Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

planedau

planedau

Fel yr oedd darllenwyr yr Almanaciau gynt yng Nghymru yn ymhe/ l ag arwyddion y sidydd neu'r sodiac, dengys y colofnau poblogaidd mewn papurau Cymraeg a Saesneg y diddordeb mawr sydd heddiw (yn arbennig ymhlith merched) mewn astroleg - credu neu led-gredu yn arwyddion y planedau a darllen horosgôb - yr un hen awydd am gael gwybod yr anwybod.

Cyfeiria'r bardd at anwadalwch y planedau, ac ymbil ar Dduw a'r seintiau i beri heddwch rhwng y ddwy diriogaeth.

Sef o ryw fan deallusol lle nad oes odid neb yn colli cwsg ynghylch iawn amseriad y Farn Fawr nac yn debyg o lindagu ei gystedlydd os nad yw'n cytuno gant y cant ag ef ynglŷn â natur y Drindod ac arwyddocâd symbolaidd y planedau; ond man, serch hynny, lle cydymdeimlir ag amcanion yr ysgrifennwr crefyddol fel ag amcanion pob llenor.

Os yw meddwl, teimlo ac ewyllysio i'w hesbonio, fel cylchdro'r planedau, yn ôl deddfau haearnaidd y method gwyddonol, yna ofer sôn am bersonoliaeth rydd.

Rhywbryd, rhywdro fe fu ffrwydriad mawr o holl fater y cread i wneud y galaethau, y ser a'r planedau.

Yr un elfennau, fel y dengys y sbectrosgop, sydd yn y ser a'r planedau ag sydd ym mhopeth, bywyd a di-fywyd, ar y ddaear.

Wrth feddwl bod yn rhaid i doddiant addas ymateb i'r holl ofynion hyn, a hynny i gyd ar yr un pryd, ychydig iawn o bosibiliadau sy'n bod ymhlith y cyfansoddion cemegol sy'n wybyddus ar y planedau, y meteorau a'r comedau.

Y mae'r planedau pellaf, hyd yn oed, wedi gorfod ildio'u cyfrinachau i lygaid dyn.

Mae'r un atdyniad yn egluro symudiad y lleuad o amgylch y ddaear, a chylchoedd y planedau o amgylch yr haul.