Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

poen

poen

Ar ben trais ei gwr, poen ysgaru, cyfrifoldeb y plant ac amodau byw anobeithiol, yr oedd swyddog y dref yn ei gwrthod.

Yn ein hoes ni fe ellir ei anwybyddu: poen a phothelli yng nghwrs rhyw nerf ar un ochr y corff yw'r symptomau gweledig o hyd.

Mae'r poen a welwn ym mywydau plant a gafodd eu camdrin yn effeithio mewn rhyw ffordd arnom i gyd.

Enghreifftiau o hyn yw'r adeg pan fydd yn effeithio ar nerf y llygad; pryd y bydd pothelli yn ymddangos ar un ochr o'r talcen; neu ar nerf yr wyneb, pryd y bydd poen y tu cefn i'r glust a nam ar y tafod.

"Mi ddaru ni gychwyn yn ôl yn araf hefo'n gilydd," ebe Alphonse, "ond yr oeddwn mewn poen ofnadwy.

Hanes carwriaeth sydd yma ond carwriaeth sy'n llawn poen a chreulondeb a'r hanes wedi'i adrodd gan awdures brofiadol, Shoned Wyn Jones.

Ond am ba hyd y byddai'r wlad yn fodlon diodde'r poen?

Nofel y Mis emosiynol sy'n portreadu poen a chreulondeb cariad.

Dim ond poen a straen a'u llygaid gweigion ar rhyw orwel pell.

Yr unig wahaniaeth yr ydw i'n ei deimlo fel Cristion yw fod hynny'n eich gwneud chi ychydig bach yn fwy gofalus yn y ffordd, er enghraifft, yr ydych chi'n ffilmio rhywun sydd wedi diodde' neu'n ffilmio rhywun mewn damwain neu blentyn bach mewn poen.

Cei gic ddisymwth yng ngwaelod dy gefn ac rwyt bron â gweiddi mewn poen.

Poen yng nghwrs y nerf yw'r arwydd cyntaf ac fe all hwnnw fod yn ddirdynnol ...

Fe fyddai cwympiad y fertebra yn achosi poen yn y ddwy ochr ar hyd nerfau y lefel honno, ac fe allai pothelli ymddangos.

Mae celf sy'n ymwneud â maerion perthnasol, er enghraifft, â chynefin a hunaniaeth sydd dan fygythiad, yn perio poen.

Effeithiodd ar ewynnau ei war; ni allai ddal ei ben i fyny; byddai mewn poen mawr yn gorwedd neu'n cerdded, ac effeithiai ar ei olwg.

Ofn yr anwybod, ofn y duwiau - yr hyn a alwai'r Groegwyr gynt deisidaimonia; yr hen ofn hwnnw a fu'n llechu yn y galon ddynol erioed ac a fydd eto, bid siwr: ofn newyn, tlodi a dioddefaint; ofn poen, afiechyd a marwolaeth.

Felly, y tro nesaf y byddwch chi mewn poen, fe allwch arbed oriau o aros yn lle'r meddyg drwy eistedd i lawr a chael sbloet iawn o grio.

Yn ystod y gawod dechreuodd y chwaraewr oedd wedi ei anafu deimlo'n wan a chael poen yn ei ysgwydd chwith.

Gofynnais i feddyg eiddil o dan fwrn ei ddiferion chwys - mewn oerni unig ynglŷn â chyflwr claf arall - am ganiatâd i roi chwistrelliad o gyffur cry' i arbed poen i'r bachgen deunaw oed a oedd yn cynhyrfu am fod ei lygad de yn hongian allan o'i ffynnon goch ac yn gorffwyso'n flêr ar ei rudd lwyd; ac yn disgleirio yn las tuag ataf .

Heledd yn crechwenu'n ddwl yng ngafael y ddiod, Heledd yn wylo'n ddilywodraeth a hyll, yn nadu fel anifail mewn poen, a neb yn gallu torri drwy gylch ei hing i'w chysuro.

Ond roedd y llanciau mewn poen enbyd, yn enwedig yr un dorrodd ei goes.

Roedd yn gweiddi mewn poen wrth geisio symud, ond gan fod ei gyfaill mewn cyflwr gwell, fe lwyddodd hwnnw i lusgo'i hun yn ôl at geg y ffordd.

Caeodd ei lygaid mewn poen ond wnaeth o ddim gweiddi unwaith.

Yn ogystal â lliniaru poen y galarwyr, mae'r tân yn puro, yn diheintio ac yn rhwystro afiechyd rhag ymledu.

"Does gen i ddim poen o gwbl yn fy nwylo rwan." Ond wedi gollwng gafael yr oedd o, heb sylweddoli hynny.

Fe'm cadwyd o'm gwaith am bron pythefnos ac roeddwn yn anghyfforddus iawn ar droeon, ond wedyn fe ddiflannodd y poen yn llwyr trwy lwc.

Mewn hen bobl mae'r poen ambell dro yn parhau am flynyddoedd.

Ar yr un pryd rhaid tywallt arian i'r ymchwil wyddonol am ffyrdd effeithiol i leihau poen.

Ac yn y parodi hwn, fel yn y gerdd futholegol ardderchog 'Drudwy Branwen', 'sanctaidd epistol poen' sy'n cael ei ddarllen, ond trwy ddrych mewn dameg.