Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pregethu

pregethu

O reidrwydd, pregethu athrawiaeth yn hytrach na phrofiad oedd hyn, o'r pen ac nid o'r calon.

A thrwy'r cwbl, y mae rhywbeth hoffus yn ei ddiniweidrwydd ac ni ellir ond rhyfeddu at ei ymgysegriad i waith canolog ei fywyd - pregethu.

Bum mewn cyfarfodydd pregethu yno amryw o weithiau yn gwrando ar rai o'r "Hoelion Wyth" a'r capel yn orlawn, a chanu bendigedig er nad oedd offeryn yno'r pryd hynny.

Wrth i mi baratoi'r ddarlith hon yr ymateb a gawn, gan y canol oed yn ogystal a'r hen pan soniwn am y testun, oedd 'Fe gefais siglo llaw ag Elfed' neu 'Fe glywais Elfed yn pregethu sawl tro', a'r son wedyn, bron yn ddi-ffael, am y llais swynol i'w ryfeddu a oedd ganddo.

Mae hi'n haws pregethu ar bwnc yr iaith yn gyhoeddus nag yn y cartra.

Yn yr Oriel, gellir eistedd mewn replica o Gapel Cildwrn a gwrando arno'n pregethu'n ysgytwol o'i bulpud.

Canmol a glywid gan bawb ar y pregethu.

Mae'r National Mineral Water Information Service yn pregethu y dylem yfed wyth gwydrad o ddwr y dydd.

Clywyd pregethu huawdl, teimladol, miniog ac apelgar gan Biwritaiaid fel William Wroth, Walter Cradoc, Vavasor Powell a Stephen Hughes.

'Gawsoch chi hi?' 'Ddim eto -' Honnai rhai mai dyma pam roedd y Priodor mor drwm ei lach ar drefi a byth a hefyd yn rhefru pregethu yn eu herbyn.

Mae'r gynulleidfa'n ddigon tene ar y gore, a doedd neb yn teimlo fel edrych ar Madog a chil i lyged bob tro y bydde'r ficer yn pregethu; ond roedd tŵr yr adeilad mewn cyflwr truenus, y glaw'n dod miwn drw'r to mewn manne, a wal y fynwent yn dylle i gyd - a deg mil yw deg mil.

Yn ogystal â bod yn rhagrith, yr oedd pregethu athrawiaeth yn aneffeithiol ac yr oedd hyn o'r pwys mwyaf i w^r a gredai nad oedd dyletswydd arall gan y pregethwr ond achub eneidiau: "Pregethu yr efengyl yw y peth gwerthfawrocaf yn y byd, y tu hwnt i bob cydmariaeth; a hyny sydd am mai ordeiniad Duw ydyw, trwy'r hon y casgl ei bobl o fysg y cenheloedd".

Yno yr oedd cyfarfod pregethu, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchedigion Dr Cynddylan Jones a Dr Phillips, Tylerstown.

Mae pobol yn dweud nad oes gynnyn nhw ddim help pan maen nhw'n tisian, ond dwi ddim yn 'u credu nhw.' Roedd Modryb yn ailddrechrau mynd i hwyliau pregethu eto, ac wedi anghofio am y tro am y sŵn crafu o'r llofft chwarae.

Aeth ei wraig ymlaen i ddweud iddo ddechrau pregethu ynghylch ei hanghenion hi a gofyn am Feibl.

Er nad oeddent yn ddibris o'u hen etifeddiaeth, daeth egni newydd i'w pregethu, eu haddoli a'u gweithgareddau eglwysig a chymdeithasol.

Effeithiai hyn yn drwm ar arddull a chynnwys y pregethu.

Gwyddai'r gwyr hyn beth oedd pregethu i dyrfaoedd enfawr a dengys hynny un o nodweddion amlycaf eu dawn - eu gallu i gyfareddu gwerin gymharol ddiaddysg a hynny heb lastwreiddio na darostwng urddas y genadwri.

Yr hyn yr oedd yn ei boeni oedd pregethu'r efengyl gan rai nad oeddynt wedi profi Duw yn eu calonnau.

Wedi pregethu yn y gyntaf yn y bore, ni roddodd neb w ahoddiad iddo i gmlo, a bu raid iddo yrr.lwybro i'r eglwys arall y prynhawn, pregethu yno, a dychwelyd adre heb damaid o fwyd ers amser brecwast!

