Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plastig

plastig

Un o rinweddau amlwg y llyfr yw ymgroesi rhag y demtasiwn i wneud sant plastig o Christmas.

O'i chwmpas, mi roedd y ffasiynau'n newid yn gyson - y lliain bwrdd yn toi o lês synthetig i fformeica, y lluniau ar y wal yn newid o Winston Churchill i dair hwyaden a'r tridarn eistedd o Regency ffug i ledr plastig, gwichlyd.

Diolch byth bod yr hen roddwr hael yn cymryd ei dalu mewn darnau plastig meddyliaf wrth fy hun wrth ymuno â'r ffyliaid dyledus eraill sy'n llifo o gwmpas honglaid o warws a'i lond o deganau a rheiny res ar res o'r llawr i'r to ugain troedfedd a mwy uwch fy mhen.

Dewisodd y coch a hefyd prynodd focs o siocled ac angel plastig.

Ym mhob man cysgodai pobl o dan cynfasau plastig.

A minnau'n meddwl fy mod i uwchlaw castiau dosbarth canol o'r fath, cefais fy hun un p'nawn ar Faes y Brifwyl, yn gwthio merched parchus mewn cotiau plastig yn ddi-seremoni o'm ffordd er mwyn i mi gyrraedd yn gyntaf at y cardiau 'Dolig yn un o'r pebyll elusennol.

Ac mae Cyfeillion y Ddaear a Chyngor Diogelu Cymru Wledig hefyd wedi beirniadu'r cynllun adnewyddu am nad yw yn cynnwys unrhyw waith insiwleiddio a bod y tai yn colli cymeriad oherwydd y defnydd o pebl dash a ffenestri plastig gwyn.

Mae byngalos hefyd yn bethau tlws ac urddasol, rhai wedi eu chwipio, hefo ffenestri plastig a phatio, artecs a jereniyms.

Mewn un ganolfan yn rhanbarth Arsi gwelsom sut y caiff hadau eu rhoi mewn silindrau bach plastig sy'n cynnwys cymysgedd o bridd a gwrtaith.

Mae'n amlwg fod yn well gan bobl eu cael mewn blychau plastig, wedi eu coginio a'u trochi mewn finegr ar gyfer eu tafellu i addurno salad.

Roedd joints plastig yn betha digon handi!

Cymrodd Ifor olwg ar y fuwch yn y beudy, estyn caib a rhaw a joint plastig o eigion rhyw focs tŵls, a neidio i'r Daihatsu i drwshio'r hollt yn y beipan.

'Ac wedyn mae'r dillad 'na - y trwser plastig, y topiau mwyaf bach allech chi feddwl amdanyn nhw.

Gellwch wneud swigen efo gwelltyn plastig.

Y dyddiau hyn, defnyddir plastig yn aml yn lle metalau, gan nad yw ocsigen a dwr yn ymosod ar blastig.

Yr ateb yw, ar ôl profi hynny, y buasent yn tyfu nes cyffwrdd y gwydr a'r plastig yn rhy gynnar, rheini yn mynd mor oer ar noson rewllyd neu farugog nes difetha'r gwlydd (gwrysg) gyffyrddid.