Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

prisiau

prisiau

A bwrw'n fras fod prisiau wedi dyblu, ac enillion wedi cynyddu ryw deirgwaith, yr oedd gwir incwm wedi codi ryw hanner dros y cyfnod: camp ddigon canmoladwy.

Mewn archfarchnadoedd, daeth pobl yn gyfarwydd â chlywed cyhoeddiadau megaffôn am y cynnydd diweddaraf mewn prisiau.

Unwaith eto, mae'r prisiau yn rhesymol iawn.

Os am egluro lefel buddsoddiant a lefel prisiau, yna y mae'n rhaid wrth fodel sy'n cynnwys y farchnad arian a'r farchnad lafur yn ogystal â'r farchnad nwyddau.

'Roedd y ffermwr bellach yn gorfod wynebu toriadau, prisiau gwael, mynydd o ffurflenni, gwaharddiadau, a heintiau a grewyd drwy i ddyn ymyrryd â natur.

Pwrpas y safle yw i rhoi arolwg o'r marina, ei lleoliad, cyfleusterau a prisiau angorfa.

Er bod y byd amaeth yn cychwyn ar gyfnod o newid mawr, gyda'r defnydd a wneid o beriannau wedi lledaenu er mwyn lleihau'r angen i fewnforio bwyd yn ystod y Rhyfel, gan arwain yn anochel at leihau'r nifer o weision a weithiai ar ffermydd a pheri i'r Llywodraeth ddarparu prisiau sefydlog am gynnyrch fferm, cyflwyno portread eithaf rhamantaidd o fyd yr amaethwr a wnaeth Geraint Bowen.

Ond ar y cyfan cyflawnodd y gyfundrefn wasanaeth mawr drwy roi sicrwydd i lefel prisiau allanol mewn byd lle yr oedd prisiau mewnol yn newid yn weddol raddol; ac yn ychwanegol fe orfodwyd ambell i drysorlys i gadw ei fantolen yn fwy gwastad.

Doedd gweddill y cymorth a ddeuai o'r Undeb Sofietaidd - prisiau ffafriol am siwgr yn arbennig - ddim yn ddigon i greu economi ffyniannus.

Doedd dim amdani ond dringo'r grisiau i'r bwyty, a chan ei bod hi bron iawn yn hanner dydd, prynodd ginio i'r tri ohonynt er gwaethaf y prisiau dychrynllyd.

Mae'n wir fod prisiau wynwyn yn cael eu cadw i lawr yn weddol, ond roedd pris wermod lwyd a senna ac asiffeta wedi codi'n enbyd.

Byddai model cydbwysedd cyffredinol sy'n cynnwys yr holl farchnadoedd hyn yn pennu lefelau cytbwys prisiau, y gyfradd llog, a buddsoddiant, yn ogystal â'r incwm gwladol.

"Rhestr Prisiau% Rhestr Prisiau'r Archif am ddarparu a chaniatau defnyddio'r Deunydd fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Mewn gair, gyda'r gyfundrefn o gyfnewid amrywiol, nid oedd rhaid wrth yr un elfen o ddisgyblaeth fewnol ar wariant, buddsoddiant, prisiau a chyflogau.

Y mae'n amlwg nad yw pob newid er gwell, ond da o beth oedd nodi prisiau isel cerddoriaeth brintiedig a recordiau CD sydd, hyd yma, wedi osgoi'r fwyell faterol ac sy'n cynnig cyfle gwych i'r brodorion a'r ymwelwyr fel ei gilydd fwynhau'r gelfyddyd am arian digon rhesymol yn y cyd-destun Ewropeaidd.

Y mae Prisiau'r llyfrau hyn i'w pennu a'u gosod gan yr Esgobion a enwyd a'u Holynwyr, neu gan dri ohonynt o leiaf; os bydd i'r Esgobion a enwyd neu eu holynwyr beidio â gwneud y pethau hyn, Yna bydd i bob un ohonynt fforffedu i'w Mawrhydi y Frenhines, ei Hetifeddion a'i Holynwyr, y swm o ddeugain Punt.

Efallai mai'r trydydd pwynt sy'n denu sylw fu llwyddiant y farchnad gwartheg stor, a hyn unwaith yn rhagor er gwaethaf prisiau gwael cig eidion.

and we trust that we shall be able to give you every satisfaction..." Roedd Willie Solomon yn gobeithio hynny hefyd ar ol darllen y prisiau yn y llyfryn.

Tybiai rhai, yn hollol gywir, fod cyfundrefn sefydlog yn golygu ffrwyno prisiau mewnol er mwyn diogelu'r lefel allanol; ond hefyd, os goddefid i brisiau allanol amrywio, y gallai prisiau mewnol gael eu rhyddhau heb unrhyw angen sicrhau'r cyflenwad o nwyddau a gwasanaethau ar gyfer allforio.

Ers yr oes araf honno mae prisiau wedi carlamu; yn ystod y pum mlynedd diwethaf mae'r bunt wedi haneru mewn gwerth.

(v) lefel prisiau yn ddigyfnewid tra pery lefel yr incwm gwladol yn is nag incwm cyflogaeth lawn, ac unrhyw newid mewn incwm arian felly, yn gymesur â newid mewn incwm real;