Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pregethwyr

pregethwyr

Y mae pennod gyfareddol Dr Owen Thomas yn Cofiant John Jones, Talsarn yn ymdrech ddisglair i wneud hynny a daw'n agos at lwyddo pan yw'n trafod pregethwyr a glywodd ei hun.

Un o ganlyniadau'r Diwygiad Efengylaidd oedd cynysgaeddu Cymru â dosbarth newydd o arweinwyr i ddisodli'r hen bersoniaid a'r sgweiriaid, sef, y gweinidogion, y pregethwyr, y blaenoriaid a'r personiaid llengar.

'Roedd hi'n ffordd digon hwylus a diogel i sicrhau pregethwyr i'r eglwysi ac i sicrhau cyhoeddiadau i'r pregethwr.

Yn wir, gellid nabod pregethwyr yr amser hwnnw oddi wrth y 'bag bach', pe na bai dim arall i wahaniaethu rhyngddynt a gweddill meidrolion daear.

Os plaen a syml oedd tai cyrddau'r cyfnod, felly hefyd oedd amryw o'r pregethwyr.

Un o nodweddion amlwg pregethwyr y cyfnod hwn oedd mai crwydriaid oeddent, yn gwneud y rhan fwyaf o'u pregethu yn y caeau neu ar y strydoedd neu mewn mannau cyhoeddus eraill yn hytrach nag mewn eglwysi a chapeli.

yng nghymru ceisiodd pregethwyr o fri ddarbwyllo eu cynulleidfaoedd y dylent gefnogi bob ymdrech i ymgyrchu o blaid heddwch.

Tadogodd un o'r milwyr y difaterwch ynglŷn â phethau crefyddol ar anallu pregethwyr a chaplaniaid i egluro'r gwirioneddau Cristionogol mewn iaith ddealladwy.

Dyna i chi ymlyniad pregethwyr, llenorion ac athrawon y tair canrif ddiwethaf at yr iaith, meddai.

A dyma, gyda llaw, brawf petai angen un fod Llanfaches a Mynydd Islwyn yn magu pregethwyr a allai draethu yn Gymraeg.

Mae yna brinder pregethwyr heddiw, a thipyn o drafferth yw hi i lenwi'r Suliau mewn llawer eglwys.

Damweiniodd i Dr Parry, Y Bala, ddod i bregethu i Gefn Brith, ac yn Nhy'n y Gilfach y byddai pregethwyr arfer â lletya.

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg dechreuodd capeli'r Anghydffurfwyr ymddangos ym mhob man ar hyd a lled y wlad, ac apeliai neges y pregethwyr grymus yn arw at bobl Cymru.

Ond waeth i ni heb ~ meddwl y gallwn iawn ddchongli'r pregethau hyrmy heddiw, oherwydd nid ydynt ar gad i ni: rywfodd, ys dywed Cynhafal Jones, pan gymerwyd y pregethwyr i ogoniant, fe gollwyd eu pregethau.~ Yr ychydig bregethau y gwelwyd yn dda eu cyhoeddi mewn print sy'n weddill.

Enwir Moses Parry, Evan Lewis, Robert Jones ac Owen Owens fel y pregethwyr cyntaf i wasanaethu yn yr oedfaon hyn.

Meddylwyr mawr, pregethwyr o fri, beirdd ac awduron na ddileir eu henwau fyth o restr anrhydedd ein gwlad.