Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

posibl

posibl

Rhaid i wasanaeth da, sy'n anelu at yr ansawdd bywyd gorau posibl i'w defnyddwyr, roi pob anogaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth i wneud penderfyniadau yngl^yn a'u bywydau eu hunain.

Fy marn i yw mai'r hyn sy'n esbonio amrywiol gyfeiriadau ymchwil y Llyfrau Gleision yw bod y Llywodraeth, a chymryd pethau yn y modd symlaf posibl, yn awyddus i weld sut y gallai hi wella'i gafael ar ymddygiad y Cymry, ond fod Kay-Shuttleworth, ac efallai Symons a Johnson, yn awyddus i ddod o hyd i dystiolaeth ddigamsyniol dros sefydlu cyfundrefn o addysg wladol - ac nid i Gymru'n unig swydd.

Wrth wneud hynny bydd yn rhoi ei Frenin yn y lle mwyaf diogel posibl.) Felly dyna Gwyn wedi gwneud llawer mewn ychydig.

Parhaodd BBC Cymru i ddarparu llu o raglenni i'w dangos ar S4C wediu hanelu at ddifyrru ac ysgogir gynulleidfa ehangaf posibl.

Ond ni allodd fwyta ei chinio er iddo fod y gorau posibl.

Mae'n ddigon posibl mai hon yw'r genhedlaeth olaf o blant i gael eu magu mewn cymdeithas naturiol Gymraeg.

Y mae'n ddigon posibl, yn awr, y ceir apêl pellach, y tro nesaf i'r Llys Apêl, ac oddi yno i Dþ'r Arglwyddi.

Y mae tuedd ynom ni'r cyfreithwyr i ddefnyddio'r Saesneg ar bob achlysur posibl: wele Gyngor Tref Pwllheli, rai wythnosau'n ôl, yn cystwyo dau gwmni o gyfreithwyr o dref nid nepell (a'r partneriaid yn y ddau gwmni yn Gymry Cymraeg þ un o'u plith yn Brifardd Coronog!) am iddynt anfon llythyrau uniaith Saesneg at y Cyngor Cymraeg hwnnw.

Digon posibl eu bod yn rhesymau mwy materol a bydol efallai, ond eto roeddynt yn rhesymau cryfion.

Y dyddiad cyntaf posibl i gael pwyllgor oedd y dydd olaf o Awst, sef dydd Gwener, a gwelaf yn awr wrth edrych drwy'r ffeil am y cyfnod, yr hysbysiad o gyfarfod cyntaf oll y Pwyllgor Llyfrau Cymraeg: Is-Bwyllgor o'r Pwyllgor Addysg oedd hwn, fel y dywedwyd, ond sylwch mai'r Llyfrgellydd oedd yn ei alw, a'r Llyfrgell, nid y Swyddfa Addysg, oedd y man cyfarfod.

Rhan bwysicaf gwaith y gwleidydd yw ceisio sefydlu'r amodau i helpu pobl bob yn un ac un i fyw'r bywyd helaethaf posibl.

Ond ein hargymhelliad cryf i lywodraethwyr yw y dylid trefnu popeth posibl - gan gynnwys pob cynllunio strategol - ar lefel clwstwr o ysgolion.

Buasai'n dda iawn gan y Pwyllgor Gwaith weld y cynllun arbennig hwn wedi'i fabwysiadu ar gyfer Cymru, ac aed i drafod y dulliau posibl o'i hyrwyddo.

A oes yna unrhyw achosion eraill posibl?

Gwledda yw bwriad yr aderyn, ond gwasgaru hadau yn y modd rhataf posibl yw amcan y goeden.

Mi wnes i fy ngorau i gael y pris uchaf posibl ichi.

Mae'n rhaid gwneud yn siwr hefyd fod aelodau'r Cynulliad yn gwneud y defnydd helaethaf posibl o'r Gymraeg ac yn manteisio ar bob cyfle i wneud hynny.

Po leiaf o faeth sydd yn y ffrwythau, po fwyaf ohonynt fydd rhaid eu bwyta - a dyna wasgaru'r pecyn mwyaf posibl o hadau i'r pedwar ban.

Byddai hyn, meddant, yn sicrhau y rhyddid cyflawnaf posibl i Brotestaniaid yn y broydd lle maent yn y mwyafrif a'r un modd byddai'r Pabyddion yn mwynhau'r un rhyddid yn eu hardaloedd hwy.

Nid posibl cuddio na rhagoriaethau na diffygion Seren.

Diddorol hefyd yw cyfeiriad Llywelyn Goch at Hopcyn fel awdurdod ar 'braff[w]awd y proffwydi' o gofio am yr hanesyn am Lyndŵr yn ymgynghori ag ef ynglŷn â'r brudiau (mae'n ddigon posibl fod ganddo gasgliad ohonynt ymhlith ei lawysgrifau).

Yn y pecyn ac ar fwrdd bwletin NVQ Rheoli, bydd cyfle i drafod rhai o'r problemau sy'n codi o ddydd i ddydd ac i glywed am rai atebion posibl i'r problemau hynny.

Mae pwysau ar gwmni%au i werthu eu cynnyrch er mwyn gwneud arian ac mae'n nhw'n barod felly i ddefnyddio pob dull posibl o gyrraedd y farchnad.

A yw trefniadau'r ysgol yn galluogi disgyblion i wneud y cynnydd mwyaf posibl, gan sicrhau bod cwricwlwm eang a chytbwys ar gael, yn cynnwys y Cwricwlwm Cenedlaethol, addysg grefyddol, lle bo angen hynny'n gyfreithiol, ac unrhyw ddarpariaeth gwricwlaidd arall?

