Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plismon

plismon

Ymhen rhyw bum munud, pwy ddaeth i mewn i'r bar, codi peint, a thynnu ei het, ond y plismon hwnnw.

Ydych chi am ffilmio'r plismon yn ymosod ar berson du, neu ydych chi am ffilmio'r hen wraig yn cael ei tharo gan ddyn sy'n digwydd bod yn groenddu?

Yr oedd y plismon lleol, James Lloyd, wedi'i eni ym Madagascar.

`Does dim modd ei weld e o fan hyn,' atebodd plismon, `ond mae e tua hanner ffordd i lawr ar silff fach.' `Y clogwyni hyn yw rhai o'r rhai gwaethaf yn y cylch,' meddai Reg.`Mae'r garreg yn briwsioni dim ond i chi edrych arni hi.

Ffoniwyd yr heddlu a daeth plismon heibio.

Wedyn mae'r plismon yn nodi'r drosedd honedig ar ffurflen, ac yn ei rhoi i'r gyrrwr.

Dewch, agorwch y drws ar unwaith, ychwanegodd y plismon.

Agorodd y plismon tew y drws iddi a bu'n rhaid iddi gerdded yn droednoeth i dŷ bach budr a oedd yn sglefr o olch.

Mae taclau gwraig weddw yn benigamp am worn out tools fel ag y mae chwys plismon am rywbeth prin iawn er y gellid fod wedi ychwanegu mor brin â chachu ceffyl pren ato.

Daeth plismon mewn i'r bws a dod yn fygythiol ata i - fe gês i dipyn o fraw ond wedi iddo weld fy mhasport i roedd e'n llawer mwy cyfeillgar.

Mae'n rhaid imi gael gair â chi ar unwaith.' 'Rwyf wedi bod yn siarad hefo un plismon yn barod,' atebodd yntau'n bur groes.

"Wel, blant, wedi dod i gael gwybod y newyddion diweddaraf?" holodd plismon yn llewys ei grys yn y garafan gyntaf.

'Rşan y plismon plant ichdi,' ysgyrnygodd Nel yn sefyll a'i thraed un bob ochor i ben PC Llong a lledr ei sgidiau sodlau uchel yn cochi'i glustiau, 'tydi Vatilan heb ladd neb yn naddo?'

Ond dal i sefyll fel plismon a wnai'r llefnyn.

'Nid Vatilan ydwi,' meddai'r plismon bochgoch siwtlas enfawr a gamodd o borth y slobfa a sefyll o'i blaen.

plismon ydych chi?

'Mi oedd yn rhaid i ni neud dy fisit di â'r hotel 'ma yn un gwerth chweil ar ôl yr holl sylw gest ti,' meddai'r plismon tew.

'Cau dy big y plismon drama,' meddai Nel.

Nid oedd Cochyn y plismon i'w weld yn unlle, a meddyliai Wyn ei fod yn dal i fod ar drywydd y lleidr cathod gan fod Mari Ddu, un arall o gathod y stad dai, wedi diflannu yn ystod y nos.

Plismon, mewn car neu ar fotobeic, yn goddiweddyd modurwr ac yna'n tynnu i mewn i ochr y ffordd o flaen ei drwyn, gan ei orfodi i stopio.

Awn i'r gwely mor gynnar ag y gallwn, rywdro rhwng wyth a naw, ac yna tuag un yn y bore, cyn iddo fynd i glwydo ei hun, deuai plismon y pentref a churo'n ysgafn ar ffenestr y gweithdy i'm deffro.

Gwelsant y ceir yn mynd oddi yno o un i un; aeth y plismon yn y garafan i un o'r ceir a gwyliodd y bechgyn ef yn cloi'r drws cyn gadael.

POBOL O BELL Heblaw am y plismon o Fadagascar, y carcharoro o Efrog Newydd a Matron y carchar o Hanover, yr oedd eraill ymhell o fro eu mebyd; dyna i chi Stuart Kirby o Stryd y Castell a anwyd yn y Punjab; Emma Jones, gwraig y cyfrifydd yn Heol Clwyd o Wlad yr Haf; Owen Fox, tincer o Mayo, dyn oedd yn crwydro cryn dipyn mae'n rhaid oherwydd ymhlith ei lu o blant ganwyd Michael ym |Mwlchgwyn, Bridget yn Nefyn, Owen yng |Nghroesoswallt, Rossey ym Mhentrefoelas, Thomas ym Mhenybont Fawr, Kitty ym Mryneglwys a Maggie yn Nhreffynnon.

"Mae'n rhaid ei fod o wedi suddo yn y gors," meddai'r plismon clên wrthynt.