Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

pris

pris

Yna o dipyn i beth fe werthwyd amball dž rhes, a'r pris o fewn cyrraedd teuluoedd yr oedd eu henwau'n llai cyfarwydd o dipyn.

Fe awgrymodd - - fod rhywfaint o gamddealltwriaeth ynghlwm wrth y diffiniad o Gytundeb Pris Sefydlog.

Diolch iddi hi, cafwyd tocynnau awyren i'r tri ohonom am chwarter y pris arferol.

Pris torth ym 1918 oedd 0.63 mark.

Pris potel o win yn gostwng i 5/6 ( 27c ) Marw Winston Churchill, Albert Schweitzer.

oedd yn bosibl cael amlen gyda'r calendr oherwydd y byddai'n ychwanegu'n ormodol at y pris.

Aeth tatw yn brin a chododd eu pris i'r entrychion ond, er cyn lleied y cnwd, honno oedd y flwyddyn fwyaf broffidiol i'r ffermwyr tyfu tatw.

Fe nododd - - fod tendr yn gallu golygu sawl gwahanol beth - fe allai olygu Cytundeb Pris Sefydlog neu fod y syniad a'r cynnwys yn cael ei addasu ar ôl ennill tendr.

Doedd - - ddim yn mesur tendr ar sail arian yn unig oni bai fod y pris yn ofnadwy o isel.

Byddai canlyniadau'r arolwg yn werthfawr er cryfhau polisi%au tai y cynllun lleol newydd a gosod sylfaen ar gyfer strategaeth tai y Cyngor drwy ddatgelu gwybodaeth ynglŷn â'r cymunedau hynny lle 'roedd angen gwirioneddol yn bodoli ar gyfer tai rhesymol eu pris.

Bu dadlau am sbel go dda, a'r goruchwyliwr yn gwrthod rhoi yr un geiniog ym mhen y pris, a'r diwedd fu i Wil wylltio, ac meddai: "I'm not cyming here to hambygi my horsus for you.

Gorweddai ei farch ardderchog yn gelain farw, ac yr oedd y pris mawr a roesai amdano wedi mynd gyda'r gwynt.

Y gyfrinach, meddai ef, yw synhwyro ar amrantiad beth yw'r pris isaf mae gwerthwr yn fodlon ei dderbyn heb ddangos iddo ef beth yw'r pris uchaf ydych chi'n fodlon ei dalu.

Pris arall a dalwyd yw'r newid ym mherthynas amaeth â bywyd gwyllt a'r tirlun.

Tybed a yw'r pris a gynigir gan Mercian Ltd., yn ddigon uchel i berchnogion y garej bresennol fforddio codi garej newydd yr ochr arall i'r ffordd?

Drwy Gynllun Adnoddau CBAC, bydd rhai adnoddau yn cyrraedd yr ysgolion yn ddi-dâl (drwy warant o'r Awdurdodau Addysg) a hefyd fe fydd yr un adnoddau ar werth gan lyfrwerthwyr (drwy ganolfan ddosbarthu'r Cyngor Llyfrau) am yr un pris â'r fersiwn Saesneg.

Dylech fod yn prynu dwy botel, ond peidiwch a dychryn gyda'r pris!

Y pris a Gytunwyd Arno

Tair ceiniog oedd pris y llyfrynnau fel arfer, ond mae'n anodd iawn gwybod sawl copi o bob rhifyn a argreffid.

Gall dosraniad anghywir o'r argost effeithio ar bolisi prisio'r busnes, a bod yn niweidiol pan yw'n gwestiwn o gynnig pris yn erbyn cystadleuaeth.

Ond yn fuan iawn mae Dafydd yn darganfod fod pris i'w dalu am ei ryddid ac er mwyn ennill arian i fyw mae'n ymuno â chriw o rent-boys, gan werthu ei gorff i unrhywun sy'n barod i dalu.

'Roedd pris i'w dalu.

DeuswUt yn y bore, ond swllt erbyn yr hwyr--roedd pris yr hen greadur yn mynd yn is ac yn is.

Mi wnes i fy ngorau i gael y pris uchaf posibl ichi.

Tybed nad y pris sy'n cyfrif yn y diwedd, beth bynnag fo cynnwys y bwydydd?

Dim ond inni gymharu margarin a menyn, does dim amheuaeth mai'r pris sy'n effeithio ar ddewis y naill a gwrthod y llall.

A'r canlyniad – roedd pris y ffleit yn ddrutach i Gaerdydd ac roedd llai o awyrennau yn teithio'n ddyddiol o Frwsel yno felly dyma droi at Faes Awyr Bryste.

Pris petrol yn codi i 22c.

Oni bai am ei ddawn adrodd stori byddai pawb ohonom yn ei gasa/ u ac eithrio f'ewythr Vavasor, oedd yn rhoi pris uchel ar ei waith fel bugail, ac nid oedd ei well am dewhau bustych, gwyddai i'r dim pryd i'w symud i'r tir pori gorau.

Nid yn unig y mae cynhaeaf Huw Jones yn un gwerthfawr o ran difyrrwch, ysgolheictod a thrysorfa gymdeithasol ond y mae'r cyfrolau hyn yn ychwanegiadau heb eu hail at lyfrgell unrhyw un - a'r rhyfeddod yw mai dim ond £10 yr un ydyn nhw - pris sydd wedi ei gadw'n gyson ers y gyfrol gyntaf un.

Cafodd ein pobl ddigon o rybuddion ar lafar ers blynyddoedd beth yw'r pris y mae'n rhaid ei dalu am gefnu ar Dduw a'i wirionedd.

