Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

priod

priod

[Roedd Richard Owen yn ewythr i Harriet, priod Lloyd Hughes.

Priod ffyddlon Alwena a thad annwyl Sandra.

Fel yr esgynna Sam i blith y cymylau a'r sêr yng nghwch y ferch ddi-enw, ddi-sylwedd a ninnau gyda hwy, y mae'r bro%ydd cartrefol beunyddiol, ein priod ardaloedd hysbys yn pellhau a lleihau otanom yn y dyfnder ac fe ddaw moment pan anghofiwn amdanynt yn

Pwrpas y cyfan oedd herio'r holl gamweddau a oedd yn rhwystr i'r Iddewon gyflawni eu priod genhadaeth yn y byd, datguddio daioni Duw nid trwy eiriau'n unig ond trwy lafur enaid.

Cafodd ffacs yn llongyfarch y pâr priod ei anfon i westy'r Plaza hefyd.

Er ei fod yn offeiriad yn yr Eglwys Babyddol, yr oedd yn ŵr priod, fel llawer iawn o offeiriaid eraill yr oes yng Nghymru.

Credwn mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru ac y dylid cydnabod y Gymraeg a'r Saesneg fel ieithoedd swyddogol.

A phob natur a phriodoledd Eto'n hollol gadw'u lle, -Dyndod heb gymysgu â Duwdod; Priod f'enaid byth yw E.

(Ganddi hi roedd y baedd Large White gorau ar Benrhyn Llyn.) Rhesymau gwahanol, fodd bynnag, a barai fod y postman lleol - priod a thad i bump o blant, a blaenor gwerthfawr gyda'r Annibynwyr - yn troi i mewn i Gerrig Gleision ambell i fin nos o dan yr esgus o ddanfon teligram.

Fel yn bennaf oll y cadwasom yr ystyr a llafurio bob amser i'w adfer yn gwbl gywir, felly yr ydym â'r parch mwyaf wedi cadw priod ddull y geiriau yn gymaint ag i'r Apostolion wrth lefaru wrth y Cenhedloedd ac ysgrifennu atynt yn yr iaith Roeg eu cyfyngu eu hunain i ymadrodd bywiog yr Hebraeg yn hytrach na mentro ymhell trwy ystwytho eu hiaith i lefaru fel y llefarai'r Cenhedloedd.

At hynny, y mae'r Gymdeithas wedi galw am y canlynol: bod y Swyddfa Gymreig yn comisiynu ac yn noddi prosiect ymchwil ar 'Ddefnydd yr Iaith Gymraeg mewn Cynllunio'; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol roi ystyriaeth i'r Gymraeg yn eu Cynlluniau Datblygu Unedol, gan mai'r Gymraeg yw priod iaith Cymru a'i bod hi'n etifeddiaeth gyffredin i holl drigolion Cymru; - y dylai pob awdurdod cynllunio lleol gynnal arolwg o gyflwr yr iaith yn eu hardaloedd, a llunio strategaeth iaith a fydd yn ffurfio polisïau i warchod a hyrwyddo'r iaith yn eu hardaloedd; - bod y Swyddfa Gymreig yn rhoi fwy o arweiniad i'r awdurdodau cynllunio lleol, ac yn cyhoeddi canllawiau fwy manwl ar ba fath o bolisïau y dylid eu mabwysiadu er gwarchod a hyrwyddo'r iaith.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod lle unigryw ac arbennig i'r iaith Gymraeg yng Nghymru fel priod iaith Cymru ac y dylid cydnabod yr egwyddor hon yn swyddogol mewn deddf gwlad.

Mae'r ddeddf yn cydnabod Basgeg fel priod iaith Gwlad y Basg, yn rhoi statws swyddogol i'r iaith ynghyd â Sbaeneg ac yn datgan nad oes modd gwahaniaethu ar sail iaith.

Aeth popeth yn hwylus am flwyddyn, yna cafodd y peilot - a oedd yn ūr priod - lond bol ar y ferch a dywedodd wrthi am adael.

Mae Cymro arall yn Amsterdam ar y pryd, David Davies, darlithydd cerdd priod, canol oed, sy'n dechrau amau ei rywioldeb.

Ateb negyddol a roes i'w gwestiwn, yn gwbl resymegol felly, gan mai y Gymraeg oedd priod gyfrwng llenyddiaeth Cymru.

Bod yr amseriad yn sefydlog yn ddieithriad, a chytunir mai'r priod amseriad ydyw "Amseriad cymhedrol adrodd a siarad", am mai hynny'n unig a sicrha briod aceniad.

Rhaid i'r Cynulliad ddileu'r cysyniad o ddarparu gwasanaeth 'Cymraeg wrth ofyn' a dim ond 'pan fo'n rhesymol ymarferol.'. Y seiliau egwyddorol cywir i unrhyw Fesur laith effeithiol ydyw dwyieithrwydd naturiol cymunedol a hyrwyddo'r Gymraeg fel norm ac fel priod iaith Cymru.

Priod y diweddar Richard Williams, adeiladydd a threfnwr angladdau yn Nhrefriw am rai blynyddoedd.

(Rwy'n ymddiheuro am fod ei deitl yn un trwsgl, ond does i'r gwreiddiol Saesneg, sef 'Custody Officer', fawr o geinder chwaith.) Fel yr awgrymir gan ei deitl, priod waith y Swyddog Cadwraeth yw cadw.

Ein dyletswydd ni yn awr yw ei chryfhau a gweld cydnabod y Gymraeg fel priod iaith Cymru.

