Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

priodi

priodi

Bu Karen yn mynd allan gyda Gareth Wyn, Tony Morgan a Gavin cyn penderfynu priodi Derek.

'Dydy o ddim wedi priodi eto," a chwarddodd Elis Robaitsh hen chwerthiniad awgrymog.

Bellach mae pob un ohonom wedi priodi a dilyn ein llwybrau gwahanol.

Aeth fy chwaer i fyw i Fethesda ar ôl priodi, a'r Nadolig cyntaf i ni fod hebddi cafodd Mam y ffliw neu rywbeth, bu'n wael iawn, a gorfu iddi aros yn ei gwely.

Wedyn 'roedd Ellis brawd fy Nain Crowrach, wedi priodi Catherine Brynawel ac 'roedd brawd Catherine, sef Thomas John Williams, yn ail fet ar long berthynol i Thomas Morel,Caerdydd, yr SS Llansannor.

Roeddynt yn anniwair cyn priodi ond nid oedd dim puteindra nac anffyddlondeb priodasol.

Mi fuo am gyfnod cyn priodi â gwraig weddw ydi hi ar hyn o bryd, a 'dwyt ti'n synnu dim at hynny wedi byw o dan yr un gronglwyd â hi am wsnos - cyn priodi mi fuo'n gwasanaethu hefo rhyw nob a'i wraig - Syr Simon a Ledi Gysta chwedl hitha, ac mae'r rheini wedi troi yn 'i phen byth wedyn.

Yr oedd yr Almanac yn ystordy o wybodaeth gymysg am genedlaethau lawer, geni, priodi, marw rhyw deyrn neu arglwydd, drylliad llong, neu dan mawr Llundain, ac yna yn sydyn, rhyw ddywediadau fel - "Gwynt a glaw, yma a thraw%, rhyw erchyllderau dyddiol am sbel wedyn, ac yna "Felly pery i'r mis derfynnu%, hynt y lleuad a thrai a llanw.

Fe adewais i'r band er mwyn priodi fy ngŵr, ac dyna pryd wnes i ddechrau gweithio ar fy mhen fy hun eto%.

Câi merched eu rhoi i'w priodi yn ifanc iawn, weithiau yn ddim ond chwech neu saith oed.

Methu credu'r oedd pawb pan ddaeth y newydd 'i bod hi wedi priodi Madog Morris.

'Ond mae o'n werth 'i bwysa mewn aur er hynny, er 'i fod o mor dew a thrwm.' 'Mae'n biti na fasa fo wedi priodi a chael rhywun i ofalu amdano fo,' sylwodd Mrs Richards.

'Roedd pethau'n mynd yn esmwyth iawn ym mherthynas Teg a Cassie ar y dechrau ond dechreuodd pethau fynd o chwith yn gynta pan ddaeth Steffan i chwilio am ei fam - 'doedd Cassie 'rioed wedi cyfadde wrth Teg fod ganddi blentyn cyn priodi - ac yna pan benderfynodd Beryl, mam Cassie, adael y gogledd a dod i fyw at ei merch i'r Deri.

'Roedd Mary ei chwaer wedi priodi ac yn byw ym Mhenrhyn Terrace ac yno yn naturiol yr aed gyntaf i holi.Siwrnai sethug a gafwyd.

Dechreuodd Jason garu gyda Rhian ac yn fuan iawn bu'n rhaid iddo gyfadde ei fod wedi priodi merch o Wlad Pwyl er mwyn iddi hi gael pasport i aros ym Mhrydain.

Gyrru, gyrru adre, Wedi priodi ers dyddie!"

Ategir hynny, i raddau, gan y ffaith iddo ddewis priodi gwraig yn fuan wedyn: merch o'r ardal o'r enw Dorothy Woodforde.

Diddorol oedd darllen mair anrheg priodas i Madonna a Guy Ritchie gan y Parchedig Susan Brown, syn eu priodi yr wythnos hon, yw pecyn papur ty bach dwbwl.

Beth ddeuai ohoni petai Rick yn priodi'r hogan 'na?

Dwi'n cofio hogyn o Benmaenmawr yn priodi hogan o Lanfairfechan, ac ewyrth iddo'n gofyn: 'Ble rwyt ti am fyw, Bob bach?'

“Nôl yn y saithdegau bum yn crwydro'r byd - Fiji, Awstralia, Borneo, Sarawak a Florida ac yn Sarawak bu bron i mi orfod priodi merch o lwyth y Dyaks.

Efallai y byddaf wedi priodi cyn hir Mae William Powel o Wrecsam yn galw ym Mryste'n aml ar fusnes ac yn hoffi fy nghwmni.

