Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

poethi

poethi

Dylaswn fod wedi dweud eu bod yn gorfod iwsio dwr hefo'r tyllu yma er mwyn cadw'r ebill rhag poethi.

"Mae pethau'n dechra poethi erbyn hyn," meddai, yn ei ffordd gyfeillgar, "Ddowch chi ddim draw i'r ysgol nos 'fory?" 'Does gen i ddim llawer o awydd." "Mi faswn i'n licio i chi fod yno pan ddaw Lewis Olifer a Deilwen Puw am y tro cynta'." 'Fyddan' nhw yno nos yfory?" "Byddan.

Fel yr oedd teimladau'n poethi, a pherygl i'r Rhyddfrydwyr dynnu'n ôl, daeth yr Henadur William George i'r adwy ac apelio at ei blaid ail ystyried a rhoi'r Ymgyrch, fel yr awgrymasai Plaid Cymru, yn llaw mudiad unol nad oedd yn rhwym wrth na phlaid nac enwad, cyngor na mudiad o unrhyw fath.

Pwrpas y ffwrnais oedd poethi'r platiau fel y gellid eu rowlo yn y pâr rowls.

Mae ffôns y ddau yn dechrau poethi wrth iddynt ill dau ddechrau colli amynedd a ffonio bob yn ail, bob yn ail munud.