Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plasty

plasty

Arferai Mr Roberts weithio fel coitsmon mewn plasty ond erbyn y cyfnod hwn roedd mewn gwth o oedran ac yn gaeth i'r tŷ; a chofiaf Mrs Roberts yn egluro i mi fel yr arferai hi fynd i'r Belle Vue bob nos i geisio peint o gwrw i'w gŵr efo'i swper.

Yn Llanrhaeadr-yng-Ngheinmeirch yng Nghlwyd yr oedd plasty o'r enw Bala Hall ac yn Llandysul yn Nhrefaldwyn yr oedd lle o'r enw Gwern y Bala.

Crynhoir arwyddocâd y plasty fel ffynhonnell pob gwareiddiad a'r pencenedl fel cynghorwr ac arweinydd doeth yng ngeiriau'r un bardd: 'pennaeth y gwladwriaeth da; pencenedl ...

Credir bellach fod yr enw Gloddaith - enw plasty ger Llandudno - yn cyfeirio at fan lle yr arferid cynhyrchu golosg.

'Trwbwl yn y plasty.

Fel yn yr ysgol rad yn ôl Ieuan Glan Geirionydd, y tebyg yw mai 'Cerddi Homer a Virgil geinber' a bynciai Morgan ym mhorth plasty Gwedir dan ofal y caplan, neu o leiaf gerddi Virgil, gan ei bod yn bur sicr mai ar ramadeg a llenyddiaeth Ladin y byddai prif bwyslais yr addysg a geid yno - er ei bod yn debygol fod Saesneg ac egwyddorion y grefydd newydd Anglicanaidd yn cael eu dysgu hefyd.

Felly ar Elisabeth y syrthiodd y cyfrifoldeb o gadw trefn ar y plasty a'r gweinyddion yn ogystal a'r gofal am ei brodyr a'i chwaer fach, yn enwedig pan fyddai Meistres Mary Games yn mynd a'i mab hynaf, Richard, i'r plas newydd ger Y Fenni.

'Tŵr a gâr gwald' ydoedd y plasty i Ruffudd Phylip, sef cartref diddos i'r gymdogaeth y lleolid ef ynndi.

Ac ymhellach, beth a barodd i Simwnt Fychan ddisgrifio plasty newydd un o'i noddwyr yn 'gyflawnder cyfiawnder' a 'derwen o wladwriaeth' os nad ei gred fod cynhaliaeth lawer amgenach na bwyd a llety i'w chael ynddo?

Yn fynych ni allai'r beridd ddarlunio'r uchelwr yn llawnder ei gymeriad heb ystyried gwraig y plasty yn rhan hanfodol o'i wneuthuriad.

Cytundeb tebyg a adlewyrchir mewn llinell megis 'Dau fonedd a dwf uniawn' a'r llinell rymus honno am y ddau o fewn eu plasty 'yn porthi holl Gymru'.