Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

porthi

porthi

'Cynnwys meddyliau, croesawu ysbrydoedd, ymwthio, saethu, perchi ystlumod, ymlid gwynt, porthi cnawd, turio am oferedd', ac elfen drosiadol gref iddynt yn ogystal.

Roedd pawb yn porthi'n gytun "Yes Champ" "No sweat Champ" "Champ, you would box his head off".

Ond gan iddynt fod yn dyst i wyrth porthi'r pum mil digon anodd yw deall eu syndod, ac anos yw deall eu caledwch a'u dallineb ysbrydol.

'a byddai pregethau lu ar ei gof yn cael eu gweu yn sgwrs ddiddorol, tra byddai nhad yn porthi yma ac acw fel bo cyfle, a chario ymlaen â'r gwaith yr un pryd.

Mae Yma o Hyd Angharad Tomos yn hawdd ei darllen a'i deall, ond nid yw'n debyg o fod yn boblogaidd am nad yw'n porthi dychymyg y gynulleidfa gyda'r stereodeipiau ystrydebol.

Gwyddai'r bugail yn dda am y boen o weld praidd newynog yn chwilio am borthiant a heb ei gael; gwyddai hefyd na chaent eu porthi oni ellid darparu ar eu cyfer yr Ysgrythur yn eu hiaith eu hun.

Dduw: Gwae fugeiliaid Israel y rhai sydd yn eu porthi eu hunain; oni phortha y bugeiliaid y praidd?

A phan eir ati o ddifrif i argyhoeddi dynion mai gwastraff o adnoddau ymborth prin yw porthi anifeiliaid i'w bwyta, yn hytrach na bwyta'r llysiau a'r blawd a borthir iddynt yn uniongyrchol, byddai gwrthwynebu'r ymdrech, o'm safbwynt i, yn amhosibl.

Cytundeb tebyg a adlewyrchir mewn llinell megis 'Dau fonedd a dwf uniawn' a'r llinell rymus honno am y ddau o fewn eu plasty 'yn porthi holl Gymru'.

Rhwng hanes Gostegu'r Storm a hanes Yr Iesu yn Cerdded ar y Môr yn yr Efengyl yn ôl Marc ceir hanes Porthi'r Pum Mil.

Bu rhaid porthi hyd at fis Mai a bu llawer o alw am wair a silwair a'r pris yn dyblu mewn pythefnos.

Neu a oedd y Cymry yn adlewyrchu yn hyn o beth y brwdfrydedd a deimlid yng ngwledydd eraill Ewrop dros hanes y gorffennol pell a oedd yn porthi'r ymdeimlad o genedligrwydd?