Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

popeth

popeth

Rown i'n meddwl y bydde hi'n newid trefn nifer o bethe - o leia yn cael gwared ar gader Madog - ond na, roedd hi am adel popeth fel yr oedden nhw, am y tro.

Byth er y dydd hwnnw y bu'n dyst anfodlon i foddi Betsan, mynnai'r hen wreigan ymwthio i'w ymwybyddiaeth, yn enwedig pan dueddai i'w gysuro ei hun fod popeth yn llaw Duw.

Roedd popeth arall wedi newid yma, a hen gelfi wedi cymryd lle'r holl foethusrwydd a berthynai i'r bwthyn pan oedd yn gartref i'w chwaer.

Hen lanc yw e, ond ma fe'n gweld popeth, ac fe alwodd arna i noson yr angladd, pan own i ar fin mynd draw i gydymdeimlo a Luned, a gweud y gwir.

Rhwng popeth cyfnod go ddiflas fu'r pumdegau i Harri Gwynn y bardd.

Mae rhywun yn barod i ddatgelu popeth i ti, a byddi di yn y lle iawn ar yr amser iawn.

Gwadu popeth y mae o, ond waeth iddo heb.

'Roedd popeth mor binco, a finna mor nerfus rhag gneud dim o'i le; y canlyniad i mi droi cwpanaid o de am ben y llian.

Ond fe gollir popeth a fu'n werthfawr erioed gennym yng Nghymru os â Hitler ymlaen i ychwanegu eto at y galanastra a wnaed ganddo'n barod; ni buasai'n bosibl i mi nac i tithau, gyfaill, a fagwyd yn nhraddodiadau rhyddfrydig a dyngarol Cymru, fyw o gwbl mewn unrhyw wlad a orchfygwyd ganddo ef na chan Mussolini lwfr na chan Franco grefyddus.

Dadfeilio y mae popeth o wneuthuriad dyn, a thyfiant naturiol yn adfeddiannu hynny sy'n weddill o'i diriogaeth wreiddiol ...

Yr oedd popeth o'i chwmpas yn tynnu ein sylw.

Roedd popeth yn dawel ar lan Afon Ddu a dim i ddangos fod ganddi gyfrinach.

"Popeth yn iawn,' meddai fy Nhad-yng-nghyfraith, "Mi â' i â chi i orsaf Euston.' A dyma gytuno ar hynny.

Roedd yna ieithoedd eraill i'w clywed yn y ffilmiau ond roedd hi'n amhosibl mynd i weld popeth, hyd yn oed i'r ffilm byff mwyaf ymroddedig a symudol.

Yn awr, trwy'r ffenest, fe pe'n croesddweud popeth a ddywedais eisoes, dyma dŷ ar ei ben ei hun gyda mur o'i gwmpas - tŷ tua'r un maint a'n tŷ ni gartref.

O gael ei rhyddhau ar brawf o garchar maen fwg ac yn dân dros wneud popeth i'w hamddiffyn - yn bennaf trwy dywallt arian i gartref cwn y mae Kevin Shepherd (Ioan Gruffudd) yn ei redeg.

Ond nid yw popeth yn farw, fe heidia'r adar i'w brigau i chwilio am yr wyau a ddodwywyd gan y trychfilod a fu'n byw yno yn ystod misoedd yr haf.

Tra mae Dick Chappell yn gynnil yn ei ddefnydd o ofod a lliwiau, fel petai am dynnu popeth i mewn i fyd bach agos ato, mae lluniau'r artist hwn yn rhoi argraff gyffredinol o ehangder.

Rwyf wedi arfer a'r hyn a elwir yn "amser Celtaidd" - h.y. popeth yn hwyr.

Fuasai swyddogion Horeb yn caniata/ u?' A dyma'r hen frawd yn ateb ar unwaith â llawenydd y byddai popeth yn iawn, am iddo alw cyfarfod.

Roedd hi'n amhosibl adnabod y cynhwysion gan mor gyflym y digwyddai popeth, a'r crochan fel pe bai yn codi lathen neu ddwy o'r llawr i'w derbyn.

Teimlad fy mod yn un o'r elite wrth gerdded gyda fy security pass yn fy llaw i lawr y stryd syn arwain at yr hen adeilad mawr sy'n talsythu uwchben popeth araill.