Fel y gwelir, ergyd y cynlluniau hyn yw tocio awdurdod y llywodraeth ganolog a rhoi'r mesur haelaf posibl o awdurdod i'r cynghorau lleol.

A yn ei flaen i awgrymu mai un ateb i'r dirgelwch yw fod y Llywodraeth yn ystyried Cymru fel maes posibl i leoli cyfundrefn arbrofol o addysg wladol.

Teimlai Nofa'n gyfforddus unwaith eto; pe bai'n unrhywun arall, mae'n ddigon posibl y byddai'n hapus.

Y gamp yw ffurfio'r gair hiraf posibl o'r saith llythyren, ac wrth gwrs mae'n rhaid i'r gair fod yn air iawn a'r sillafu'n berffaith gywir.

Mae ganddo sawl symudiad posibl.

Rhan o'n cynhysgaeth ni yw mawrygu'r iaith ac yr ydym yn dra dyledus i'r ysgolheigion hynny, fel Syr John Morris Jones, a'n dysgodd ni i geisio anelu at y safonau uchaf posibl wrth drafod yr iaith.

Yr AGORIAD gorau yw'r un sy'n eich galluogi i "ddatblygu% eich darnau yn y ffordd fwyaf effeithiol yn yr amser byrraf posibl.

Gwn iddo fod yn hapus yn ei gartref a chyda'i deulu ac er na chafodd ef ei hun gyfle, gofalodd fod y plant yn cael pob cyfle posibl.

Ac wrth sefydlu partneriaethau, y nod bob amser fydd sicrhau'r cydsyniad ehangaf posibl ac archwilio beth all pawb ei wneud i gyflawni amcanion penodol.

Fe'n cymhellodd inni fwynhau'n hunain ymhob dull posibl, ac i beidio â "chicio% Iwgoslafiaid, gan eu bod yn bobl syber a pharod eu cymwynas.

Y mae'n cynnig esboniad posibl ar ddistawrwydd Gildas ynghylch Arthur, ac ar y traddodiad amdano fel gormesdeyrn a rex rebellis, chwedl Caradog o Lancarfan, a geid yn yr Eglwys yn yr unfed ganrif ar ddeg.

Penderfynodd yr UNHCR, ynghyd â sawl asiantaeth a llysgenhadaeth, y dylai pob gweithiwr posibl adael y wlad.

Gyda chamera digidol a sgiliau technegol ei staff, mae'r Llyfrgell wedi creu'r delweddau electronig gorau posibl, o bob tudalen o'r llawysgrif hynod hon.

Mewn gwirionedd mae'n eithaf posibl mai'r ddalen o'r eiddynt yn y gyfrol hon yw'r agosaf y deuant byth i anfarwoldeb, o du'r ddaear beth bynnag.

Byddai'n dda gan y Pwyllgor gael cyfle i gyfarfod â'r Gweinidog Gwladol, gyntaf posibl, i drafod oblygiadau'r sylwadau isod.

Parhaodd BBC Cymru i ddarparu llu o raglenni i'w dangos ar S4C wedi'u hanelu at ddifyrru ac ysgogi'r gynulleidfa ehangaf posibl.

Yn drydydd, nid yw pobl ar hyn o bryd yn gwneud y defnydd gorau posibl o'r cyfleoedd sydd eisoes ar gael i ddefnyddio'r Gymraeg.

Dywedodd Cadeirydd S4C, Elan Closs Stephens: "Mae Awdurdod S4C wedi ymrwymo i fod yn agored ac o fewn cyrraedd y cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu, i roi cyfrif llawn am arian cyhoeddus rydym yn ei wario ar eu rhan ac i raglenni o'r safon uchaf posibl.

Hyn, i raddau, sy'n esbonio'r ymchwil brysur am ffynonellau dylanwadau posibl yn chwarter cyntaf y ganrif hon.

Ond yn union fel y mae angen y golygfeydd, y setiau a'r actorion eraill ar y rhan fwyaf o berfformiadau theatr i gadw diddordeb y gynulleidfa, felly y mae angen pob cymorth posibl ar y rhan fwyaf o athrawon a darlithwyr i ennyn diddordeb eu dosbarthiadau - yn arbennig mewn pwnc lle tuedda pynciau i fod yn gymhleth ac yn amhosibl eu datrys, yn ôl pob golwg, ac sydd hefyd mor wahanol i'n problemau ninnau yng Nghymru yn yr wythdegau.

Mae angen i'r BBC ddatblygu camau nesaf y broses o drosglwyddo BBC Radio Wales i FM ar fyrder, i'w wneud yn fwy cystadleuol, ac o ran radio digidol, gwna'r Cyngor bopeth posibl i gefnogi nod pendant BBC Darlledu o ddarparu BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru digidol ar yr un pryd â fersiynau digidol gwasanaethau rhwydwaith y BBC.

'Roedd y papur yn amlinellu'r dulliau posibl er cael mwy o reolaeth cynllunio tros ddatblygiadau oddi mewn ardaloedd cadwraeth - datblygiadau megis hysbysebion allanol a'i dod o dan reolaeth cynllunio.

Pan fu esgob Llandaf yn ei holi, flynyddoedd cyn hyn, am fod ei waith yn tramgwyddo rheolau'r eglwys, dywedodd Wroth wrtho, "Mae eneidiau'n mynd i uffern, f'Arglwydd, yn eu pechodau; oni ddylem ymdrechu ym mhob modd posibl i achub eneidiau?" Ac yn ei lyfr, Glad Tydings, rhoes Cradoc fynegiant eithriadol ddeniadol i'r genadwri Gristionogol, mynegiant sy'n rhoi awgrym inni o'r ysbryd a oedd yn ysgogi'r gweithgarwch o dan Ddeddf y Taenu.