Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

plymiodd

plymiodd

Trodd Gareth i edrych o'i flaen - a sgrechiodd wrth i'r car blymio i lawr pant yn y ffordd a chornel giaidd yn ymddangos yn sydyn - brêcs y car yn sgrechian wrth i'r car fynd wysg ei ochr o amgylch y gornel - ac o'u hôl, y car arall yn ymddangos, ond yn methu â chymryd y gornel - yn taro'r ffens ac yn rhwygo drwodd - am eiliad, ymddangosai fel pe bai'r car am stopio ar ymyl y clogwyn, ond yna plymiodd tua'r môr a tharo'r creigiau islaw.

Plymiodd un amdano yn wyllt, fel awyren yn sgrechian cyn gollwng bom ar long adeg rhyfel.

Plymiodd o dan wyneb y dŵr gan chwilio o gwmpas.

Am foment bu'n hofran yn yr aer, wedyn plymiodd i'r môr fel carreg.