Fel pe na byddai hynny yn ddigon i wneud i rywun roi ei ddwylo yn ei boced i wneud yn siwr fod popeth yn dal yn ei le, wele luniau graffig o ffariar yn ymosod â chyllell ar geilliau ci er mwyn tawelur anifail.

'Rydan ni'n gyfoethog, Siân!' gwaeddodd Tudur toc, wedi anghofio popeth am ginio a'r cerydd fyddai yn eu disgwyl yn y garafân.

yn y stryd roedd popeth yn dawel ar ôl y ddawns swnllyd.

Neidiais ar fy nhraed gan anghofio popeth am y Coco Pops.

Ar ôl yr holl weithio ar olwyn, mor falch fyddai y saer coed o weld popeth wedi eu ffitio i mewn yn hwylus yn y diwedd.

Pleser i'r gof hefyd ddydd y tynnu oedd fod popeth a wnaeth yn gweithio er daioni.

Yno y digwyddai popeth.

LIWSI: 'Sai moyn rywbeth fel'ne, er mwyn popeth.

Mi wn eich bod chi yn blant da, ac yn gwneud eich gore, ond arnaf i y mae popeth yn dibynnu, os digwyddai rhywbeth i mi, dyna ni i gyd yn dioddef.

'A rhyw ddiwrnod, mi rydw i am fynd i fyny i'r wyneb i weld popeth drosof fy hun.'

Mae Cymru wedi gwneud popeth oedden nhw'n moyn wneud - sef cyrraedd y rownd gyn-derfynol.

mae'r llyfr yn cynnwys popeth fyddech chi'n ddisgwyl mewn cyfrol o'r fath - yr holl straeon chwedlonol am antics meddw, ar blerwch alcoholaidd oedd yn fygythiad i yrfar grwp yn y dyddiau cynnar.

[Trysorir popeth; dychwelir popeth - Gol.] Er mwyn hybu'r achos, comisiynodd Gerallt rhai o feirdd y Talwrn i gyfansoddi pennill graffiti un tro a dyma un ymgais gwerth chweil:

Ond uwchlaw popeth, cyfle i'n cyflwyno ein hunain o'r newydd i Dduw.

R: Mae pawb wedi dweud popeth reali.

Roedd popeth yn y ddau ddrâr yn ei ddreser yn gorwedd ar y llawr fel carped ychwanegol, ac roedd popeth wedi cael eu torri; ei gloc, ei lestri, ei deledu a'i radio.

Ond yn brigo i'r wyneb yn Nolwyddelan, er gwaethaf popeth, yr oedd yr hen falchder ym meibion Owain Gwynedd o ddyddiau Iorwerth Drwyndwn.

Mae hi'n dweud yn un ohonynt fod popeth a ddywedais i am greulondeb y rhyfel yn wir ond nad oedd hi'n ddigon hen i amgyffred ar y pryd.

Ac yn sydyn, popeth yn sefydlogi ac yn caledu, a'r goleuni rhyfedd yn llithro i ffwrdd.

Roedd Llio wedi anghofio popeth am ei haddewid ond gwyddai nad oedd pwrpas protestio.

ac, fel mater o ffaith, os cyfaddefir bod rhyfel amddiffynnol yn gyfreithlon yna fe ganiateir popeth, oblegid onid yw'n ofnadwy o beth fod pedwar ar bymtheg allan o ugain o'r rhyfeloedd mwyaf erchyll sydd wedi gorlifo'r ddaear â gwaed wedi cael eu hymladd i'r pwrpas hwnnw, neu o leiaf fel esgus am hynny ?

Yma, hefyd, yr oedd aelodau ar fin gadael, y digwyddais alw yn ystafell y merched, a gweld mor gymen a thwt yr oedd popeth wedi ei drefnu ym mag dillad Nesta.

Cymer Hiraethog gyfrifoldeb am y rhannau hyn o'i waith; ysgrifenna fel petai'n agos iawn ato ac yn gwybod popeth amdano.

"Wel, dyna wynebgaled, yn dwad yma a ninne ddim yma, a chwalu popeth fel hyn.

Ond fe newidiodd popeth ar ol tri deg chwech.

Aeth popeth yn hwylus am flwyddyn, yna cafodd y peilot - a oedd yn ūr priod - lond bol ar y ferch a dywedodd wrthi am adael.