Dywedir ei fod yn beth cyffredin iddynt gael cyfathrach rywiol ar yr amod y byddant yn priodi os digwydd beichiogrwydd.

Ar Nos Calan Gaeaf defnyddid cnau i weld a fyddai cariadon yn priodi ai peidio.

Priodi!

Dau grŵp sydd: Gŵr Glangors-fach a'i ddwy ferch, etifeddion y bobl a blannodd y gors a gwneud tyddyn; a dau frawd, sydd wedi priodi dwy chwaer, a chymryd y tyddyn ar les ar farwolaeth yr hen ŵr.

Prifio'n wr bonheddig a wnaeth Elias, yn enwedig ar ôl priodi Lady Bulkeley (nad oedd fwy o ledi o ran ei tharddiad na finnau!).

Ar y cychwyn yr oedd perthynas Ferrar â George Constantine yn ddigon cyfeillgar ond dirywio a wnaeth hi a phan oedd Thomas Young yn priodi merch Constantine, gwrthododd Ferrar gymryd unrhyw ran yn y gwasanaeth.

Mae puteindra rheolaidd yn anghyffredin a hefyd anffyddlondeb priodasol; ond colli diweirdeb cyn priodi (yn anffodus, gwarth y Dywysogaeth) yw'r norm yn hytrach na'r eithriad.

Stori briodasol fach dda yr ydw i yn ei hoffi yw honno am gyfaill yn gofyn i henwr dros ei bedwar ugain oed pam yr arhosodd cyhyd cyn priodi.

Drwy hynny, byddai dogfennau llys barn, sieciau, tyst-ysgrifau geni, priodi a marw, a phob math o bapurach cyfreithiol a swyddogol o'r un grym yn Gymraeg neu yn Saesneg.

"Ddim hyd yn hyn - wel, tydw i ddim wedi priodi...eto." "Fath â'r person 'na felly.

Aeth y wraig a minnau am wyliau i Iwerddon ar ôl priodi.

Wedyn, os byw ac iach, ac os byddwch chi'ch dau yn dal efo'ch gilydd mi gewch ystyried priodi pan fyddwch chi'n ddigon hen.

Roedd un aelod o'r teulu, Catherine Ellis, merch Hendre Ddu, wedi priodi Y Parchg Harri Cadwaladr, ewythr i Kate Roberts.

Daeth hi i Faesteg i fyw ar ôl priodi ei gwr, Mr Robert Barton.

Edith Annie Moss oedd enw fy mam cyn priodi.

Felly fydd Catherine Zeta Jones ddim yn priodi nes y bydd ei chorff wedi dod yn ôl i siap ar ôl iddi esgor ar ei babi.

Yn aml iawn mae'r merched ifanc yn feichiog cyn priodi.

Yr oedd y ddau wedi priodi dwy chwaer ac felly yn perthyn i'w gilydd trwy briodas.

Mi roedd siopau'n agor yno ac mi roedd pobl yn mynd i barti%on, yn priodi; mi roedd yna briodas yn ein gwesty ni ac mi roedden nhw'n dal i wisgo fyny, hyd yn oed yn y llwch ofnadwy.

Charles a Diana Spencer yn priodi.

Bu ei chais yn llwyddiannus, ac ymhen dim roedd wedi priodi ac yn gweithio ym Methlehem.

Yr holi a'r stilio am yr hyn a oedd wedi digwydd i hwn-a-hwn neu hon-a-hon, pwy oedd wedi priodi pwy?

Y Dywysoges Elizabeth a Dug Caeredin yn priodi.

Dim ond ychydig dros flwyddyn ar ôl priodi, gwahanodd Derek a Karen a phenderfynodd Karen ei bod am gael bywyd newydd.

Buan iawn y sylweddolodd Denzil a Maureen eu bod wedi priodi am y rheswm anghywir, sef i roi cartre i Gwen, merch Gina, a gadawyd Denzil ar ei ben ei hun unwaith eto ym mis Gorffennaf 1999 pan adawodd Maureen ef.

a ta beth, priodi wnei di.

Doedd 'na ddim swydd ar gael a finna wedi priodi Saesnes heb ddim i ddeud wrth Gymru, a'r plant yn Saeson." "Dy fai di ydi hynny." "Ia, ia.

Talwyd Mr Hughes i ffwrdd yn Nulyn, priodi a mynd i'r ysgol am ei diced meistr a bod yn llwyddiannus.

Pe bai merch ddi-briod yn neidio drosti, roedd perygl iddi ddod yn feichiog cyn priodi.

Priodi wnaethon nhw ac mi fuon nhw'n briod am ddeuddeng mlynedd.