Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plesio

plesio

Pan oeddwn yno yn nhalaith Efrog Newydd digwyddai fod cryn sôn fod disgynyddion y brodorion yn gwneud ymholiadau cyfreithiol i edrych a oedd posib iddynt gael eu tiroedd yn ôl, a doedd hynny ddim yn plesio y trigolion presennol.

Bydd peilotiaid Americanaidd bob amser yn croesi gwregysau diogelwch ar seddau gwag yn yr awyren er mwyn plesio'r ysbrydion anhysbys.

Er nad oedd y gwrthwynebwyr yn rhai gâi eu cysidro'n rhai cryf roedd y sgôr yn arbennig yn plesio gan y gallai gwahaniaeth golie fod yn bwysig yn y diwedd.

Eisiau plesio Mam ar ôl ffraeo roedd o.

"Mae yna ddigon o wellt glân yno." Roedd hynny'n plesio'r cardotyn yn iawn.

Gwyddai fod hynny'n plesio llygad eu tad.

Fe welwn ar ei gwep sur hi nad oedd y gwahoddiad ddim yn plesio.

Roedd ei drefnusrwydd yn plesio'r llygad.

Mae'n hir ddisgwyliedig yn ty ni, lle mae'r llyfrau wedi plesio'n enfawr.

Ond fedrwch chi ddim plesio pawb - hyd yn oed gyda stori dda fel un Harri Potter.

Peidiwch â nghamddeall i – mae hon yn albym ddigon dymunol, a does gen i ddim amheuaeth y bydd hi'n plesio cefnogwyr y grwp; ond ar hyn o bryd mae Word Gets Around yn dal i fod ar dop y rhestr, er bod yna bellach dair blynedd a hanner ers ei rhyddhau.

Ar wahân i hynny mae Clockwork yn plesio'n arw, ac mae hi'n brawf pellach o'r ffaith fod cerddoriaeth ysgafnach yn gweddu Gwacamoli i'r dim.

Dwi'n credu fod gennym groesdoriad da o adloniant fydd yn plesio'r teulu i gyd," meddai Idris Charles.

Dim ots os yw eich llyfr y peth mwyaf syrffedus dan haul o ran cynnwys - cyn belled âi fod yn lliwgar ac yn swmpus mi fydd yr adolygwyr wedi eu plesio.

"Dydi Rhodri ddim yn plesio chwaith?'