POPETH YN EI LE

Popeth, popeth yn fendigedig.

Dyden ni ddim yn deud popeth wrthyt ti.

Roedd yna reswm arall, ond ni allaf egluro popeth mewn llythyr.

Mae'r manylion fel petaent yn toddi yn y tarth, ond mae popeth yno.

"Am dy fod mor anesmwyth, mae popeth o dy gylch di yn dlawd."

'Wales' oedd popeth ac aeth ymlaen i'n cyffroi ni drwy wawdio pob un o chwaraewyr Lloegr yn eu tro gyda sylwade fel, "Larry Lloyd!

Mae o wedi rhoi popeth sy ganddo fo i Rygbi Cynghrair ac i St Helens a mae o am sialens newydd, medda fo.

Roedd paratoi ar gyfer 'powdwr mawr' yn fusnes costus iawn oherwydd byddai'n rhaid cludo popeth o werth i bellter diogel, a byddai'n rhaid i bawb a weithiai yn y ponciau islaw adael eu bargeinion nes byddai'r saethu drosodd a'r goruchwyliwr a'r arbenigwyr wedi eu bodloni ei bod yn ddiogel iddynt ddychwelyd.

Fe ddaeth y radd i'm rhan trwy gael gwahoddiad i weld seremoni wobrwyo yno, lle mae merched yn cael eu hyfforddi i wneud popeth o drafod kalashnikovs a hedfan awyrennau i danio taflegrau.

Un fel yna oedd Bleddyn, uwch ben ei ddigon pan oedd popeth yn mynd yn iawn ond yn ddigalon os nad oedd yn llwyddiannus.

Effeithir popeth gan y pwyslais newydd ar 'enaid': mae'r profiadau a barodd i'r bardd arddel Iesu fel dyn wedi troi'n foddion iddo ei goleddu bellach fel ymgorfforiad o Gariad ac fel esiampl i'w efelychu.

Derbyniodd Ali'r esboniad nes i'r heddlu alw chwarter awr yn ddiweddarach gan ofyn a oedd popeth yn iawn.

Wedi dychryn mae e Aeth Mali, ei fam, i'r Infirmary neithiwr.' Ni bu ganddi erioed awydd na dawn i siarad â phlant bach lleiaf y Teulu, ond nawr roedd Amser ei hun fel pe bai wedi sefyll o'i chwmpas a chlywodd ei llais ei hun yn cysuro'r un bach: 'Mae popeth yn iawn, Robin, bydd dy fam yn dod 'nôl atat cyn bo hir.

Erbyn hynny, roedd y cwbl yn prysur droi'n hunllef o'i chwmpas, er bod popeth wedi mynd yn iawn ar y dechrau, yn ôl y cynllun a fu ganddi yn ei phen wrth ymadael.

Magwyd ef yn y cyfnod braf gynt, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, pan feddylid fod popeth yn gwella wrth ei bwysau, a'r unig beth y disgwylid i bawb o'i gyfnod ei wneuthur oedd cadw'u dwylo ar yr olwyn.

Roedd y goeden wedi tyfu o ffynhonnell popeth a'i changhennau uchaf yn ffurfio'r ffurfafen.

Ond rydw i'n dadlau, beth bynnag ydi'r ddyfais, does dim rhaid iddi wneud popeth.

Ond wrth fynd drwy'r rhes negeseuon ar y peiriant ateb wedi dychwelyd i'm gwaith clywais lais Ffrengig Claudie Moyson yn fy atgoffa imi gytuno i ofalu am ‘gynrychiolaeth' o Lydaw fyddai'n dod i Gaerdydd i ddysgu popeth am deledu lleiafrifoedd.

Ffordd arall o osod hyn yw dweud eu bod wedi ei weld sub specie aeternitatis: ond ffordd goeg o'i osod ydyw hon, oni chofir fod y weledigaeth yn cyplysu ag ystad enaid - ystad a all fod yn ffynhonnell y weledigaeth neu a all fod yn ganlyniad iddi - ond ystad na all y sawl a'i meddiannodd neu a feddiannwyd ganddi beidio a'i thrysori uwch law popeth arall.