Canys, fel y gŵyr pawb, yr unig ffordd ddiffuant o ddangos parch tuag at rywbeth yw bod yn barod i dalu pris uchel amdano.

Mae fy ffrind - feu galwn yn Ieuan - o'r farn na ddylai neb byth dalur pris gofyn am unrhyw beth a dyma ei linell gyntaf wrth fargeinio.

Pa well ffordd sydd i sicrhau nad â'n hetifeddiaeth i ddwylo neb ond y sawl sy'n ei charu'n ddigon eirias i roi pris anrhydeddus amdani?

Mewn diwydiant mae'r swm a werir ar yswiriant iechyd o'r fath yn gyfran mor sylweddol o gostau cynhyrchu, bellach, nes bod pris y cynnyrch yn aml yn mynd yn amhosibl ac yn afrealistig o uchel.

Ymysg rhai o'i ddilynwyr parodd hyn ddifri%o ysgolheictod, a rhoi pris nas haeddai ar gyraeddiadau'r werin; clywir eco o hynny heddiw hyd yn oed.

Rydw i wedi gweld rhai tebyg ichi o'r blaen, yn llawn delfrydau a syniadau rhamantus, ond wyddoch chi beth, erbyn iddyn nhw gyrraedd y canol oed parchus, y nhw ydi'r bobl fwyaf crintachlyd y gwn i amdanyn nhw, ac mi werthen nhw eu ffermydd i ladron tase'r pris yn iawn." "Ac felly, rhag ofn mai yr un fath y byddaf innau, dyma fi'n gwneud penderfyniad ynglŷn â Maes y Carneddau tra ydw i'n dal yn ifanc.

Pris tocynnau = dwy bunt.

Ac wedyn, tynnu gwynt drwy ei ddannedd a fyddain gwneud i Perfect Storm ymddangos fel awel Mai o gael gwybod y pris go iawn.

Cyfanswm Pris y Cytundeb

Os derbynnir y ddadl honno, rhaid derbyn yn ogystal mai pris mynediad ar y telerau hynny oedd stad o israddolder andwyol sy'n dal i grawnu yn ein bywyd cenedlaethol gan 'dorri mas yn achlysurol yn gornwydydd piws.

Mae'n wir fod prisiau wynwyn yn cael eu cadw i lawr yn weddol, ond roedd pris wermod lwyd a senna ac asiffeta wedi codi'n enbyd.

Nid merch dwp mo Gwenan a does dim rhaid iddi aros efo Dyfan ond dyna'n union a wna gan dalu pris uchel.

Pris £7 a chost post.

Un o'r rhyfeddodau mwyaf oedd, er gwaethaf problemau mawr yr ymbelydredd, fod pris a gwerthiant wyn a chig oen wedi bod yn dda.

Mae dau brif fath o drefniant i'w gweld wrth ystyried pris yr adnawdd i'r ysgolion.

Gwrthun, nid yn gymaint oherwydd yr hyn a wnaeth Tyson yn y gorffennol achos y mae dadl ei fod wedi talu'r pris am hynny a chanddo'n awr yr hawl i fyw ei fywyd.

Y sefyllfa arferol yw dosbarthu un copi cyfarch i bob ysgol gyda chopi%au pellach yn cael eu gwerthu am yr un pris ag adnawdd tebyg yn y Saesneg.

Yn aml pris y cnydau toriethiog yw unigedd a dyled yn y banc.

Fel y gwyddom yn dda man mae nwydd yn prinhau cyfyd ei bris nes weithiau ei wneud yn brin, neu os parheir i'w ddefnyddio cwyd pris y nwyddau y mae'n rhan ohono tu hwnt i'r hyn mae'r cwmseriaid yn fodlon dalu.

Roedd Wil yn anfodlon iawn ar y pris yr oedd yn ei gael am ei lafur ef a'i anifeiliaid, ac aeth i ben y prif oruchwyliwr, - a oedd yn Sais uniaith, - i ddadlau am godiad yn y pris.

Fe wnaeth - - y pwynt fod y sustem ar hyn o bryd yn caniata/ u cytundebau pris sefydlog o dro i dro a bod hyn yn gweithio yn dda.

Bu rhaid porthi hyd at fis Mai a bu llawer o alw am wair a silwair a'r pris yn dyblu mewn pythefnos.

Pris car Mini yn disgyn i £495.19s 3d.

Doedd - - ddim yn gweld yr angen am archwiliad ariannol o fewn ysbryd a bwriad Cytundeb Pris Sefydlog.

Y mae'r Eglwys Gristionogol ym mhob cyfnod yn talu pris uchel am golli cysylltiad â'r werin ac yn arbennig felly pan fo gofynion parchusrwydd yn peri condemnio gweithwyr eiddgar yn unig am nad ydynt yn cydymffurfio mewn iaith, ymddygiad a gwisg â'n safonau artiffisial ni.

Eisiau galw heibio i'r siop gwerthu anifeiliaid anwes ar y stryd honno yr oedd o er mwyn holi faint fyddai pris ci.

Cewch osod un gan unrhyw werthwr carafanau neu drelars, a bydd y pris yn dibynnu i raddau ar y car.

Bydd dyn wrth ei fodd wedi cael pris da am fuwch dda nas hoffai.

Maen nhw'n codi pris teg am eu llafur.

Mae ffurf wyn a gwartheg yn bwysig iawn i'r ffermwr gan fod pris gwell i'w gael am anifeiliaid sy'n edrych yn dda.