Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plygu

plygu

Hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg telesgopau plygu oedd y mwyaf poblogaidd, sef telesgopau sy'n defnyddio lensau i gasglu a phlygu'r golau a chwyddo'r ddelwedd.

Y bobl a fu'n trin y tir trwy'r canrifoedd, yn gwareiddio'r pridd, yn dofi'r diffeithwch â'u herydr ac yn plygu'r nentydd i'w gwasanaeth.

Roedd rhywbeth amdano a fyddai'n edrych yn gyfforddus yn bodio trwy lyfrau Shakespeare mewn llyfrgell, neu'n plygu yn ei gwman uwch Wordsworth.

Ar ei gais, tynnais fy nghrys, plygu'n ddwbl dros ymyl y soffa, ac aros felly yn fy nghwman i ddisgwyl y nodwydd.

Sawl gwas fferm (os yw'n dal i fodoli) sy'n plygu gwrych yn lle defnyddio fflêl?

Mae'r adenydd rheiddiol a'r cysylltiadau nexin yn troi'r llithro hwn yn symudiadau plygu ar ran y siliwm wrth iddo gyflawni'r gylchred o drawiad effaith a thrawiad adfer.

Pam mae solidau fel alwminiwm yn plygu yn rhwydd ond nid felly haearn bwrw?

Mae'n gardyn trwchus â choes sy'n plygu'n wastad ar y cefn.

Sylwi mhellach Ar y fam yn wyw ei gwedd, Ac yn plygu megis lili, I oer-wely llwm y bedd.

Brigyn banadl wedi plygu'i war i'r gwynt gan ymffurfio'n fwa addas.

Nid oes neb yn hoffi mynd i mewn i r cylch gyntaf felly bydd y sawl sy'n ceisio disodli'r pencampwr yn gorfod plygu o dan y rhaffau gyntaf a chamu i'r cylch.

Wrth gwrs, mae lens o'r maint hwn yn drwm iawn, ac yn plygu dan ei bwysau.

Pan ddaeth ati ei hun gwelai belen wen gwallt ac wyneb pryderus ei thad yn plygu drosti ac yn dal ei phen yn ei ddwylo a chlywai ei lais o bell: 'Fy seren, o fy seren!

Oes, mae ffôn, trydan, ystafell molchi, a dþr o'r tap, ond dyw'r ddau ddim wedi plygu llawer mwy na hylmy i'r drefn o lanw cartref gyda moethusrwydd dianghenrhaid diwedd yr ugeinfed ganrif.

Oedd hi werth plygu gwrych, rhoi basic slag, agor ffos?

Os gwelsoch eog ryw dro yn plygu'i ben at ei losgwrn, ac yna yn ymsythu'n sydyn a hedfan fel saeth tros y gored, fe wyddoch sut y byddai Seren yn cyrchu rhyddid y clos.

Beth sy'n digwydd i'r mwstard a berw'r dwr wrth iddynt dyfu?A fedrwch weld y coesynnau'n plygu ac yn pwyso tuag at y goleuni sy'n dod trwy'r twll?

Welwch chi mohonof i yn plygu!' mynnodd y dderwen.

Hawdd yw datrys y dirgelwch yma pan edrychwn ar drawsdoriad o'r Fro sy'n dangos i ni fod y creigiau wedi cael eu plygu fel bod Cefn Bryn ar ben anticlin a Phorth Einon mewn synclin.

Erbyn pnawn Mercher dyma gadael y siap 'swch' i droi, plygu'r gliniau, plannu'r polyn yn yr eira, naid bach i fyny ac i rownd y tro.

Er bod Mathew Tomos y Plant a'i deulu yn wynebu cyni a dioddefaint, pobl sy'n plygu dan yr iau'n ddirwgnach ydynt hwy, gan addoli teulu Pen y Bryn yn ddigwestiwn.

Penderfynodd rheini aros, gwylio a gobeithio y buasai'r mul yn plygu glin.

'Tydi gair Huws Parsli'n profi dim i neb,' meddai PC Llong yn codi i'w draed ac yn plygu ei ddau ben-glin tuag at allan.

Roedd y cyfeiriadau niferus at Ddafydd yn herio Goliath a frithai bapurau newyddion y gorllewin pan oedd gwledydd y Baltig yn gwrthod plygu glin i Gorbachev yn siŵr o fod yn drysu llawer o'r Rwsiaid yn lan.

'Iesu tirion, gwêl yn awr Blentyn bach un plygu lawr...'

Gan inni fod gyhyd yn nisgleirdeb yr haul ni allem weld yn glir iawn i'r cysgodion, ond wedi cynefino tipyn gallem weld merch yn plygu allan o un o ffenestri'r adeilad gyferbyn.

Byddwch wedi gweld planhigion ar sil y ffenestr yn plygu eu coesynnau wrth iddynt bwyso tuag at haul y bore neu'r prynhawn.