Gwrando,'ngwasi, paid ti a choelio popeth ma' nbw'n 'i ddeud.

fyddwn ni ddim yn gwybod popeth am arweiniad Duw ar ddechrau siwrnai.

wrth godi i groesawu fy nghyfaill, nad oedd y dinc arferol yn ei lais, a phan ddaeth ymlaen i'r golau canfu+m ar unwaith nad oedd popeth yn dda.

Roedd popeth o bwys iddo yn y bocs bach hwn.

Estynnodd ei dorts o'r cwpwrdd-cadw-popeth a chamu tua'r drws ar flaenau'i draed.

Ond ein hargymhelliad cryf i lywodraethwyr yw y dylid trefnu popeth posibl - gan gynnwys pob cynllunio strategol - ar lefel clwstwr o ysgolion.

Yr oedd popeth ynddi y dylid ei weld ar gae rygbi, heb yr ymgecru, yr ergydio a'r pystylad a ddigwydd yn rhy aml.

Yr oedd John Thomas, Lerpwl, yn gweld popeth y gellid ei ddisgwyl mewn sant ac arwr hanesyddol yn Penri.

'Popeth yn iawn Gwen?'

Rhoddai'r argraff fod popeth a wnâi ac a ddywedai cyn bwysiced â dim a gyfrannodd erioed, a'i fod yn anrhydedd o'r mwyaf iddo gael ei roi ac i arall gael ei dderbyn.

Ymhen ychydig daeth y Capten a gofynnodd: "Popeth yn iawn ?

Dim ofn, er mwyn popeth, dim ofn, ofn fuasai'r teimlad mwyaf anaddas nawr.

o'u hastudio'n fanwl gwelwyd fod popeth perthnasol i'r ddau linyn a oedd yn cael eu hasesu eleni yno.

Mae popeth gan hon.

Ni allai ddeall, canys yr oedd popeth a ddymunai naill ai ganddo eisioes neu ara ddyfod iddo o'r pridd di-feth.

'Ody popeth 'da ti'n barod?'

Nid yw hi'n bosibl gweld popeth a ddigwydd mewn sgrym na ryc o'r eisteddle, ond yn sicr fe'i hystyrid hi'n ornest lân.

Roedd Mam wedi styrbio braidd hefyd, rhwng popeth, ond doedd fiw iddi ddangos hynny.

Mae Mai yn fis prysur ond, o ddefnyddio'r amser i wneud popeth yn ei dro, ni fydd yn rhaid rhuthro o gwmpas yr ardd.

Ma nant barablus yn 'i ymyl e, a thylluanod yn pwyllgora yn coed-cefen-tŷ wedi iddi hi nosi, a phe bai popeth yn iawn, fe fyddwn i wedi cynghori Luned i adel y lle a mynd i fyw i rywle arall.

Hawdd colli popeth.'

A Saesneg oedd iaith popeth a ystyriwn yn werthfawr mewn bywyd, yn enwedig fy llyfrau, ac yr oeddwn erbyn hyn wedi tyfu'n dipyn o lyfrbryf Ac wedi dechrau sgrifennu hefyd .

Yng Nghymru gellir maddau popeth ond bod o ddifri ynglŷn â'r iaith.

Roedd popeth yn Ewropeaidd ganddo'r dyddiau hyn.

Hi oedd modd cludiant popeth o gerrig i lwyth o ddodrefn ar adeg mudo ym mân dyddynnod y mân bentrefi.

Roedd popeth yn ôl y disgwyl ar hanner amser - Y Barri ar y blaen gyda gôl Gary Lloyd wedi 16 munud.

Roedd popeth wedi'i arwisgo ag arlliw o lwyd gan y lleuad lastwraidd.

Mi wawriodd popeth arna i.

Fe aeth popeth yn dda wedyn.

Eu llosgi'n ulw a'r mwg yn ymlwybro hyd y bryniau fel trafaeliwr angau yn sūn clindarddach y fflamau, nes bod popeth a phobman yn ddu, y tân sy'n llosgi'r cyfan yn fud a'r holl sioe yn stopio'n bwt ym môn y clawdd terfyn.

Popeth yn mynd yn hwylus drwy'r dydd a charad ar ôl carad o wair yn mynd i mewn i'r gowlas.

Fel pob gwyddonydd, mae cemegwyr yn gwneud popeth i osgoi peryglon diangen.