Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

powdr

powdr

Maent yn dechrau gydag ychydig o bowdr, ac yn naturiol roedd raid i un fynd i nôl y powdr i'r magazine, lle'r oedd goruchwyliwr yn ei rannu, a llawer helynt a fu yn y fan honno eto.

Mae'r dynion hyn yn gwybod yn o dda faint o bowdr fydd ei eisiau i chwythu'r darn hwn o'r graig allan, ac felly y maent yn rhoi rhywbeth o gan pwys i fyny o bowdr ynddo ac yn gosod fuse, sef math o weiren wedi ei llenwi â phowdr, yr hon sydd yn tanio'n araf hyd nes y daw at y powdr, a dyna ergyd ofnadwy a'r graig i'w chlywed yn rowlio i lawr.

Mae llawer rheswm rhag i dwll 'fynd allan'; o bosib fod y fuse wedi torri, neu ei fod yn wlyb ac felly yn araf iawn yn llosgi, neu efallai nad yw'r ddau ddyn wedi ei osod mewn cyffyrddiad â'r powdr.

Yn ôl at y testun: wedi bod wrthi am amser yn tyllu, maent y penderfynu dechrau rhoi powdr yn y twll.

Wedi tyllu tipyn ar y cerrig bras sydd ar lawr maent yn llenwi'r twll o'r bron hefo powdr ac yna rhoi tipyn o faw i orffen ei lenwi ac yn ei guro i lawr er mwyn ei wneud yn airtight a thanio'r fuse yr un fath â'r twll mawr.

Fe wneuthum gwpanaid o goffi i mi fy hun tua'r un ar ddeg yma, hefo powdr llefrith.