Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

priodoleddau

priodoleddau

O hynny y treiddiai rhinwedd sydd bob amser yn ychwanegu'n anrhydeddus at ysblander, ac nid ystyrid bod gwreiddiau da a theulu cymeradwy ynddynt eu hunain yn ddigon oni ffynnai'r priodoleddau rhinweddol parhaol yr un pryd.

Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.

Yn y cyd-destun hwnnw amlygid amodau ymddygiad greddf, dirnadaeth ynghyd â'r gallu angenrheidiol i ymateb yn briodol i sefyllfaoedd arbennig ac i'r addysg honno a gyfrennid i'r uchelwr ac a ddyfnhâi ynddo'r priodoleddau hanfodol ym mywyd y gŵr perffaith.

Ond mae'n wahanol i ddyfalu, ac yn ddarn cwbl unigryw, am fod priodoleddau haniaethol yn fwy blaenllaw na'r elfen o ddychymyg gweledol sy'n arfer bod mewn dyfalu.

(Dadansoddir yn yr ymchwil beth yw'r priodoleddau benywaidd a gwrywaidd).

Gadwch i mi drio cofio." Archwiliai ei llygaid fi o'm corun i'w sawdl, fel ffermwr mewn ffair yn pwyso a mesur priodoleddau caseg yr oedd a'i lygaid arni; a minnau'n falch fy mod wedi gwisgo fy siwt newydd, ac yn edrych yn weddol drwsiadus.

Meddai ar y priodoleddau a nodweddai ei gŵr yn rhinwedd ei thras a'i magwraeth.