Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pont

pont

Er enghraifft, yn y de a'r gorllewin, penododd Lingen dri is-ddirprwywr, William Morris, cyn-ysgolfeistr, a David Lewis, a David Williams, aelodau o Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.

Yr ochr arall i'r lon i giat y Pandy mae fferm Glanrafon, ac ychydig i fyny oedd y Bull Inn, a gedwid gan John Thomas, a pherthynai y dafarn yr amser honno i Mr Lambert, gwr bonheddig oedd yn byw yn Tanygraig, Traeth Coch, ac mae gennyf gof amdano yn dod i'w oed yn un ar hugain, yn cael ei dynnu mewn cerbyd gan ddynion ifanc, ac rwy'n cofio bod pont o flodau ger y Pantom Arms.

Pont newydd Cleddau yn disgyn gan ladd pedwar o weithwyr.

Dringasom i fyny o'r heol sy'n arwain i Landysul yn ymyl pont y rheilffordd sy'n ei rhychwantu, gan daro'n lwcus ar un o gyn-weithwyr y rheilffordd, yn pladuro godre'r embancment.

Cyhoeddir y papur hwn yn ystod Eisteddfod yr Urdd a gynhelir yn Llanbedr Pont Steffan ym Mehefin 1999 - ychydig o fisoedd cyn diwedd y mileniwm - a'n dadl yw y bydd angen brwydr newydd i ddatblygu ysgolion gwledig fel canolfannau addysg i gymunedau lleol.

Llongyfarchwyd Cangen Caernarfon yn gynnes iawn ar ennill y rownd derfynol o'r Cwis Llyfrau yn Llanbedr Pont Steffan.

Islaw Pont Llangefni mae'r afon yn llifo'n araf a dioglyd ar draws Cors Ddyga a Morfa Malltraeth i'r môr.

Symudwyd hi i Lanbedr Pont Steffan yn y ganrif ddiwethaf ar ol agor gorsaf reilffordd.

Yr adeg hyn aeth pont yr Hendre i lawr o dan wagen a llwyth o had alffalffa, a bu i'r gyrrwr a'r ceffylau farw yn y ddamwain; o'r herwydd 'roedd rhaid i Mrs Freeman fynd mewn cerbyd at yr afon, croesi ar y bont droed gyda'r basgedi menyn, a chael menthyg cerbyd Thomas Pugh i fynd at Drelew.

Agor Pont Hafren.

Yn rhugl mewn sawl iaith, daeth draw i Gymru ryw ddeng mlynedd yn ôl a dysgu'r Gymraeg yn Llanbedr pont Steffan.

Pan ddaw cwsg i gau'm hamrannau Crwydra'm hysbryd dros y bryn, Hoffa ddianc at y blodau Dyf o bobtu Pont y Glyn.

Arddangoswyd ei waith yn yr Eisteddfod Genedlaethol - yn Ynys Môn, Llanbedr Pont Steffan a'r Rhyl - a chafodd arddangosfeydd yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw a Gregynog yn ogystal â sylw mewn cyfnodolion a chylchgronau.

Mae Cwmni Gwerin Pont-y-Pwl yn ceisio cadw'n fyw diwylliant a thraddodiad dawnsio mewn arddangosfeydd, twmpathau a gwyliau gwerin.

Gyda chymorth ariannol ei dad-yng-nghyfraith - anghrediniwr di-gapel, gyda llaw - dilynodd tad Euros gwrs addysg am dair blynedd yn Ysgol Baratoi Pont-y- pridd a Choleg Coffa, Aberhonddu.

Agor Pont Britannia dros y Fenai i gario trenau a moduron.

Cofio cerdded rownd pont y llyn ambell i noson yng nghwmni Ieu Glyndwr annwyl, a cherdded nôl ar hyd y ffordd cyn dod y ffordd osgoi, a sylweddoli yn sydyn yn nhrymder distawrwydd y nos fy mod i'n gallu clywed sŵn hen afon Prysor yn canu yn y Cwm.

