Edwards, Llafur, ym Meirionnydd.

Ffurfio Plaid Gomiwnyddol Prydain.

Lewis Valentine yn ennill 609 o bleidleisiau yn etholaeth Caernarfon yn ymdrech gyntaf Plaid Cymru mewn Etholiad Cyffredinol.