Un o nodweddion amlwg pregethwyr y cyfnod hwn oedd mai crwydriaid oeddent, yn gwneud y rhan fwyaf o'u pregethu yn y caeau neu ar y strydoedd neu mewn mannau cyhoeddus eraill yn hytrach nag mewn eglwysi a chapeli.

"Ma'ch trefen chi," meddai hi wrth nhad sawl gwaith, "yn mynd yn fwy o Gyrdde Pregethu bob 'dy, a 'rych chi'n disgwyl diwygiad ymhob math o gyfarfod.

Cyfnod penllanw'r pregethu teithiol hwn oedd y blynyddoedd o ddiwedd rhyfeloedd Napoleon hyd agoriad y rheilffyrdd ym mhedwardegau'r ganrif.

Daeth pregethu'n fwy angerddol, yn anelu'n uniongyrchol at gau pobl ym mwlch yr argyhoeddiad, yn llai ffurfiol ei arddull.

Mae'n amlwg nad oedd gan drigolion y cyfnod hwnnw lawer o ofn 'tywydd mawr' - trefnwyd i gynnal cyfres o Oedfaon Pregethu a gwahoddwyd pump o bregethwyr i wasanaethu.

Yr un funud daeth gair Abel i'm meddwl, ``Paid â dychymygu am siopa a phregethu,'' a meddyliais y byddai raid i mi roi heibio'r pregethu hefyd.

Yr oedd Nantlais yn pregethu'n rymus iawn, a byddai'r capeli'n llawn.

Byddai Morgan Llwyd yn pregethu ym Mhwllheli ar ddyddiau marchnad, a'i arfer oedd myned trwy'r farchnad a'i ddwy law ar ei gefn, a'i Feibl yn ei law; a byddai y bobl yn cilio o'i flaen, fel pe buasai gerbyd yn carlamu trwy'r heolydd.

Eu gobaith hwy oedd y byddai eu pregethu'n creu barn gyhoeddus ddigon cref i ddylanwadu ar y Senedd i wneud gwelliannau.

Nid ein lle ni yw pregethu.

Meddyliwch chi am flaenor yn cyhoeddi - Alwyn Thomas fydd yma'n pregethu'r Sul nesaf.

Roedd yn anodd ganddynt gredu ei fod wedi cael tro%edigaeth o ddifrif, ei fod yn awr yn pregethu ac nid yn erlid pobl Dduw fel cynt.

'Rhoswch chi,' medda fo, "rydych chi wedi dechrau pregethu, yn 'tydach chi?' 'Wel ydw,' atebais.

Cymerwn ran amlwg yn y cyrddau hynny, dechrau'r cyfarfodydd, annerch a hyd yn oed pregethu.

Da ni ddim yn pregethu.

Eto i gyd y mae yn Llŷn niferoedd o deuluoedd ymroddedig a'u plant yn Gymry glan gloyw, a bydd y plant rheini yn siarad Cymraeg hyd ganol a diwedd y ganrif nesaf, oherwydd y mae yn Llŷn hefyd gyniwair mewn Clybiau Ffermwyr, mewn Adrannau o'r Urdd, mewn Cyfarfod Plant ambell i gapel, mewn tafarn Gymraeg Gymreig, mewn Eisteddfod a Sioe a Chyrddau Pregethu a rasus motos.

Mewn un angladd wrth ddarllen Salm y Bugail, fel hyn y traethodd y doctor: 'le, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnaf newid' (Pan dery angau, un wedd ar y brofedigaeth yw'r newid sy'n digwydd i'r holl dŷ mewn cegin a pharlwr a llofft, newid sy'n syfrdanu.) Ni wn ai o fwriad ai trwy ddamwain y rhoes y meddyg dro mor annisgwyl i'r gair, ond roedd ei glywed yn gynhyrfus o newydd: 'Nid ofnaf newid.' Roedd Doctor Jones yn ŵr pur grefyddol ei natur, ac ar ambell Sul byddai'n pregethu hwnt ac yma yn eglwysi'r fro.

Pregethu Yr oedd y cyfnod hwn yn nodedig am ei bregethu.

