Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

posib

posib

Petasa posib iddo fo brynu rhagor o lygada i rhoi yn i ben mi fasa'n gwneud hynny, er mwyn gwatsiad rhag ofn bod rhywun yn dwyn." A chwarddodd Jane Gruffydd.

Pan oeddwn yno yn nhalaith Efrog Newydd digwyddai fod cryn sôn fod disgynyddion y brodorion yn gwneud ymholiadau cyfreithiol i edrych a oedd posib iddynt gael eu tiroedd yn ôl, a doedd hynny ddim yn plesio y trigolion presennol.

Eisoes crybwyllwyd enw Bracknell fel lle posib.

Gan iddi basio'n syth drwodd, doedd 'na ddim posib astudio'r fwled ond fe gawson ni hyd i ddarnau bychain o'r metel ar y siaced.'

Nid oes posib clywed LIWSI o gwbl pan yw'n siarad ac nid yw GARI, sy'n gorwedd ar ei wely a'i lygaid ynghau, yn sylweddoli ei bod hi yno.) (Gwneud siâp ceg, yn gyflym) Helo Gorila.

Mae'r gwledydd mwyaf blaengar bellach yn buddsoddi'n drwm mewn ymchwil wyddonol sylfaenol, fel ernes ar gyfer datblygiadau posib yn y dyfodol.

Hefyd, doedd dim posib bellach i mi ddal i'w hanwybyddu.

Mae'r lle mor wahanol i bob man arall - 'does dim posib dirnad pa mor wahanol hyd nes yr ewch chi yna.'

Jenkins mai cyfaill iddo a glywodd yr 'ymgom hynod fer' rhwng y 'Doctor o Faconia' a'r Cenedlaetholwr o Gymro, a digon posib' mai Bebb ei hun neu Saunders Lewis oedd y Cenedlaetholwr.

Ond hwn oedd yr unig esboniad posib!

Wrth gwrs mae posib cymhwyso pob system bonws i gymryd pethau fel hyn i ystyriaeth; a dydw i ddim yn cael trafferth o gwbwl dygymod a'r syniad o dalu i athrawon am yr hyn maen nhw'n ei gyflawni - cyn belled bod y drefn yn medru mesur yn gywir werth eu gwaith a chymryd i ystyriaeth y cratiau mawr, anhwylus.

Mae'n ddigon posib y basa'n well gen ti fod yn frecwast i Caligwla na chael dy holi gan honna.

Gyda llais fel un Andrea nid oes posib methu gan ei bod yn rhoi hunaniaeth i'w cerddoriaeth.

'Mae Roy Jones yn dewis ei wrthwynebwyr yn ofalus ond mae nifer o ornestau sylweddol posib mâs yna ar hyn o bryd - gyda bocswyr fel Charles Brewer, Thomas Tate, Byron Mitchell a hefyd mae yna Almaenwr arall o'r enw Sven Ottke sy'n bencampwr yr IBF.

Mae darparwyr gwybodaeth yng Ngwynedd yn cydnabod yr angen i wneu y defnydd gorau posib o gryfderau a chyfleoedd ei gilydd yng ngwasanaeth yr hen bobl a phobl sydd ag anabledd.

Yr unig rwystr posib yw Undeb Rygbi Cymru.

mae'n eitha posib, fodd bynnag, y bydd y gymdeithas yn edrych tua'r cyfandir am y rheolwr nesaf.

Aeth John Hollins a'i dîm cryfa posib i'r gêm Gwpan Cenedlaethol yn Llansantffraid.

Fel Cymdeithas, bwriadwn wneud popeth posib i bwyso ar aelodau a staff y Cynulliad i gefnogi a gweithredu ein hargymhellion.

Roedd rwan wedi dod i Swydd Mayo, a doedd dim posib mynd yn bellach heb fynd i Fôr Iwerydd.

Y peth ydw i'n geisio'i ddweud ydi hyn: petawn i wedi mynd yn dwrne, neu yn athro, neu yn ocsiwni%ar, mae'n eitha posib y buaswn innau heddiw ymhlith y nifer fawr sy'n wfftio at y syniad o ysbryd, da neu ddrwg, ac at unrhyw fath o fodau sy'n gallu camu nôl ac ymlaen o'r byd yma i'r byd tu hwnt i'r llen.

Wrth gwrs, 'roedd eglwys hynafol Sant Dyfrig wedi ei gwasgu i gesail y mynydd ganrifoedd cyn hyn, ac yn ddiweddar bu rhywun mor ddifeddwl â gollwng 'sgubor o gapel Annibynwyr yn blwmp ar ganol y rhos yn y man mwyaf diarffordd posib'.

Os mai na fydd yr ateb, mae hi'n ddigon posib mai Gary Lloyd - y cefnwr chwith fel arfer - fydd y golwr nos fory.

Os ydach chi eisiau cop mae posib ei gael o siop Recordiau Spillers, Caerdydd neu drwy ei archebu am £1.50 a s.a.e. gan Brechdan Tywod, 8 Stryd Leopold, Caerdydd CF24 OHT - sieciau yn daladwy i Brechdan Tywod.

Er mwyn cyrchu at ein nodau gorgyffwrdd yn y modd mwyaf effeithiol posib, ymroddwn i weithio'n egniol tuag at greu rhwydwaith effeithiol o ddarparwyr, er lles y defnyddwyr a darpar-ddefnyddwyn.

Ceir deinamig cyson wrth i'r diwylliant dominyddol adgynhyrchu ei hun, ac i'r diwylliant sy'n is-raddol iddo ei wrthwynebu a'i wrthsefyll, gan ffrwyno'r datblygiadau posib.

"chilenos" efo'i drol ychen i ddod â digon o flawa, siwgwr a kerosene i'r lampiau erbyn y tywydd mawr, ac mi goliaf yn dda yr adeg y crisis nad oedd posib cael y diwethaf a gorfod gwneud canhwyllau efo saim adref.

Mae Tiger Woods yn mwynhau'r paratoadau gorau posib ar gyfer Pencampwriaeth Y Meistri yn Augusta fis nesa.