Roedd hi'n dawel iawn y prynhawn hwn, y tawch yn cynyddu, tomenydd Elidir fel crwbanod enfawr, er efallai bod yna amryw o ddringwyr yn crafangu ar greigiau'r Glyder Fawr o gwmpas Pont y Gromlech.

DAVIES fydd ar grwydr yng Nghlwyd, ORIG WILLIAMS ym Mae Colwyn, RAY GRAVEL yn Aberystwyth, JENNY OGWEN yn Llanbedr- pont-Steffan, ELIN RHYS yng Nghaerfyrddin, JOHNNY TUDOR yn Hwlffordd, KEVIN DAVIES yn Abertawe a GILLIAN ELISA yng Nghaerdydd.

Y buddugol yn ein cystadleuaeth arbennig ar gyfer Diwrnod y Llyfr yw Linda Davage, Brook Cottage, Little Mill, Pont-y-Pwl.

Efallai taw'r gwirionedd hwn sy'n gorwedd wrth hanfod llwyddiant Eglwys Glenwood i sefydlu pont mor effeithiol rhwng pethau'r nef a phethau Pentwyn.

Dywedir i Gadog fod yn berchen ar ddarn o dir ar lan yr afon Liffey, yr afon y gorwedd Brên drosti er mwyn ffurfio pont i'w wŷr.

Tynnodd ei sbectol a gwasgu pont ei drwyn â'i fys a'i fawd.

Ond ymrôdd hefyd i wella safon addysgol clerigwyr ei esgobaeth, a rhan o'r ymroi hwnnw oedd ei ymgyrch i sefydlu coleg i hyfforddi darpar offeiriaid yn Llanbedr Pont Steffan.

Llanbedr Pont Steffan oedd cyrchfan miloedd o ieuenctid wrth i'r wyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop gael ei chynnal.

Rai misoedd wedyn daeth yr Iacha%wr Carismatig, y Parchedig Peter Scothern, i ardal Llanbedr Pont Steffan i bregethu'r efengyl ac i iacha/ u cleifion.

Pan oeddwn i'n ddeunaw oed, a chyn i'r rhyfel dorri, fe es i Goleg Dewis Sant, Llanbedr Pont Sterffan ac ar ôl graddio, mynd ymlaen wedyn i ddarllen diwinyddiaeth a dysgu'r grefft o fod yn berson plwy yng Ngholeg San Mihangel, Caerdydd.

Gwyddom i Seisyll, abad Ystrad Fflur deithio i Lanbedr Pont Steffan i gyfarfod â Baldwin, archesgob Caergaint pan ddaeth hwnnw ar ei daith enwog trwy Gymru i bregethu'r Drydedd Grwsâd.

(c) Pont Rhyd Hir, Ffordd y Cob, Pwllheli (Dygwyd yr eitem hon gerbron fel mater o frys ar ardystiad y Cadeirydd oherwydd y derbyniwyd llythyr gan Gyfarwyddwr Priffyrdd y Cyngor Sir ar ôl i'r rhaglen gael ei hanfon at yr aelodau a'r brys i ymateb).

O flaen y trên roedd Pont yr Undeb, lle y rhuthrodd aelodau o'r pwyllgor Streic o Ysgol y Gweithfeydd Copr wedi iddynt glywed am yr helynt.

Pont yw'r adran hon sy'n mynd â Geraint a'i wraig i Gernyw, ei dreftadaeth a'i deyrnas ei hun, a pharatoir y llwyfan, fel petai, ar gyfer y wir stori, ymddieithrio'r arwr oddi wrth ei wraig a'r cymodi ar y diwedd.

Y mwyaf nodedig ohonynt yw Pont yr Ymherawdwr Charles.

Agor Pont Cleddau.

Yr oedd Pont Myrddin ('Merlin's Bridge') yn agos i'r lle y cawsai fy mam ei geni yng nghyffiniau Hwlffordd yn neau Sir Benfro.

Yno, byddai'n ofynnol i ni gael dogfen arbennig er mwyn croesi pont i gyfarfod â'r gwrthryfelwyr yr ochr draw.