Roedd y dramodwyr yn pregethu wrthyf o bulpud eu llwyfan, yn awgrymu'n gryf wrthyf fy mod yn rhy ddwl i ddeall negeseuon y ddrama ac yn fy nharo gyda gordd y bregeth.

Os gwelaf, ar ôl imi gael amser i ystyried y mater, mai fy nyletswydd ydyw aros yma, mi rof fling bythol i'r pregethu; ond os fel arall, ni all dim fy atal rhag mynd yno.

Lladd cenedlaetholdeb yw pregethu i etholwyr Cymru mai mantais economaidd iddynt hwy fyddai fod gan Gymru annibyniaeth neu mai felly'n unig y cânt hwy lywodraeth sosialaidd.

Ond ar ôl hynny, gostyngodd yr angerdd a chafwyd pregethu mwy rhyddieithol, mwy deallusol, llai teimladol.

A chyn dechre pregethu yn yr eglwys gyntaf dvma fe'n hongian y cadach coch ar fraced y lamp wrth ben y pulpud, a phob tro yr oedd am bwysleisio rhyw wirionedd yn ei bregeth, dywedai, gan bwyntlo at y cadach coch bob tro, 'And that's as true, brothers and slsters, as my lunch is in that handkerchief!' Yr oedd rhai o stori%au difyrraf Waldo yn ymwneud â'i deithiau yn b Iwerddon.

Rydw i wedi pregethu a darlithio i gynulleidfaoedd mawr a bach ond dydw i erioed wedi cael cynulleidfa yn gwerthfawrogi cymaint â'r fintai yma o ffoaduriaid o Iran.

Cyhuddwyd ef gan un o'i gyd-athrawon, ymhen yr wythnos, o bregethu heresi ac fe'i gwaharddwyd rhag pregethu yn y Brifysgol am ddwy flynedd.

Yr oedd adroddiad un paragraff ar gyfarfodydd pregethu, neu erthygl goffa fach am rywun yn yr ardal, neu bwt ar ryw bwnc diwinyddol yn gwbl dderbyniol.

Ond mi glywais i Tom Nefyn yn pregethu unwaith.

Pregethu Ioan Fedyddiwr

Pregethu Pan drown i roi sylw i nodweddion y Diwygiad, rhaid rhoi'r lle anrhydedd i bregethu.

"Wyt ti'n gwbod fod Margaret Rose yn cael ffitie, a bod ei mam yn gorfod towlu sach dros ei phen yn amal iawn pan fydd yr Archbishop of Canterbury yn pregethu?"

Cyplyswyd yr achlysur â chyfarfodydd pregethu blynyddol yr eglwys a'r pregethwr gwadd yn y rheini oedd T.Glyn Thomas, Wrecsam.

Er enghraifft, credai fod cyfiawnhad tros gynnal pregethu gyda chymorth arian cyhoeddus a phan ddaeth Deddf y Taenu i rym ymunodd pobl Llanfaches gyda brwdfrydedd yn y gweithgarwch.

Un o'r canolfannau pregethu pwysicaf trwy'r ganrif oedd Croes Sant Paul, gyferbyn ag eglwys gadeiriol Sant Paul yn Llundain.

Ti'n gwbod, mi glywais i hwn a hwn yn pregethu ar yr un testun, ond ti'n gwbod be ddeudodd o ...

Gwelai ei hen gyfeillion ef yn pregethu ar y stryd o fewn ychydig ddyddiau.

Ac nid oeddent yn ymatal rhag ymuno â neb pwy bynnag mewn ordinhadau cyhoeddus oedd yn rhoi cyfle i genhadu, pethau fel pregethu, gweddi%o a chanu.

Wedi gwylltio'n gacwn, ffoniodd hi'r rhif ar waelod y ffurflen Saesneg a dechrau pregethu ynglyn â hawliau Cymry Cymraeg i dderbyn gwasanaeth dwyieithog yn eu gwlad eu hunain.

Argyhoeddi yn hytrach nag addysgu oedd y nod a dyna a wnaeth y pregethu hwn yn beth mor gynhyrfus.

"Nid ceisio pregethu yr oeddwn i." Gwenodd Snowt, yn foddhaus.

Ar ôl iddo ddarfod pregethu âi o amgylch y dyrfa fyddai wedi ymgynnull yn dosbarthu tractiau.