Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plethu

plethu

bywyd ysgol, eisteddfota." Y nod oedd plethu elfennau o'r 'pasiant' traddodiadol gyda themâu personol am fywydau'r disgyblion.

Roedd ei ddwylo tenau crafangog wedi eu plethu'n llac ar y garthen, yr ewinedd yn lasgoch.

Am ei draed oedd pâr o sandalau cryf gyda chreiau trwchus wedi'u plethu grisgroes at ei bengliniau.

Plethu'r ddau ddiwylliant a'r ddwy iaith i'w gilydd, yn ei fywyd personol, yn ei weinidogaeth, yn ei fywyd cyhoeddus ac yn ei ysgrifeniadau a wnaeth Elfed.

Diamau y gall y ddau syr.uad fod wedi eu plethu i'w gilydd ar adegau,- neu ynteu fod yn sefyll mewn gwrthgyferbyniad i'w gilydd.

Yn raddol, drannoeth, gwawriodd arnom ein bod wedi ein dal yn llwyr gan y Bos, a'i fod ef wedi bod yn tynnu coes yn ddidrugaredd, ond gan fod y manylion tybiedig wedi'u plethu i mewn i r cefndir a'r lleoliad dilys yn gelfydd iawn, hyd yn oed tadogi'r stori ar Mr Merfyn Morgan, y Prif Uwch-Arolygydd â gofal am Adran "D" o Heddlu Dyfed-Powys, roeddem wedi credu'r stori'n llwyr.

Roedd sgript Dafydd Huws yn plethu sawl elfen yn gywrain: nid yn unig yr oedd yn ddiwrnod cyntaf i Carys ond roedd yn ddiwrnod cyhoeddi grantiau gwella tai.

Wedyn, rwy'n eu plethu'n gadwyn ddel yn ei gwallt nes ei bod yn edrych fel brenhines.

Ond y mae wedi plethu â'r weledigaeth hon, yr hyn a ddysgai'r Diwygwyr Protestannaidd am ein hangen am gyfiawnder.

Eisteddwn yno rhyngddynt yn gwrando a'm dwylo wedi'u plethu'n wylaidd yn fy nghôl.

Yr oedd y plethu hwn yn beth bwriadol ganddo; yn sicr ddigon, nid gwadu'r Gymraeg oedd ei amcan: Perthyn y mae Elfed i'r un ysgol o feddwl a Cheiriog yn hyn o beth.