Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plwc

plwc

Ers dau neu dri o berfformiadau bellach rwyf wedi cael rhyw hen deimlad annifyr ym mêr fy esgyrn fod cwmni Bara Caws wedi chwythu'u plwc.

Wedi plwc o gornio ar frest, dyma Doctor Jones yn cyhoeddi'i ddyfarniad, yn ei lais arferol y tro hwn: 'Ma' gynnoch chi annwyd trwm, Robin.

Ond yr oedd yna eleni yn yr Hen Goleg, Aberystwyth, ymdeimlad cryf o bwrpas a chryn dipyn o dân yr 'Oes Aur' futholegol honno y bydd newyddiadurwyr a chenedlaetholwyr sydd wedi hen chwythu eu plwc yn hoffi malu awyr amdani.

Pam yr oedd yn rhaid i'r hen euogrwydd hwnnw ddod trosti eto'n byliau'r dyddiau hyn wrth feddwl mor wahanol yr edrychai'r lle heddiw i'r tyddyn hir, unllawr, a gofiai'n groten - y "tyddyn Cymreig?" Doedd dim rheswm yn y byd iddi hi orfod ysgwyddo'r plwc cydwybod yn gyfangwbl ei hun.

Cododd y gwrachod eu pennau o'r llyfr swynion yn union yr un pryd, fel pe bai rhywun wedi rhoi plwc sydyn iddynt.

Heblaw bod yn llwfr, golygai egluro i Enoc, ac ailgodi plwc i fynd eilwaith.

Ar ôl un plwc sydyn arall, syrthiodd darn metel ei goes dde i ffwrdd a disgyn i waelod y cocpit.

Byddai'n siwr o fagu plwc i'w ffonio drannoeth.

Dyna ti wedi dangos bod plwc ynot ti.