At Gymdeithasau'r Orsedd, yr Eisteddfod Genedlaethol, a'r Cymmrodorion, i ofyn am eu nawdd i Gerdd Dant, a'u bod hwy i reoli neu ddeddfu bod y delyn a'r canu penillion i gael eu priod le ar raglenni'r dyfodol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er enghraifft, bu nifer y gwragedd priod a ymunodd a'r gweithlu yn llawer uwch na'r disgwyl, tra bu'r cynnydd mewn cynhyrchaeth llafur, ar y llaw arall, yn is o gryn dipyn.

Beti George Llwyddodd Beti George ac Euron Griffith i gadwr cyfrwng sgwrsio yn fyw ac yn iach gydau priod slotiau Beti ai Phobl ac Ie Ie, gyda'r ddwy gyfres yn llawn bywyd gyda gwesteion diddorol ac amrywiol.

Wedyn dyna William Phillips, Castell Pictwn, priod Janet Perrot, chwaer y cymeriad lliwgar hwnnw, Syr John Perrot.

Mae'n arwyddocaol fod y fersiwn hwn, lle bynnag y bo priod-ddull y Ffrangeg yn gofyn am eiriau nad oes dim yn cyfateb iddynt yn y gwreiddiol, yn dynodi'r ychwanegiadau hyn trwy eu hargraffu mewn print manach.

Priod y dragwyddol Hanfod Wela' i'n hongian ar y pren...

Mae'r un peth yn wir wrth chwilio am enwau priod, fel BBC, neu Mabinogi: mae'r Chwilotydd yn gwahaniaethu rhwng y defnydd Cymraeg a'r gweddill.

Pobl dros 70 oed yn cofrestru am bensiwn, 5/- ( 25c ) i unigolyn a 7/6 (37c ) i bâr priod.

Rhoddwyd cyfle iddynt i gyd-drafod a mynegi eu barn ar y ddogfen ymgynghorol yn gyffredinol, ac yn benodol ar y rhannau ohoni a berthynai i'w priod feysydd.

Dim ond trwy roi statws swyddogol i'r Gymraeg fel priod iaith Cymru y gallwn ni wedyn fynnu bod banciau a siopau a chwmnïau ac ymddiriedolaethau iechyd, a.y.y.b. yn gweithredu'n drwyadl ddwyieithog. Siân Howys yn gwneud ei marc ar ddechrau'r ymgyrch

Ar ôl dioddef salwch hir, bu farw Mrs Mair Griffiths, Fair Meadows, priod annwyl Douglas a mam gariadus Marjorie, Gareth, David a Lynne.

Mwy trist na thristwch yn fy marn i yw colli cyswllt a iaith y gwyddoch mai hi yw eich priod iaith.

Beti George Llwyddodd Beti George ac Euron Griffith i gadw'r cyfrwng sgwrsio yn fyw ac yn iach gyda'u priod slotiau Beti a'i Phobl ac Ie Ie, gyda'r ddwy gyfres yn llawn bywyd gyda gwesteion diddorol ac amrywiol.

Am y tro, fe wnawn ni anghofio ein bod ni yma i fwrw'n swildod fel pâr priod.

Yr oeddwn i a'm priod a chynifer o'r plant ag a oedd wedi eu geni bryd hwnnw'n bresennol ar achlysur ei dadorchuddio yn un o raliau'r Blaid.

Un o'r rheini oedd y Mr Potter a ddaeth i fyw i'r un stryd â nhw, gūr priod na fyddai byth yn dod â'i wraig i'w ganlyn ac a oedd yn athro celf yn New Brighton.

I'r gwrthwyneb, mae Duw yn rasol tuag at y briodas oherwydd y Cristion, boed hynny tuag at y priod, neu'r plant.

Sylfaen y deddfau hyn yw cydnabod Catalaneg fel priod iaith Catalonia a rhoi statws swyddogol iddi.

Priod y diweddar Arthur Jones, mam annwyl Pat a'r diweddar John, a chwaer hoff Gladys a nain hoffus ei wyrion a'i wyresau.

Rheswm arall oedd yr arferiad gwrthun o dyrru pobl priod a sengl o'r ddau ryw yn yr un ystafelloedd gwely, ac yn aml iawn mewn gwelyau nesaf at ei gilydd heb un llen rhyngddynt.

Beth felly yw'r sefyllfa lle mae person priod yn cael troedigaeth, ond nid yw ei gymar/chymar yn profi troedigaeth?

Ni ellir sylweddoli gweledlgaeth yr Eglwys heb ei ~rym priod" (tt.

(profiad!) Fe wnaeth par priod adnabyddus iawn y penderfyniad.

Yn y frawddeg 'Mae Gwilym yma', yr enw priod yw'r gair syniadol mwyaf cyntefig syml o ran gramadeg: enwi diriaeth a wna.

Cynhwysodd yn ei lyfr ddetholiad o'r ohebiaeth a fu rhyngddo a Lhwyd a'i holai'n fynych ynghylch ystyr a tharddiad enwau priod Cymraeg, ond rhaid cyfaddef, er bod Rowlands yn hyddysg yn namcaniaethau ieithyddol ei ddydd a'i fod yn rhannu holl ddiddordebau eang Lhwyd na ddeallasai ef arwyddocad dull gwyddonol ei gyfaill o weithio.

Y mae'n amlwg fod nodi beth yw priod waith y prydydd a'r artist yn fater o bwys mawr i Alun Llywelyn-Williams yn y tridegau, ac wedyn.

Diben y llyfryn hwn yw cynnig arweiniad ymarferol ar sut i gynnal cyfarfodydd pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn ffordd fydd yn chwythu bywyd i'r egwyddor o gyfartaledd rhwng y ddwy iaith ac yn rhoi lle teilwng i'r Gymraeg fel priod iaith yn ei gwlad ei hun.