Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

poblogrwydd

poblogrwydd

Y mae arweinwyr y Blaid Lafur yn baglu ar draws ei gilydd i i ddweud mai'r rheswm fod poblogrwydd y blaid wedi edwino ers yr etholiad diwethaf yw oherwydd nad yw'r 'neges' yn ddigon clir.

Er y gwaith cefndir manwl iawn am ddatblygiad poblogrwydd y Cyrff a gweddill sêr sîn yr 80au hwyr, fel mae'r teitl yn awgrymu, Catatonia a Cerys yn benodol syn cael y prif sylw.

Dyn pobl ydoedd, yn y ffordd orau bosibl yn caru poblogrwydd.

Un o'r prif resymau am hyn yw poblogrwydd cynyddol ymgyfreithiad camymddygiad (malpractice litigation) yn yr Unol Daleithiau.

Nid oedd unrhyw arwydd fod poblogrwydd operâu sebon yng Nghymru yn dirywio a pharhaodd Eileen i gynnal diddordeb y gwrandawyr.

'Roedd y papurau newydd, gan gynnwys y wasg Gymreig, yn cynyddu mwy a mwy yn eu poblogrwydd.

Nid trwy lyfr yn unig yr ymledodd hanes Trystan ac Esyllt, ac o gofio poblogrwydd golygfa'r 'oed dan y pren' yn y cyfryngau gweledol, hynod yw nodi na adawodd yr elfen bwysig hon yn y fersiynau cyfandirol o'r hanes unrhyw ôl ar lenyddiaeth Gymraeg.