Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

prinhau

prinhau

Gwaith i Rhys yn prinhau.

Yr hyn a roddodd fwyaf o syndod imi oedd darllen mewn papur newydd dyddiol poblogaidd yng ngogledd Cymru ar ddechrau'r flwyddyn hon fod mawn yn prinhau ar raddfa frawychus yn yr Ynysoedd Prydeinig a ninnau arddwyr wedi cael ein cyflyru gan wybodusion tros y pum mlynedd ar hugain diwethaf, fwy neu lai, ei fod yn ddefnydd anhebgorol angenrheidiol tuag at arddio llwyddiannus a'r cyflenwad yn ddihysbydd.

Dyma'r hirlwm, y cyfnod pan oedd bwyd i ddyn ac anifail wedi prinhau ac wythnosau i fynd cyn bo cynnyrch cyntaf y gwanwyn ar gael.

Dychwelodd Stacey i Gwmderi am ambell wyliau ond prinhau wnaeth yr ymweliadau.

Ond yn ôl arolwg diweddar, ac amheuaf fod a wnelo cadwriaethwyr natur rywbeth a hyn, mae yn prinhau a rhaid fydd i ni arddwyr newid ein cynlluniau a defnyddio rhywbeth yn ei le.

Gyda diboblogi a'r argyfwng economaidd yng nghefn gwlad, prinhau mae'r adeiladau yma.

"Rydw i'n ofni mai prinhau mae'r Cymry sy'n câl y fath foddhad heddiw; mae cynifer o'r genhedlaeth iau wedi'u gwasgaru i bob rhan o'r byd a Saeson wedi dod yn 'u lle nhw.

Roedd eu hamser yn prinhau.

Mae'n amlwg, o ddarllen yr anterliwtiau fod gan Huw Jones o Langwm ddawn i adrodd stori, rhywbeth sy'n prinhau y dwthwn hwn yn anffodus.

Ydech chi'n teimlo fod y math yma o berson wedi diflannu, neu wedi prinhau?

Fel y gwyddom yn dda man mae nwydd yn prinhau cyfyd ei bris nes weithiau ei wneud yn brin, neu os parheir i'w ddefnyddio cwyd pris y nwyddau y mae'n rhan ohono tu hwnt i'r hyn mae'r cwmseriaid yn fodlon dalu.

Wedi prinhau.

Fel ym mhob oes, cofiaf fod criw mawr iawn yn cystadlu yn yr oedrannau iau ond mai prinhau fyddai'r cystadleuwyr wrth fynd yn hŷn.