Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

poced

poced

Yr oedd i'w glywed ym mhobman, mewn tŷ a siop, ar fynydd ac ar draeth, nes o'r diwedd i fasnachwyr llygadog weld cyfle i farchnata'r setiau bach i'w rhoi mewn poced a'u gwifrau'n cysylltu i gyrn ysbwng am y clustiau nes bod y gwrandawyr yn edrych fel pe baen nhw yn rhan o ryw 'dyrfa lonydd lan' a hanner gwen ar eu hwynebau a golau byd arall yn eu llygaid.

Plwmpo ac ail blwmpo'r gobennydd bach, a llyfnu ac ail-lyfnu'r macyn poced a weithredai fel shiten.

Gwyddai hefyd y byddai ei fam - fel rhyw fath o ymddiheuriad dros beidio â' i amddiffyn pan gosbid ef - yn gwthio chwecheiniog, neu hyd yn oed swllt, yn llechwraidd i'w law, ac roedd hynny'n ei blesio'n iawn ac yn tanseilio datganiad f'ewythr, "Wel, os na halwn ni ef bant i'r ysgol, rhaid ei gadw fe'n brin o arian a chadw disgyblaeth iawn arno." Pan ddechreuodd Dic fynd i Ysgol Ramadeg Derwen, i'r Dosbarth Cyntaf, roedd yn cael mwy o arian poced mewn wythnos nag a gawn i am fis pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth.

Credaf mai ParryWilliams a fathodd y term 'pryd poced' a fyddai'n cydio de a gogledd yn esmwyth ddigon.

Mae o faint hwylus ar gyfer poced a bag llaw er, efallai, y byddai rhai yn hoffi hefyd gyhoeddiad mwy cylchgronol gyda lluniau o wisgoedd, steils gwallt ac yn y blaen.

'Pa bleser sy 'na mewn rhedeg ras a'r wobr yn eich poced cyn cychwyn?' .

Rhannodd ei arian rhwng ei bedair poced a rhoi hances wen yn bigyn twt yn yr uchaf.

'Mewn cartref.' Pysgotodd am rywbeth mewn poced.

Cymerais y pwrs o'm poced, ei wagio ar fy llaw, a rhoi'r pwrs ar y bwrdd.

Bob wythnos pan ychwanegai'r ugain ceiniog a gâi yn bres poced at y swm oedd yno eisoes, teimlai fod ei freuddwyd ychydig bach yn nes at gael ei wireddu.

Synnwn i ddim mai dyna'r meicroffon yn eich poced chi rşan.

Yn awr mae plant yn cael mwy o arian poced nag a enillai ein tadau o gyflog mewn wythnos.

Beth sy'n fy nghyffwrdd i bob blwyddyn yw gweld plant yn cyfrannu eu pres poced eu hunain i'r gronfa a hefyd fel mae pobol sy'n aml heb lawer o bres eu hunain yn cyfrannu'n hael i Blant Mewn Angen," meddai.

Yn ystod ein plentyndod ni fyddai son y pryd hynny am wyliau tramor, ac ychydig, os dim, o arian poced a gaem.