Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pontio

pontio

Bywyd y Cymry a ymfudodd i Benbedw ar dro'r ganrif a gyfleir yn I Hela Cnau Marion Eames - y fwyaf darllenadwy o'r holl nofelau hanes, a chan ei bod yn ymdrin a chyfnod y mae atgofion amdano wedi'u trosglwyddo'n deuluol i'r awdures, mae'n pontio rhwng y nofel hanes a'r nofel gyfoes.

Nid pontio'r canrifoedd oedd yr unig ddigwyddiad o bwys i Gymru.

Mae'n pontio hanes y Cread - a mwy - oherwydd mae'n agor gyda'r paratoi ar gyfer y creu ac yn olrhain gweithgarwch Crist hyd at yr uchafbwynt pan fydd yn rhoddi'r Deyrnas i Dduw'r Tad.

Ychydig yn uwch i fyny mae Camddwr neu Camau'r Bleiddiaid, bwa naturiol o graig yn pontio'r afon lle'r arferai'r bleiddiaid, yn ôl traddodiad, groesi'r afon o'r mynydd i glydwch y cymoedd pan oedd y tywydd yn arw.

Yn ei cherdd Cusan Hances, sy'n un o ddwy gerdd o deyrnged i'r diweddar RS Thomas, mae Menna Elfyn yn pwysleisio'r gred mai pontio ieithoedd - ac felly pobloedd - mae cyfieithu ac nid difetha'r farddoniaeth wreiddiol.

trwy nodi sut y gellid cryfhau statws y Gymraeg yn y gymuned leol a thrwy geisio pontio'r agendor rhwng y Cymry Cymraeg a'r Cymry di-Gymraeg lle mae hyn yn berthnasol.

Yna, cynigwyd y syniad fod 'pontio' yn digwydd rhwng y ddau ffurfiant - y tro hwn, yr oedd y broses yn fwy nag adlewyrchiad.