Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

poeri

poeri

Oes aur y dica/ u oedd blynyddoedd canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a threuliodd Ieuan Gwynedd - gyfran helaeth o'i oes yn ymladd am ei anadl, yn tuchan a phesychu, ac yn poeri gwaed.

Os na fedr yr Almaenwyr yna fynd â'r bwyd oddi yno wnân nhw byth gredu y medrwn ni wneud hynny." Dechreuodd Marie ail rwbio'r pistol â darn o glwt budr, ac am hir nid oedd sŵn yn yr ystafell ond sŵn y tân nwy yn poeri weithiau.

Dyna'r dasg nesa.' Yr oedd ei frawddegau mor fyr â'i gamau, a'r geiriau'n cael eu poeri allan fel pe bai ei larings yn beiriant moto beic.

A'r funud honno, fel tae o'n gneud ati, ymddangosodd Malcym yn chwil o ganol y das wair, yn pesychu, tagu, tishian, rhochian, poeri a mygu am yn ail.

Bydd gwisgo esgidiau newydd mewn gornest bwysig yn anlwcus iawn a rhaid poeri yn y menyg cyn cychwyn ymladd.

Taniodd wyth o ynnau'r Spitfire ar unwaith fel dreigiau yn poeri tân.

Cydies yn y sosban, a honno'n poeri saim dros y carped a'r llawr, a'i thaflu allan drwy ddrws y cefn; yna rhwygo'r llenni oddi ar y ffenest, a'u stwffio o dan y tap dwr.

Talfan ar y blaen yn poeri fel cath, a'i fintai filwriaethus yn nyddu o'i gwmpas fel newyddiadurwyr o gwmpas eilun pop.

Mae'r peiriant yn llyncu'r cerdyn ac yn poeri tipyn o bapur allan.

Mae'r nosweithiau Bingo yn gwella, ar y dechrau roedd y plant yn wyllt i'r eithaf bod un wedi poeri arnaf, ond nawr mae pethau wedi tawelu ac mae'r plant a'r oedolion yn mwynhau.

Pan ystyriwyd y gwahanol feddyginiaethau i wella'r dolur, nid oeddynt ond megis poeri ar gornwyd i geisio'i wella.

Yr oedd y Clybiau Ffermwyr Ifanc yn dysgu'r aelodau bod angen golchi pyrsau'r gwartheg cyn dechrau godro, ac nad oedd wiw poeri ar gledr y llaw i wlychu teth y fuwch i'w stwytho.